鶹Լ

Cyn-chwaraewr a sylwebydd rygbi, Eddie Butler wedi marw

  • Cyhoeddwyd
Eddie Butler

Mae'r cyn-chwaraewr a sylwebydd rygbi, Eddie Butler, wedi marw yn 65 oed.

Chwaraeodd Butler dros Gymru 16 o weithiau, gan gynnwys fel capten ar chwe achlysur.

Roedd Butler yn aelod pwysig o dîm llwyddiannus Pont-y-pŵl yn y 1970au hwyr a'r 80au, ac yn gapten rhwng 1982 a 1985.

Fe gafodd ei ddewis i'r Barbariaid a'r Llewod yn ystod ei yrfa hefyd.

Bu farw yn ei gwsg yn ystod taith gerdded elusennol ym mynyddoedd yr Andes yn Peru.

Ond yn fwy diweddar, bu'n adnabyddus fel sylwebydd a cholofnydd, gan ddechrau'r rhan honno o'i yrfa gyda'r Observer a'r Guardian.

Ers hynny mae wedi bod yn llais cyfarwydd yng ngemau'r Chwe Gwlad wrth ochr sylwebwyr fel Jonathan Davies a Brian Moore.

Bydd hefyd yn cael ei gofio am ei fonologau dramatig ar achlysuron mawr y byd chwaraeon.

Disgrifiad,

Atgofion Gareth Davies o gyfarfod Eddie Butler am y tro cyntaf

Roedd Butler yn frwd dros annibyniaeth i Gymru, gan ddweud wrth rali yn 2019 ei fod "wedi bod yn aros am y deffroad yma ers amser maith - ar ôl ofni na fyddwn i'n ei weld yn ystod fy oes".

Yn 2016 bu'n trafod ei deimladau o Gymreictod, fel un a gafodd ei "eni i Saeson mewn rhan Seisnig o Gymru - yr hen dref borthladd sydd bellach yn ddinas, sef Casnewydd".

Soniodd am bwysigrwydd S4C, datganoli a'r Eisteddfod Genedlaethol, ac am sut y gallai iaith fod yn "goflaid hyfryd sydd yn gallu achosi i ddieithriaid ymdoddi'n ffrindiau".

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Prostate Cymru

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Prostate Cymru

Mae nifer o wynebau cyfarwydd yn y byd rygbi wedi bod yn rhoi teyrnged yn dilyn y newyddion, gan gynnwys cyn-fewnwr Cymru, Mike Phillips.

"Newyddion syfrdanol am y cawr Eddie Butler. Allai ddim credu'r peth!" meddai. "Roedd yn ddyn mor hyfryd. Meddyliau gyda'i deulu."

Cafwyd teyrnged emosiynol iddo hefyd gan ei gyd-sylwebydd rygbi, Brian Moore.

"Ed, mae'n ddrwg calon gen i mod i erioed wedi dweud wrthot ti faint roeddwn i'n dy edmygu fel darlledwr ac fel dyn," meddai.

"Wel, doedd pethau ddim fel yna rhyngom ni, nac oedd. Cydymdeimladau i Sue a dy deulu.

"Mae chwaraeon wedi colli llais eiconig, ac rydw i wedi colli ffrind annwyl iawn. Hwyl fawr, Edward."

Disgrifiad,

Y sylwebydd Cennydd Davies yn cofio "dawn a llais melfedaidd" Eddie Butler

'Doniol a hoffus'

Mewn datganiad fe ddywedodd Undeb Rygbi Cymru y byddai pawb o fewn y gamp am gydymdeimlo gyda theulu Eddie Butler yn dilyn y newyddion.

"I lawer, Eddie oedd llais rygbi Cymru a bydd colled ar ei ôl ymhlith cefnogwyr ar hyd a lled y byd, yn ogystal â'i gyfeillion yn y gêm ac yma yn Undeb Rygbi Cymru," meddai'r cadeirydd Rob Butcher.

Ychwanegodd: "Roedd yn unigolyn unigryw ac mae dyled y gêm yng Nghymru yn fawr iddo am ei gyfraniadau ar ac oddi ar y cae."

Dywedodd cyn-gapten Cymru, Sam Warburton ei fod wedi "syfrdanu" gan y newyddion.

"Am gyfraniad i rygbi a darlledu," meddai. "Roedd yn fraint cael chwarae a chyd-sylwebu gyda'i lais."

