Â鶹ԼÅÄ

Goryrru Eluned Morgan: Cerydd swyddogol gan y Senedd

  • Cyhoeddwyd
Eluned Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Plediodd Eluned Morgan yn euog i gyhuddiad o oryrru ym mis Mawrth a chafodd ei gwahardd am chwe mis

Mae'r gweinidog iechyd Eluned Morgan wedi cael cerydd swyddogol gan Senedd Cymru am dorri cod ymddygiad Aelodau o'r Senedd.

Roedd y pwyllgor safonau ymddygiad wedi argymell y cerydd wedi iddi gael ei gwahardd rhag gyrru am oryrru.

Cafodd y cynnig i gymeradwyo'r argymhelliad yn yr adroddiad ei basio yn ddiwrthwynebiad brynhawn Mercher.

Yn y siambr, ymddiheurodd Eluned Morgan am ei hymddygiad i'r Senedd gyfan.

'Embaras'

"Dwi'n ymwybodol o'r cyfrifoldeb sydd arnon ni i gyd fel aelodau i arwain trwy enghraifft a dwi'n derbyn nad wyf fi wedi cadw at y safonau sy'n ofynnol ohonon ni yn yr achos yma," meddai.

"Dwi'n ymddiheuro i chi fel aelodau, ac i bobl Cymru, am y sefyllfa anffodus dwi wedi gosod fy hun ynddi.

"Mae'n flin gen i am unrhyw embaras dwi wedi achosi i'r sefydliad, ac i unrhyw un sydd wedi dioddef fel canlyniad i fy ngweithredoedd.

"Dwi'n cadarnhau fy mod wedi pledio yn euog i'r cyhuddiad o oryrru a dwi wedi derbyn dyfarniad y llys."

'Edifeirwch diffuant'

Mynegodd "edifeirwch diffuant a gofid mawr" am ei gweithredoedd.

Roedd Comisiynydd Safonau'r Senedd Douglas Bain wedi dweud bod y troseddau yn "esiampl wael iawn" ac yn torri cod ymddygiad y Senedd.

Cafodd Ms Morgan ei gwahardd rhag gyrru yn Llys Ynadon Yr Wyddgrug ar 17 Mawrth.

Cyflwynwyd y gwaharddiad yn dilyn tri erlyniad arall a chafodd dirwy o £800.

Fe wnaeth y pwyllgor yr argymhelliad oherwydd bod "achos o dorri'r cod ymddygiad gan unrhyw Aelod o'r Senedd yn fater difrifol ym marn y pwyllgor.

"Mae enw da Senedd Cymru, a ffydd a hyder y cyhoedd yn y sefydliad, yn dibynnu ar allu'r aelodau i ddangos uniondeb ac arweiniad drwy eu gweithredoedd," meddai adroddiad y pwyllgor.

"Mae cael gwaharddiad gyrru a'r ddirwy gysylltiedig am droseddau goryrru yn fater difrifol.

"Mae nifer y troseddau dros gyfnod cymharol fyr, a arweiniodd at yr euogfarn hon, yn dangos patrwm ymddygiad sy'n is na'r safon a ddisgwylir gan Aelod o'r Senedd."

Nododd y pwyllgor "mai hon oedd y gŵyn dderbyniadwy gyntaf am Aelod o'r Senedd a oedd hefyd yn Weinidog a oedd yn gwasanaethu ar adeg torri'r cod ymddygiad".