Â鶹ԼÅÄ

Rhybudd ac apêl gan deulu bachgen fu farw yn Afon Taf

  • Cyhoeddwyd
Aryan GhoniyaFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Aryan Ghoniya yn Afon Taf, Caerdydd ym mis Mehefin

Mae teulu bachgen 13 oed a fu farw yn Afon Taf yn poeni y bydd rhagor o ddigwyddiadau tebyg.

Bu farw Aryan Ghoniya ym mis Mehefin ar ôl mynd i drafferthion yn yr afon tra'n chwarae gyda'i ffrindiau.

Roedd tad un o'i ffrindiau wedi ceisio'i achub, ond cafodd ei rwystro rhag gwneud hynny gan sbwriel, yn cynnwys trolïau siopa, yn y dŵr.

Mae ei deulu'n galw am lanhau'r afon er mwyn helpu i atal digwyddiadau o'r fath.

Bachgen disglair

O'i gymharu â gweddill y DU, mae bron i ddwywaith cymaint o bobl yn boddi yng Nghymru, yn ôl ffigyrau diweddar.

Mewn cyfweliad gyda Â鶹ԼÅÄ Cymru dywedodd teulu Aryan, a oedd yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Radur, ei fod yn fachgen disglair a hynod alluog, a oedd yn ceisio cyflawni record byd am gwblhau'r Rubik's cube.

Dywedodd Vimla Patel, perthynas i'r teulu: "Mae'n amser anodd iawn i'r teulu yn eu galar, yn enwedig i'w rieni Hina a Jitu a'i chwaer Naviya.

"Ond ar adegau fel hyn yr ydym yn gweld y daioni mewn pobl a chymunedau."

Ffynhonnell y llun, David Cargill
Disgrifiad o’r llun,

Hina, mam Aryan, ei dad, Jitendra, a'i chwaer Naviya yn ymweld â theyrngedau iddo yng Ngerddi Windsor, Radur

Mae teulu Aryan yn erfyn ar blant i beidio cael eu temtio i nofio yn ystod tywydd poeth.

"Roedd Aryan fel unrhyw fachgen ifanc arall - cariadus, gofalgar ac anturus. Mae ei farwolaeth drasig tra'n nofio yn Afon Taf wedi chwalu ein teulu a'r gymuned," meddai Ms Patel.

"Mae ei rieni a'r teulu yn dal i geisio dod i delerau â'r drasiedi hon ac yn cynghori pawb i fod yn ofalus tra'n nofio mewn dyfroedd sydd ddim yn adnabyddus iddyn nhw, yn enwedig os nad oes achubwyr bywyd yn goruchwylio."

Ychwanegodd Ms Patel fod y teulu'r crefu ar eraill i beidio nofio mewn afonydd neu leoliadau anniogel eraill er mwyn osgoi mynd drwy'r "gofid a'r boen" y maent wedi'i ddioddef.

"Rydym yn ofni nad marwolaeth Aryan fydd yr olaf."

Yn ystod agoriad y cwest i farwolaeth Aryan, clywodd Llys Crwner Pontypridd bod archwiliad post-mortem yn nodi "tansuddiad" (immersion) fel achos marwolaeth rhagarweiniol.

Clywodd y cwest fod ffrindiau'r bachgen wedi ffonio 999.

Ffynhonnell y llun, Mark Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Cynhaliwyd angladd Aryan yn Amlosgfa Thornhill Caerdydd

Ym mis Mai, bu farw Kane Edwards, 13 oed, ar ôl mynd i drafferthion yn Afon Tawe, Abertawe.

Ar gyfartaledd mae tua 45 o bobl yn marw yng Nghymru bob blwyddyn mewn digwyddiadau'n ymwneud â dŵr, gyda chyfartaledd o 600 o bobl ar draws y DU, yn ôl ffigyrau Diogelwch Dŵr Cymru.

Mae nifer anghymesur o uchel o bobl yn boddi'n ddamweiniol yng Nghymru a'r Alban o ystyried poblogaeth y ddwy wlad, yn ôl Strategaeth Atal Boddi y DU.

Mae hyn yn rhannol oherwydd twristiaeth a nifer y bobl sy'n byw yn ymyl dŵr.

Mae'r strategaeth yng Nghymru'n datgan: "Mae'r raddfa sy'n boddi yng Nghymru bron i ddwbl graddfa'r DU."

Yn 2018, bu farw mwy o bobl trwy foddi damweiniol na mewn tanau, damweiniau beicio a beic modur, neu ddamweiniau yn y gweithle, yn ôl y ddogfen.

Mae teulu Aryan wedi galw am wella diogelwch yng Nghymru.

Meddai Ms Patel: "Byddai'r teulu'n hoffi gweld newidiadau a mesurau diogelwch ychwanegol yn dod i mewn ger afonydd a dyfroedd eraill. Byddwn hefyd yn hoffi gweld arwyddion addas ger yr afon."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Aryan gyda'i dad-cu a'i fam-gu, ei rieni a'i chwaer fach

Mae'r teulu hefyd wedi datgelu'r ymdrechion a wnaed i achub Aryan.

"Neidiodd tad ffrind Aryan i'r dŵr i'w achub ond daeth ar draws llawer o sbwriel yn Afon Taf megis trolïau, olwynion a darnau metel," meddai Ms Patel.

"Hoffem ofyn i'r cyhoedd beidio taflu eitemau o'r fath i'r afon ac i'r awdurdodau lanhau'r afon mewn ymdrech i achub bywydau."

Mae'r teulu'n dymuno gweld rhieni ac ysgolion yn helpu pobl ifanc i ddeall y peryglon o nofio mewn mannau anniogel, ac i ysgolion wneud mwy i ddysgu pob plentyn i nofio.

Nod Strategaeth Atal Boddi Cymru 2020-2026 ydy haneru nifer y marwolaethau trwy foddi damweiniol erbyn 2026.

Mae'r corff hefyd yn chwarae rhan mewn darparu gwybodaeth ddwyieithog am ddiogelwch dŵr mewn cymunedau lle mae'r Gymraeg yn iaith gyntaf.

Pynciau cysylltiedig