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Eddie Butler yn chwarae dros Gymru yn erbyn Yr Alban yn 1982

Ychwanegodd cadeirydd World Rugby, Syr Bill Beaumont ei fod yn "chwaraewyr gwych a gŵr bonheddig".

"Roedd Eddie Butler yn sylwebydd gwych - llais adnabyddus y gamp i filiynau, ac heb ei ail wrth adrodd straeon y tu ôl i'r meicroffon.

Dywedodd blaenasgellwr Rygbi Caerdydd, Ellis Jenkins fod Butler yn un o'r "bobl fwyaf doniol, hoffus nes i erioed gyfarfod".

"Roedd e wastad yn mynd mas o'i ffordd i wneud i bobl ymlacio o'i gwmpas, ac roedd ei ddawn adrodd ar gyfer rhai o fomentau mwyaf rygbi yn eiconig," meddai.

"Bydd yn cael ei gofio'n annwyl iawn ac mae fy nghalon yn mynd allan i'w deulu."

'Llais rygbi Cymru'

Mewn neges ar Twitter fe ddisgrifiodd Clwb Rygbi Cymry Llundain ef fel "gŵr bonheddig go iawn".

"Roedd Eddie yn ffrind mawr i'r clwb, ac mae ein meddyliau ni gyda'r teulu Butler, yn enwedig gydag aelod ein carfan, Jacob Butler."

Dywedodd y newyddiadurwr rygbi Paul Williams ei fod yn "drist iawn" o glywed am ei farwolaeth.

"Fe oedd llais rygbi Cymru, am ddegawdau," meddai.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter 2 gan Blogdroed 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter 2 gan Blogdroed 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿

Dywedodd Rhuanedd Richards, Cyfarwyddwr 鶹Լ Cymru, fod y "byd rygbi a'r byd darlledu wedi colli un o'r mawrion heddiw".

"Yn gawr yn ei faes, doedd dim terfyn ar ei wybodaeth o rygbi - y sibrydion a'r cecru, y da a'r drwg," meddai.

"Un o gryfderau mwyaf Eddie oedd ei allu i ddal a chyfleu ystyr ac emosiwn y gemau tyngedfennol gyda gonestrwydd a hiwmor ffraeth gan fynd â'i gynulleidfa ar daith.

"Roedd yn deall y gynulleidfa honno, yn deall Cymru ac yn deall ein hangerdd am y gêm.

"Bydd llais Eddie yn gyfystyr â chymaint o'n hoff atgofion o'r achlysuron hanesyddol, ac mae'n anodd iawn dychmygu'r achlysuron mawr hynny ym myd rygbi hebddo."

"Rwy'n siarad ar ran fy nghydweithwyr i gyd yn 鶹Լ Cymru pan rwy'n dweud y byddwn yn ei golli gymaint.

"Mae ein meddyliau oll gyda'i wraig Sue a'r plant ar yr amser trist yma ac rydym yn anfon ein meddyliau a phob cydymdeimlad atynt."

'Ysbrydoliaeth'

Mewn neges ar Twitter dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford: "Trist iawn clywed am farwolaeth Eddie.

"Roedd yn chwaraewr rygbi penigamp ac yn ddarlledwr talentog dros ben. Colled enfawr."

Dywedodd AS Gorllewin Caerdydd, Kevin Brennan: "Cwsg mewn hedd Eddie - roeddet ti'n arwr i mi i Bont-y-pŵl a Chymru - ac fe wnes ti ddod â cherdd i'r grefft o ddarlledu chwaraeon - wedi'n gadael yn rhy fuan."

Ychwanegodd AS Dwyrain De Cymru, Delyth Jewell y byddai "colled fawr ar ei ôl".

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter 3 gan Tudur Dylan Jones 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter 3 gan Tudur Dylan Jones 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿

"Nos da Eddie. Newyddion hynod o drist," meddai.

"Fe ges i'r fraint enfawr o rannu platfform gydag Eddie Butler yn rali annibyniaeth Merthyr yn 2019. Cawr addfwyn wnaeth ysbrydoli cymaint gyda'i ddawn dweud."

Dywedodd AS Canol De Cymru, Andrew RT Davies ei fod yntau'n teimlo "syndod a thristwch".

"Byddaf yn colli llais eiconig Eddie Butler yn fawr, does dim dwywaith ei fod yn gawr yn y byd darlledu a rygbi Cymru," meddai.

Pynciau cysylltiedig