Betsi Cadwaladr: Ail ysbyty yn Lloegr i gymryd rhai cleifion fasgwlaidd

Disgrifiad o'r llun, Bu gwasanaethau fasgwlar y bwrdd iechyd yn destun adroddiad damniol ym mis Chwefror

Mae ail ysbyty yn Lloegr wedi cytuno i gymryd rhai cleifion fasgwlaidd o Gymru, oherwydd bod y gwasanaeth yn y gogledd yn "fregus".

Mae rhai cleifion cymhleth eisoes yn mynd i Lerpwl i gael llawdriniaeth, ond mae'r Gweinidog Iechyd Eluned Morgan wedi dweud y gallai rhai nawr gael eu cludo i Stoke-on-Trent hefyd.

Esboniodd Ms Morgan bod "pryderon am ansawdd diogelwch cleifion" ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi'u codi gan banel arbenigol.

Ychwanegodd bod prinder ymgynghorwyr a nyrsys mewn gwasanaethau fasgwlaidd o fewn y bwrdd iechyd.

Disgrifiad o'r llun, Cafodd gwasanaethau fasgwlar y gogledd eu symud i Ysbyty Glan Clwyd yn Ebrill 2019

Yn 2019, fe wnaeth y bwrdd ganoli triniaethau fasgwlar cymhleth yn Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan, gan eu symud o Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Maelor Wrecsam.

Maen nhw wedi bod o dan y lach ers hynny, gyda dau adroddiad beirniadol gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon a rhybudd terfynol gan Lywodraeth Cymru yn bygwth rhoi'r bwrdd yn ôl dan fesurau arbennig yn gynharach eleni.

Ddydd Mawrth, dywedodd Ms Morgan bod "nifer o bryderon am ansawdd diogelwch cleifion wedi'u codi gan y Panel Ansawdd Fasgwlaidd" mewn perthynas â rheoli cleifion aortig yn ystod mis Gorffennaf.

Cafodd y panel ei sefydlu yn dilyn adroddiad damniol Coleg Brenhinol y Llawfeddygon ym mis Chwefror.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd Ms Morgan hefyd fod "pwysau gweithredol yn bodoli oherwydd diffyg argaeledd ymgynghorwyr a nyrsys mewn gwasanaethau fasgwlaidd o fewn y bwrdd iechyd".

O ganlyniad, dywedodd, bydd rhai cleifion yn cael triniaeth yn Lloegr.

"Y prif bryder yw'r gallu i ddarparu gwasanaeth diogel i boblogaeth y gogledd.

"O ganlyniad i heriau'r gwasanaethau uniongyrchol ac yn dilyn trafodaeth ehangach gyda darparwyr yn Lloegr, daethpwyd i gytundeb y gellir trosglwyddo rhai cleifion, yn ystod mis Awst, i Ysbyty Athrofaol Brenhinol Lerpwl neu, fel sydd eisoes yn digwydd yn achos trigolion gogledd Cymru ag anafiadau trawma mawr, i Ysbyty Athrofaol Brenhinol Stoke."

Disgrifiad o'r llun, Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yw'r mwyaf yng Nghymru

Bu trefniant dros dro yn y gwanwyn i drin cleifion fasgwlar o ogledd Cymru yn Lerpwl.

Fe wnaeth y trefniant gael ei ymestyn yn hirach na'r disgwyl bryd hynny o ganol Mawrth tan ganol Mai ar ôl dau "ddigwyddiad difrifol arall".

Dywedodd Ms Morgan ei bod wedi "derbyn cyngor ynghylch sefydlu rhwydwaith fasgwlaidd i Gymru gyfan".

Ychwanegodd bod Llywodraeth Cymru yn "darparu cyllid i sefydlu trefniadau rhwydwaith dros dro ar gyfer materion fasgwlaidd, gan gynnwys penodi arweinydd clinigol cenedlaethol dros dro".

"Yn ystod y cyfnod hwn gellir gwneud gwaith i egluro cwmpas a rôl rhwydwaith ar gyfer gwasanaethau fasgwlaidd, yn ogystal â dechrau cyflwyno rhai prosesau gwella ansawdd megis rhaglen adolygu gan gymheiriaid.

"Bydd y rhwydwaith hwn yn gweithio ochr yn ochr â'r byrddau iechyd ac yn cefnogi Rhwydwaith Cyflawni Gweithredol De-ddwyrain Cymru ar gyfer Gwasanaethau Fasgwlaidd, sydd newydd ei sefydlu."