Derbyn un sy'n gofalu am yr Orsedd i'r Orsedd

Disgrifiad o'r llun, Mae Janet ac Eric Jones wrth eu bodd yn cael stiwardio yn y Steddfod

Bydd un o wirfoddolwyr mwyaf ffyddlon yr Orsedd yn cael ei derbyn i'r Orsedd ei hun yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Mae'r brifwyl yn wythnos fawr i Janet Mair Jones o Bencader, Sir Gâr - mae'n un o'r stiwardiaid sy'n gofalu am fynediad yr Orsedd i'r pafiliwn.

Ond eleni yn Nhregaron fe fydd Janet - sy'n gwirfoddoli ers 25 mlynedd - yn cael ei hurddo i'r Orsedd ei hun.

Mae hi'n un ymhlith dros 20 o bobl a fydd yn cael eu hurddo i'r wisg las, er anrhydedd.

Enw i gofio am drasiedi colli mab

Mae gŵr Janet, Eric Jones, eisoes yn aelod o'r Orsedd.

Fe gafodd ei dderbyn yng Nghaerdydd yn 2018 a'i enw gorseddol yw Eric Derfel, a hynny er cof am eu mab bach Derfel a fu farw wedi damwain ffordd ym Mhencader yn 1985.

"Dwi'm yn meddwl bo' fi fod i ddatgelu fy enw gorseddol i cyn dydd Gwener," medd Janet, "ond fe fydd fy enw i yn debyg i un Eric a hynny i gofio am Derfel bach.

"Ro'dd ei golli, ac yntau ond yn 11, yn ergyd fawr i ni ond rhaid i fywyd fynd yn ei flaen - ac i ddweud y gwir mae gwaith y Steddfod wedi bod yn help mawr i fi a'r gŵr ddelio 'da'r cyfan ac mae'r Brifwyl wedi dod yn rhan annatod o fywyd ein plant eraill."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Disgrifiad o'r llun, Mae Eric a Janet Jones wedi dewis enwau gorseddol er cof am eu mab Derfel, a fu farw yn 1985

Dywed Janet ei bod hi a'i gŵr yn parhau i "fwynhau'r gwaith yn fawr".

"Dechreuodd Eric wirfoddoli yn Eisteddfod Llanbed yn 1984 a finne rai blynyddoedd yn ddiweddarach yn Eisteddfod Y Bala yn 1997 wedi i'r plant ddod yn hŷn," meddai wrth siarad â Cymru Fyw.

"Y Steddfod yw'n gwyliau ni bob blwyddyn - ni ddim yn bobl sy'n teithio rhyw lawer ond mae wythnos y Steddfod yn bwysig iawn yn ein calendr ni.

"A 'na braf yw gweld rhannau gwahanol o Gymru wrth i'r Steddfod deithio o un lle i'r llall a dod i 'nabod pobl - mae'r Steddfod yn golygu ein bod wedi 'neud ffrindiau oes.

"Falle bo' ni ond yn gweld nhw unwaith neu ddwy y flwyddyn ond mae'r cyfeillgarwch yn bwysig iawn.

"Fi fel arfer yn cael fy rhoi i ofalu am yr Orsedd - mae eisiau 'neud siŵr fod neb arall yn pwsho mewn a rhaid cadw'r llwybr yn glir iddyn nhw."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Disgrifiad o'r llun, Bydd Janet Jones yn cael ei hurddo i'r Orsedd ddydd Gwener

Bydd eleni yn flwyddyn bwysicach nag arfer i Janet Jones wrth iddi weld nifer o'i ffrindiau am y tro cyntaf ers 2019.

Yn goron ar y cyfan, fe fydd yn cael ei hurddo i'r wisg las ddydd Gwener.

"Ges i wybod yn 2020 wrth gwrs, a hynny drwy e-bost. Wel am sioc - 'wy'n cofio'n iawn agor yr e-bost yn hwyr y nos a ffaelu credu'r peth - a'r dasg fwyaf wedyn o'dd peidio datgelu'r newyddion. O'n i'n gorfod cadw fe'n dawel.

"Mae'n anrhydedd mawr a fi mor falch cael cydnabyddiaeth am waith sy'n golygu'r byd i fi."

Mae Janet yn cael ei chydnabod hefyd am ei gwaith yn cydlynu 'County Cars', sef gwasanaeth lleol i'r rhai sy'n methu defnyddio bws neu yrru car i gyrraedd apwyntiadau pwysig fel rhai ysbyty.

"Mae'n mynd i fod yn Steddfod dda heb os nac oni bai," ychwanega.

"Fuon ni lan yn Nhregaron ryw bythefnos yn ôl a chi'n gallu gweld bod 'na groeso mawr yn mynd i fod 'da'r Cardis."