Â鶹ԼÅÄ

'Dioddefwyr Covid hir angen triniaeth arbenigol'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Sian Griffiths
Disgrifiad o’r llun,

Mae Sian Griffiths wedi bod yn dioddef o Covid hir ers mis Mai y llynedd

Mae nifer o gleifion Covid hir yng Nghymru yn dweud bod angen iddyn nhw gael eu trin gan ymgynghorwyr arbenigol.

Dywed Sian Griffiths, sydd wedi bod yn dioddef o'r cyflwr ers mis Mai y llynedd, fod cefnogaeth gwerth £5m Llywodraeth Cymru ar gyfer cleifion Covid hir yn rhoi "lot o bwyslais" ar feddygon teulu - ond "mai dim ond amser cyfyngedig sydd ganddyn nhw i helpu cleifion".

Fe dalodd Ms Griffiths, o Landegfan ar Ynys Môn, am driniaeth breifat yn Lloegr er mwyn cael cymorth arbenigol.

Dywed Llywodraeth Cymru bod eu rhaglen yn helpu dioddefwyr Covid hir i gael triniaeth yn agos i'w cartref.

Mae Ms Griffiths, aelod o grŵp Long Covid Wales, wedi bod yn dioddef o grychguriadau ar y galon (palpitations), diffyg anadl a "brain fog" ers dros flwyddyn.

"Yn gorfforol dwi'n ceisio gwneud tipyn bach o ymarfer corff, dwi ar feddyginiaeth i helpu rheoli curiad y galon, ond dwi methu gweld y golau ar ddiwedd y twnnel gyda'r brain fog," meddai.

'Dwi'n anghofio sut i 'neud panad'

Mae tua 50,000 o bobl yng Nghymru yn dioddef o Covid hir bellach.

"Dwi'n anghofio sut i 'neud panad weithiau. Dwi'n anghofio lle mae'r llaeth yn mynd ar ôl gwneud panad, ac mae jyst yn teimlo fel bod y pen ddim yn perthyn i fi.

"Dwi'n eitha' ifanc, o'n i'n ffit, iach o'r blaen, ond rŵan dwi'n gorfod dibynnu ar Mam a Dad i ddeud wrthai 'Ti wedi 'neud hyn? Cofia 'neud hyn,' achos dwi ddim yn medru cofio. Mae'n ofnadwy."

Ffynhonnell y llun, Paige Christopher
Disgrifiad o’r llun,

Mae Paige Christoper yn ei chael hi'n anodd cerdded lawr y grisiau ers cael Covid chwe mis yn ôl

Mae Paige Christopher, 25, wedi dioddef o Covid hir ers chwe mis ac mae'n teimlo fod y driniaeth bresennol ar chwâl.

"O 'mhen i'n traed - mae yna tua 20 peth yn bod gyda fi ar hyn o bryd," meddai.

"A dyw'r meddyg teulu methu sortio dim un ohonyn nhw - felly 'nai gyd mae'n gallu gwneud yw fy nghyfeirio at rywun arall.

"Chi jyst yn mynd rownd mewn cylchoedd.

"Mae angen cael triniaeth gyflawn gan arbenigwr."

Yn gynharach ym mis Mehefin cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan raglen adfer gwerth £5m i helpu cleifion sy'n byw gyda Covid hir.

Bydd meddygon teulu yn derbyn cyngor newydd ac offer diagnostig i'w helpu i roi triniaeth a sicrhau adferiad.

Ond mae grŵp ymgyrchu Long Covid Wales yn meddwl y byddai sefydlu clinigau arbenigol yn ffordd well o ddelio â'r sefyllfa.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Un o'r symptomau mae cleifion sy'n dioddef o Covid hir yn ei brofi yw 'ymennydd niwlog'

Mae Ms Griffiths yn teimlo bod angen clinig wedi'i arwain gan ymgynghorwyr arbenigol yng Nghymru a bod angen i'r llywodraeth siarad â phobl sydd wedi cael Covid hir.

"'Naethon nhw ddim siarad hefo pobl fel fi, o'r grŵp Long Covid Wales, i ofyn be 'da chi'n meddwl sy'n siwtio pobl? Ar hyn o bryd mae'n rili, rili disjointed.

"Mae angen clinics hefo joined-up care hefo consultants, a dim dibynnu ar y GP sy'n brysur," meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r rhaglen Adferiad yn ceisio sicrhau bod cleifion yn cael gwasanaeth priodol mor agos i'w cartrefi ag sy'n bosib.

"Bydd pobl sydd angen cefnogaeth fwy arbenigol - gwasanaeth sydd ond ar gael mewn ysbyty, yn cael eu cyfeirio trwy feddyg teulu neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol.

"Bydd y rhaglen yn cael ei hadolygu bob chwe mis wrth i ni ddysgu mwy am Covid hir.

"Wrth asesu cleifion, ry'n yn awyddus i osgoi anfon cleifion i ysbyty os nad oes rhaid - mae hynny'n gallu ychwanegu at yr amseroedd aros hir sydd eisoes yn bodoli."

'Gweithio gyda chleifion'

Dywedodd Adrian Thomas, Cyfarwyddwr Gweithredol Therapïau ac Iechyd Gwyddonol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Dydyn ni ddim yn gallu rhoi sylw i achosion unigol ond byddwn yn annog unrhyw un sydd â phryderon i gysylltu â ni'n uniongyrchol.

"Yn anffodus oherwydd effaith Covid-19 mae amseroedd aros yn hwy na'r disgwyl.

"Rydyn ni'n dilyn y canllawiau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu darparu ac mae meddygon clinigol yn gweithio gyda chleifion sydd â symptomau o Covid hir er mwyn sicrhau y gofal mwyaf priodol.

"Rydyn hefyd yn cynnig cefnogaeth i bobl sydd â symptomau o Covid hir - gan eu helpu i ymdopi â'u cyflwr yn agos i'w cartref trwy ein gwasanaethau cymunedol."

Ychwanegodd: "Rydyn wedi sefydlu rhaglen addysgiadol am Covid hir - y gyntaf ar gyfer cleifion yn y DU. Mae'n helpu cleifion i ymdopi gyda'u symptomau ac yn lleihau effaith y feirws ar eu bywydau.

"Hefyd mae nifer o gleifion yn dweud eu bod yn elwa o'r app Adfer Covid-19 - app sy'n gallu cael ei lawrlwytho am ddim."