Â鶹ԼÅÄ

Cyflwyno Coron a Chadair Eisteddfod Ceredigion

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
coron a chadair TregaronFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol Cymru

Mae Coron a Chadair Eisteddfod Ceredigion bellach wedi'u cyflwyno i Bwyllgor Gwaith y Brifwyl, a hynny mewn seremoni arbennig yng Nghanolfan Rhiannon, Tregaron.

Eleni mae'r goron wedi ei chynhyrchu a'i chynllunio gan yr artist, Richard Molineux ac mae'n ddathliad o ddiwylliant yr ardal a Chymru mewn cyfres o 12 o ffasedau gwydr lliw.

Mae'r elfennau diwylliannol yn cynnwys Castell Aberteifi, Cors Caron, y barcud coch, Afon Teifi, Abaty Ystrad Fflur a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Bridfa Ryngwladol Cobiau Cymreig Derwen sy'n rhoi'r goron eleni ac Ifor a Myfanwy Lloyd o'r fridfa sy'n rhoi'r wobr ariannol.

Fe'i cyflwynir ar ddydd Llun yr Eisteddfod am bryddest neu gasgliad o gerddi heb fod mewn cynghanedd, hyd at 250 o linellau, ar y pwnc Gwres.

Beirniad cystadleuaeth y goron eleni yw Cyril Jones, Glenys Mair Roberts a Gerwyn Wiliams.

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol

I greu'r goron paentiodd Mr Molineux ei ddyluniadau gwreiddiol ar wydr wedi'i chwythu â cheg, cyn ei staenio â staen arian a'i enamlo â ffrit lliw..

Defnyddiodd dechneg ffoil copr i greu cyfres o ffasedau tri dimensiwn.

Yna, gosododd y gwydr ar fand pen copr wedi'i wehyddu â llaw, yn debyg i arddull gwehyddu basged, er mwyn cynrychioli basged gynhaeaf a'r creadigrwydd sy'n cael ei gynaeafu yn yr Eisteddfod.

O fewn y band pen ceir cap ffelt coch llachar, wedi'i frodio â chord aur gan yr artist tecstilau Elinor McCue mewn patrwm clymwaith Celtaidd.

'Dodrefnyn addas i'r cartref'

Cyflwynir y Gadair eleni am awdl neu gasgliad o gerddi mewn cynghanedd gyflawn ar y teitl Traeth, ac mae wedi ei chynllunio gan Rees Thomas o Bow Street.

Yn gyn-athro gwaith coed yn Ysgol Gyfun Penweddig, Aberystwyth, dywedodd: "Cefais fy ysbrydoli gan batrymau llif yr Afon Teifi wrth iddi ymdroelli o fryniau Elenydd drwy'r sir ac i'r môr ger Aberteifi.

"Yn ogystal â chreu Cadair sy'n cymryd ei lle ar lwyfan ein Prifwyl, ro'n i hefyd yn awyddus i greu dodrefnyn sy'n addas ar gyfer y cartref."

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol

Mae'r Gadair ei hun wedi'i chreu o goedyn derw, ac meddai Rees wrth drafod y cynllun ar ei chefn: "Rydw i wedi benthyg y syniad o gynnwys y nod cyfrin ac enw Ceredigion yng Nghoelbren y Beirdd o Gylch yr Orsedd yng Nghastell Aberystwyth.

"Mae'r rhain wedi'u gwneud o bren derw'r gors o Gors Fochno ger Y Borth yng ngogledd y sir."

Mae'r barcud coch hefyd yn cael lle amlwg ar gefn y Gadair, ac yn ôl Rees, mae'r ddelwedd yn seiliedig ar baentiad gan ei gyfaill, Wynne Melville Jones.

"Ro'n i am ddathlu llwyddiant ysgubol yr ymgyrch i achub a datblygu'r rhywogaeth, yn arbennig yn yr ardal yng nghanolbarth y sir o amgylch Tregaron, a pherthnasedd yr ymgyrch gadwraeth honno o safbwynt ein brwydr ni heddiw i sicrhau dyfodol ein hiaith," meddai.

Beirniaid cystadleuaeth y gadair yw Idris Reynolds, Emyr Lewis a Twm Morys. Fe'i noddir gan Gylch Cinio Dynion Aberystwyth a rhoddir y wobr ariannol gan deulu Eluned ac W Ambrose Bebb.

Gobeithio am deilyngdod

Wrth dderbyn y Goron a'r Gadair ar ran yr Eisteddfod nos Iau dywedodd cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Elin Jones: "Mae'n bleser bod yma heno i dderbyn y Goron a'r Gadair ar ran yr Eisteddfod.

"Cwta fis sydd i fynd tan y byddwn ni i gyd yn dod ynghyd yma yn Nhregaron ar gyfer yr Eisteddfod, ein Heisteddfod ni.

"Rwy'n siŵr ein bod ni i gyd yn mawr obeithio y cawn ni enillwyr haeddiannol yn y ddwy seremoni. Ac mae'r Gadair a'r Goron ill dwy yn hardd ac yn cynrychioli gwahanol elfennau o'n sir, ac yn gwbl deilwng o'u lle ar lwyfan ein Pafiliwn eleni."

Cynhelir seremoni'r Coroni ddydd Llun 1 Awst a seremoni'r Cadeirio ddydd Gwener 5 Awst.

Mae'r Archdderwydd, Myrddin ap Dafydd wedi llunio cerddi i ddiolch am y Goron a'r Gadair:

Y Goron

I'r lle y bydd adenydd i'r doniau;

Lle nad yw hi'n job i ganfod cobiau;

Lle y gân ifanc; lle'r holl gynaeafau -

Awn a thynnu ar y delyn a'i thannau,

Gwefru'r ŵyl drwy gyfrolau'n llenyddiaeth,

Rhoi ar go' olyniaeth o'r gors i'r glannau.

Y Gadair

Pynciau cysylltiedig