'Cymry'n talu am driniaeth breifat Covid hir yn Lloegr'

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae rhai yn parhau i ddioddef sgil-effeithiau Covid-19 misoedd lawer ar ôl ei ddal yn y lle cyntaf
  • Awdur, Gwyn Loader
  • Swydd, Prif ohebydd Newyddion S4C

Mae cleifion o Gymru yn gorfod talu am driniaethau preifat ar gyfer Covid hir yn Lloegr oherwydd diffyg darpariaeth, yn ôl dwy ddynes o'r gogledd sy'n byw â'r cyflwr.

Yn ôl Llywodraeth Cymru maen nhw wedi gwario £5m ar gynllun Adferiad, sydd yn cynnig gofal wedi ei deilwra i gleifion Covid hir.

Ond dywedodd un ddynes wrth Newyddion S4C ei bod eisoes wedi gwario dros £1,000 ar driniaeth breifat.

Ychydig dros flwyddyn yn ôl, fe gafodd Sarah Turner o Lansannan ei tharo'n wael gan Covid-19.

Disgrifiad o'r llun, Mae Sarah Turner yn dweud ei bod wedi gorfod ymddeol yn gynt nag oedd hi'n dymuno oherwydd y cyflwr

"Nes i dreulio pythefnos yn fy ngwely ac o'n i'n cysgu. Ac roedd fy nghorff i'n brifo.

"Nes i ffonio'r GP ar ôl tua mis neu chwech wythnos a dweud, dwi ddim yn gwella. 'Naeth hi ddweud 'mae'n ddrwg gennai, mae gennych chi long Covid'.

"A nes i ddweud 'beth rŵan' a 'naeth hi ddweud 'dwi'm yn gwybod'."

Yn gyn-athrawes gwyddoniaeth 61 oed, mae Ms Turner yn dweud ei bod wedi gorfod ymddeol yn gynt nag oedd hi'n dymuno oherwydd y cyflwr, gan ddweud nad oes egni ganddi a'i bod hi'n methu canolbwyntio.

Mae wedi cael sesiwn gyda ffisiotherapydd drwy'r bwrdd iechyd lleol ac wedi mynychu cyfres o sesiynau ar-lein gydag eraill sydd yn byw gyda Covid hir.

Disgrifiad o'r llun, "Does dim byd yng Nghymru" i ddelio â Covid hir, meddai Sarah Turner

Ond mae hefyd yn dweud ei bod wedi gorfod talu am sesiynau preifat sydd yn cael eu rhedeg o Brighton - a bod y rheiny wedi bod o fwy o fudd na'r cymorth drwy'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

"Does dim byd yng Nghymru, ac yng ngogledd Cymru, os nad ydw i wedi ei fethu o, mae lot llai fan hyn," meddai.

Adferiad

Yn Lloegr mae'r llywodraeth wedi ariannu rhwydwaith o glinigau arbenigol i drin Covid hir, ond yng Nghymru a'r Alban mae llywodraethau wedi dilyn trywydd gwahanol.

Ym Mae Caerdydd mae'r llywodraeth wedi buddsoddi £5m mewn cynllun o'r enw Adferiad.

Y bwriad yw cryfhau gwasanaethau sydd eisoes ar gael drwy fyrddau iechyd a chynnig gofal yn agosach at gartrefi cleifion.

Disgrifiad o'r llun, "Mae'n bwysig i weld beth sydd yn digwydd yn Lloegr, pa glinigau sydd yn 'neud yn dda yn Lloegr," meddai Sian Griffiths

Ond dyw pawb ddim yn hapus a'r cynllun hwnnw. Un arall sydd wedi talu am driniaethau preifat yn Lloegr yw Sian Griffiths o Landegfan, Ynys Môn.

Cyn dal Covid roedd hi'n ffisiotherapydd, yn mwynhau dringo mynyddoedd a seiclo, ond mae Covid hir wedi rhoi stop ar ei bywyd a'i gwaith.

Mae'n dweud ei bod wedi talu rhyw £1,000 am driniaethau fyddai ar gael drwy'r gwasanaeth iechyd yn Lloegr, ond sydd ddim ar gael iddi hi.

Fel aelod o grŵp Long Covid Wales, mae'n dweud y dylai Cymru ddysgu gwersi o ochr arall y ffin.

"Mae'n bwysig i weld beth sydd yn digwydd yn Lloegr, pa glinigau sydd yn 'neud yn dda yn Lloegr," meddai.

"Cael gwybodaeth am beth sydd yn 'neud yn dda yna, beth sydd ddim yn 'neud yn dda, a 'neud nhw yma."

Disgrifiad o'r llun, Mae Sian Griffiths wedi talu rhyw £1,000 am driniaethau fyddai ar gael drwy'r gwasanaeth iechyd yn Lloegr

Mewn datganiad, dywedodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr eu bod nhw'n edifar clywed bod cleifion yn anhapus gyda'r gofal maen nhw wedi ei dderbyn.

"Dydyn ni methu cynnig sylw ar achosion unigol ond rydyn ni'n annog unrhyw un sydd yn gofidio am eu gofal i gysylltu gyda'n gwasanaeth cyngor i gleifion," meddai'r datganiad.

Dywedon nhw hefyd bod cynllun Covid hir wedi ei lansio gan y bwrdd iechyd yn Rhagfyr 2021 a bod bron i 1,000 o bobl wedi eu cyfeirio at y gwasanaeth hwnnw.

Ychwanegon nhw eu bod yn cynnig amrywiaeth o gymorth ac ymyriadau wedi eu teilwra i gleifion unigol drwy'r gwasanaeth hwnnw.

'Wedi'i deilwra i'r unigolyn'

Mewn ymateb dywedodd Llywodraeth Cymru: "Mae ein rhaglen Adferiad yn darparu dull o drin Covid Hir sydd wedi'i deilwra i'r unigolyn, gan ymateb i'r amrywiaeth eang o symptomau sydd gan bobl.

"Mae'n canolbwyntio ar ehangu'r gwasanaethau diagnosis, adsefydlu a gofal sydd ar gael i bobl sy'n dioddef o Covid Hir, er mwyn sicrhau eu bod yn gallu cael gafael ar y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt, mor agos i'w cartrefi â phosibl.

"Bydd pobl sydd angen cymorth mwy arbenigol, sydd ddim ond ar gael gan wasanaethau mewn ysbytai, yn cael eu cyfeirio drwy eu meddyg teulu neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol.

"Yn yr adolygiad chwe mis cyntaf o'r rhaglen Adferiad, dywedodd y rhan fwyaf o'r bobl a gymerodd ran eu bod yn teimlo bod pobl yn gwrando ar eu pryderon a'u bod yn cael eu cefnogi i gael y cymorth a'r wybodaeth roedd eu hangen arnynt.

"Dywedodd mwy na 70% bod eu profiad o'r gwasanaeth yn uwch na'r cyfartaledd a byddai mwy nag 87% yn argymell y gwasanaeth."