Cyhoeddi llywyddion anrhydeddus Eisteddfod LlÅ·n ac Eifionydd

Mae Llywyddion Anrhydeddus Eisteddfod Genedlaethol LlÅ·n ac Eifionydd y flwyddyn nesaf wedi eu cyhoeddi.

Mae'r pump yn bobl adnabyddus yn yr ardal, ac wedi eu gwahodd am eu "cyfraniad i fywyd diwylliannol yr ardal a'r Gymraeg yn lleol".

Dywedodd Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod, ei bod yn bwysig cydnabod cyfraniad "pobl sy'n gweithio'n ddiflino drwy'r amser, os yw Eisteddfod ar y gorwel ai peidio".

"Heb y bobl yma, byddai'r ardal yn dipyn tlotach ei diwylliant."

Fe fydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal ym Moduan yn Awst 2023.

Y pump sydd wedi eu dewis yw:

Gwilym H Griffith

Mae'r adroddwr a chynhyrchydd drama o Lwyndyrys yn cael ei adnabod fel Gwilym Plas.

Treuliodd ei oes yn ffermio ym Mhlas Newydd yng Ngharnguwch, a hyfforddodd, gyda Jean ei wraig, sawl cenhedlaeth o lefarwyr.

Derbyniodd Medal Goffa Syr TH Parry-Williams yn 2005.

Ken Hughes

Bu'n bennaeth ar Ysgol Eifion Wyn, Porthmadog am dros 20 mlynedd, ac mae'n parhau'n weithgar yn yr ardal, gan arwain tîm lleol yng Ngŵyl Gerdd Dant 2016, a chyfarwyddo sioe blant i'r Urdd.

Cafodd Cymru gyfan gyfle i ddod i'w adnabod drwy raglen ddogfen, Ken Hughes yn Cadw ni Fynd, yn ystod y cyfnod clo.

Carys Jones

Mae'n un o gyd-sylfaenwyr Aelwyd Chwilog sydd wedi cystadlu mewn sawl eisteddfod mewn corau, partïon ac fel unawdydd.

Cerdd Dant yw maes Carys, mae wedi arwain sawl parti, a rhoi gwersi i blant ers blynyddoedd.

Derbyniodd Dlws Coffa John a Ceridwen Hughes yn Eisteddfod yr Urdd Y Bala yn 2014 am ei chyfraniad i'w hardal

Esyllt Maelor

Yn wreiddiol o Harlech, symudodd i Abersoch, ac mae wedi gweithio ar brosiectau amrywiol ym myd addysg.

Mae ei dyled yn enfawr i'w chyn-ddisgyblion am ei sbarduno a'i hysbrydoli ac am ddangos pa mor bwysig yw geiriau.

Mae'n credu fod yna sgwennwr ymhob plentyn ac mae'n ymfalchïo yn llwyddiannau ei chyn-ddisgyblion sydd wedi dal ati i sgwennu a chyfrannu i'w cymunedau.

Rhian Parry

Mae'n un o leisiau amlycaf y byd llefaru yng Nghymru, sydd hefyd yn hyfforddi unigolion a phartïon llefaru.

Mae'n feirniad cenedlaethol, yn arweinydd llwyfan profiadol yn y Pafiliwn, ac yn gyn-enillydd Gwobr Llwyd o'r Bryn a Gwobr Goffa'r Fonesig Ruth Herbert Lewis ar lwyfan y Brifwyl.