Â鶹ԼÅÄ

Bachgen, 13, wedi marw ar ôl mynd i drafferthion yn Afon Taf

  • Cyhoeddwyd
AryanFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Aryan Ghoniya ar ôl mynd i drafferthion yn Afon Taf yr wythnos ddiwethaf

Bu farw bachgen 13 oed ar ôl mynd i drafferthion yng ngherrynt cryf Afon Taf wrth chwarae gyda'i ffrindiau yr wythnos ddiwethaf.

Dyna glywodd llys y crwner ym Mhontypridd ddydd Iau yn dilyn marwolaeth Aryan Ghoniya ar 21 Mehefin.

Ar ôl i'r bachgen fynd i drafferthion, fe wnaeth ei ffrindiau ffonio'r gwasanaethau brys.

Clywodd y llys fod Aryan, oedd yn ddisgybl ym mlwyddyn 8 Ysgol Gyfun Radur, wedi cael ei ddarganfod gan ddeifwyr yr heddlu 55 munud yn ddiweddarach.

Ond, doedd hi ddim yn bosib i'w achub.

Mae'r cwest wedi cael ei ohirio tra bod ymchwiliad yr heddlu'n parhau.

Pynciau cysylltiedig