Â鶹ԼÅÄ

Tymereddau'n codi i 36C wedi'r noson boethaf ers 1948

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Llys y FranFfynhonnell y llun, Dwr Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dŵr Cymru bod lefelau dŵr dros y wlad yn dda, ond bod pryder am ardal Sir Benfro, fel yma yn Llys-y-Fran

Nos Lun oedd y noson boethaf yng Nghymru ers 74 mlynedd.

Dros nos roedd y tymheredd ar ei isaf yn 24.5C (76F) yn Aberporth, Ceredigion - hyn felly yn uwch na'r record flaenorol o 22.2C (71.96F) yn 1948.

Mae Prydain wedi cofnodi tymheredd dros 40C am y tro cyntaf erioed ddydd Mawrth, gyda 40.3C wedi ei gofnodi yn Coningsby, Sir Lincoln, a 40.2C ym Maes Awyr Heathrow yn Llundain.

Ddydd Llun fe gofnododd Cymru y diwrnod poethaf erioed wrth i'r tymheredd gyrraedd 37.1C ym Mhenarlâg, Sir y Fflint - y record flaenorol oedd 35.2C yn yr un lle yn 1990.

Mae tymereddau'n uchel eto ddydd Mawrth, gyda 36.2C wedi ei gofnodi ym Mhenarlâg, sy'n ei gwneud yn swyddogol yr ail ddiwrnod twymaf ar gofnod yng Nghymru.

Dywed Dŵr Cymru bod record arall wedi ei thorri ddydd Llun wrth i Gymru ddefnyddio mwy o ddŵr nag erioed o'r blaen mewn diwrnod - mewn mannau fe gafodd 40% yn fwy o ddŵr na'r arferol ei ddefnyddio.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan S4C Tywydd

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan S4C Tywydd

Roedd hi'n ddiwrnod cynnes iawn eto ddydd Mawrth - dywed y Swyddfa Dywydd bod y tymheredd yn 30C yng Ngogerddan yng Ngheredigion am 08:00.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter 2 gan S4C Tywydd

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter 2 gan S4C Tywydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n ddiwrnod cynnes iawn eto yn y Sioe Fawr yn Llanelwedd a'r cysgod yn denu nifer o'r dorf

Disgrifiad o’r llun,

Un ffordd o gadw'n oer yn y Sioe Fawr

Dywedodd Lee Brooks, cyfarwyddwr gweithredol Gwasanaeth Ambiwlans Cymru y bydd eu cynlluniau i ddelio ag effeithiau'r gwres yn parhau ddydd Mawrth a Mercher.

"Problemau anadlu a phoenau yn y frest yw'r prif resymau dros ffonio 999 ac mae yna anogaeth i'r cyhoedd fod yn ofalus yn ystod heno, fory a'r diwrnodau nesaf," meddai.

"Mae unedau brys nifer o ysbytai o dan bwysau ac ry'n yn parhau i roi blaenoriaeth i'r rhai sy'n ddifrifol wael neu wedi'u hanafu'n ddrwg."

Dywedodd prif weithredwr Dŵr Cymru, Peter Perry, bod mwy o alw am ddŵr ond nad oedd angen poeni am gyflenwadau ar hyn o bryd.

"Ddydd Llun cafodd mwy o ddŵr ei ddefnyddio nag erioed o'r blaen," meddai.

"Ry'n fel arfer yn cyflenwi 800 miliwn litr o ddŵr y dydd - ond ddoe roedd y nifer yn fwy na biliwn o litrau."

Ychwanegodd: "Roedd yna gynnydd o 20% mewn mannau ac yn ardaloedd gwledig Sir Benfro a chanolbarth Cymru roedd y cynnydd yn 40%."

Dywedodd Dŵr Cymru bod lefelau'n dda yn y rhan fwyaf o'r wlad, ond bod rhywfaint o bryder am y sefyllfa yn Sir Benfro.

Er nad ydynt yn rhagweld problemau ar unwaith, dywedodd yr asiantaeth y gallai ystyried cyfyngiadau os na fydd glaw "sylweddol" cyn diwedd mis Awst.

Pynciau cysylltiedig