Oriel: Cymru yn y gwres

Mae Cymru wedi profi deuddydd o wres mawr - y poethaf ar record ddydd Llun wrth i'r tymheredd gyrraedd 37.1C ym Mhenarlâg, Sir y Fflint.

Dyma rai o'r golygfeydd drwy'r wlad dros y cyfnod byr o boethder cyn i'r rhagolygon ddarogan ychydig o law mewn rhai ardaloedd ar ôl dydd Mawrth.

Disgrifiad o'r llun, Roedd pontŵn Llanberis dan ei sang o bobl ifanc yn ceisio cadw'n oer yn y gwres mawr ddydd Llun
Disgrifiad o'r llun, Llwyddodd ambell un i ddod o hyd i dawelwch ar y dŵr yn Llyn Padarn drwy fentro ymhellach i ganol y llyn
Disgrifiad o'r llun, Yn y Sioe Frenhinol roedd Harm, 8 oed, o'r Iseldiroedd wedi dod o hyd i dap dŵr i geisio cadw'r gwres i lawr
Disgrifiad o'r llun, Yn y sied wartheg hefyd roedd angen helpu'r anifeiliaid rhag gorboethi
Disgrifiad o'r llun, Greg, Andy a Josh, ymwelwyr o Gilgwri (y Wirral) yn mwynhau peint yn yr haul ar ôl bod yn y môr ym Miwmares, Ynys Môn
Disgrifiad o'r llun, Stryd boeth ym Mhenarlag, Sir y Fflint, y lle poethaf yng Nghymru ddydd Llun, erioed, yn ôl cofnodion, gyda thymheredd o 37.1C
Disgrifiad o'r llun, Roedd llawer wedi gwrando ar y cyngor i aros mewn yn ystod y tywydd poethaf ond roedd ambell un wedi dod i fwynhau traeth Llandudno

Ffynhonnell y llun, Gwersyll yr Urdd Glan-llyn

Disgrifiad o'r llun, Dŵr oer Llyn Tegid yn gwahodd wrth i blant yng ngwersyll yr Urdd, Glan-llyn, gysgodi dan goeden
Disgrifiad o'r llun, A diolch byth am y coed yn gysgod nôl yn y Sioe Fawr ddydd Mawrth hefyd
Disgrifiad o'r llun, Roedd llai o ymwelwyr nag arfer yng Nghonwy - mwy o gyfle i'r rhai oedd wedi mentro i gael tynnu eu llun wrth y TÅ· Lleiaf yng Nghymru felly
Disgrifiad o'r llun, A dipyn o fynd ar y stondin gwerthu hufen iâ

Ffynhonnell y llun, Tudur davies

Disgrifiad o'r llun, Anfonodd Tudur Davies luniau o'r ddaear yn sych grimp yn Nyffryn Clwyd

Ffynhonnell y llun, Tudur Davies

Disgrifiad o'r llun, Ac Afon Elwy yn isel
Disgrifiad o'r llun, Roedd gwasanaethau achub yn rhoi cyngor am nofio yn ddiogel ym Mhorthcawl ddydd Mawrth
Disgrifiad o'r llun, Gyda'r traeth ym Mhorthcawl yn weddol llawn daeth y cymylau ag ychydig o law hefyd - arwydd bod y sbel o dywydd eithriadol boeth ar drai

Ffynhonnell y llun, Tudur Davies

Disgrifiad o'r llun, Bydd y caeau melyn ger Diserth yn Nyffryn Clwyd yn falch o unrhyw ddiferion a ddaw