Miloedd yn gorymdeithio dros Gymru annibynnol yng Nghaerdydd

Disgrifiad o'r llun, Fe ddechreuodd yr orymdaith ym Mhlas Windsor, Caerdydd, cyn troi am Heol y Frenhines

Daeth miloedd ynghyd yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn i orymdeithio dros gael annibyniaeth i Gymru.

All Under One Banner Cymru a YesCymru drefnodd y digwyddiad ac yn ôl y mudiadau roedd mwy na 10,000 o bobl yn bresennol.

Dywedodd llefarydd yr orymdaith, Harriet Protheroe-Soltani, ei bod yn "bwysicach nawr nag erioed" i'w chynnal.

"O ystyried toriadau trethi diweddar llywodraeth y DU ar gyfer y cyfoethog a'r erydiad parhaus o hawliau gweithwyr, mae'n bwysig - nawr yn fwy nag erioed - fod pobl yn dod at ei gilydd i ddangos nad ydyn ni'n ymddiried yn San Steffan i ofalu am yr hyn sy'n bwysig i Gymru."

Ddydd Gwener, cafodd adroddiad ei gyhoeddi a awgrymodd y gallai Cymru annibynnol wynebu bwlch llawer llai yn ei chyllid cyhoeddus nag y mae amcangyfrifon blaenorol yn ei awgrymu.

Dywedodd Plaid Cymru - a gomisynodd yr adroddiad - fod yr ymchwil "yn chwalu'r ddadl fod Cymru'n rhy fach ac yn rhy dlawd i ffynnu fel cenedl annibynnol".

Ond yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig mae'r adroddiad yn cynnwys rhai "proffwydoliaethau gwyllt".

Disgrifiad o'r llun, Mae Mared, Amy a Megan o Sir Gaerfyrddin yn dweud eu bod yn mwynhau'r awyrgylch

Dywedodd Megan Jones o Sir Gaerfyrddin ei bod yn bwysig iddi wneud ei marc trwy fynd i'r orymdaith.

"Dwi'n clywed lot o hyder. Dwi'n hoffi'r awyrgylch," dywedodd.

"Es i i rali Yes Cymru yn Wrecsam a ro'n ni am fod yma heddi i roi marc fi lawr."

Disgrifiad o'r llun, Mae Gwenno Dafydd o Gaerdydd yn teimlo fod "pethau'n symud ymlaen"

Un arall oedd yn gorymdeithio oedd Gwenno Dafydd o Gaerdydd a dywedodd ei bod "mor hapus".

"Dw i'n teimlo am y tro cyntaf yn fy mywyd fod pethe' yn symud ymlaen.

"Mae'n rhaid i ni gredu yn ein hunain fel cenedl ac os yw hwn yn 'neud i bobl yn San Steffan i siglo yn eu sgidie, wel da o beth."

Disgrifiad o'r llun, Mae Trefor Jones o Gaerdydd yn "gefnogwr brwd o annibyniaeth" dywedodd

Dywedodd Trefor Jones o Gaerdydd ei fod yn "credu'n gryf mewn annibynniaeth i Gymru".

Ond, dywedodd bod "mynydd i'w ddringo" gan fod "llawer o gamwybodaeth ynghylch a yw Cymru'n ddigon mawr i gefnogi ei hun."

"Yn anffodus, sut ddown ni dros hynny, dw i ddim yn siwr. Mae angen llais cryf iawn i wneud hyn. Lle wnawn ni eu ffeindio nhw, dw i ddim yn siwr, ond mae'n rhaid i ni eu ffeindio.

"Allwn ni ddim aros yn rhan o'r undeb fel y mae ar hyn o bryd gyda llywodraeth gwallgof yn San Steffan."

Disgrifiad o'r llun, Roedd Yr Arglwydd Dafydd Wigley yn un o'r siaradwyr wnaeth annerch y dorf ddydd Sadwrn

Cafodd y torfeydd eu hannerch gan sawl siaradwr, gan gynnwys yr Arglwydd Dafydd Wigley, prif weithredwr newydd YesCymru Gwern Gwynfil, yr arctor Julian Lewis Jones ac eraill.

Ym Merthyr dair blynedd nôl, cafodd y dorf eu tanio gan eiriau cyn-gapten tîm rygbi Cymru, a'r sylwebydd uchel ei barch Eddie Butler.

Yn dilyn ei farwolaeth sydyn yn ddiweddar, cafodd ei araith ei chlywed fel rhan o'r rali, cyn i'r gynulleidfa gymeradwyo am funud er cof amdano.