Â鶹ԼÅÄ

Cwestiynu ymateb Drakeford i droseddau goryrru Eluned Morgan

  • Cyhoeddwyd
Mark Drakeford ac Eluned MorganFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Eluned Morgan ei gwahardd rhag gyrru ym mis Mawrth ac mae Mark Drakeford wedi dweud bod y mater "ar gau"

Mae cwestiynau wedi'u codi am ymateb y prif weinidog ar ôl i'r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, gael ei gwahardd rhag gyrru am chwe mis.

Dywedodd Mark Drakeford ei fod wedi delio â'r achos dan y cod gweinidogol a bod y mater "ar gau".

Mewn llythyr, mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi mynnu cael manylion o sut ddaeth Mr Drakeford i'r casgliad hwnnw, a sut ddaeth i wybod am y troseddau.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd yn ymateb i'r llythyr maes o law.

'Esiampl wael iawn'

Cafodd Eluned Morgan ei gwahardd rhag gyrru yn Llys Ynadon Yr Wyddgrug ar 17 Mawrth.

Mewn adroddiad heb ei gyhoeddi ond sydd wedi ei weld gan Â鶹ԼÅÄ Cymru, dywedodd Comisiynydd Safonau'r Senedd fod y gwaharddiad yn dilyn tri erlyniad arall a bod Ms Morgan wedi cael dirwy o £800.

Dywedodd Douglas Bain fod y troseddau yn "esiampl wael iawn" ac yn torri cod ymddygiad y Senedd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Plediodd Ms Morgan yn euog i gyhuddiad o oryrru ym mis Mawrth a chafodd ei gwahardd am chwe mis

Mae ei gasgliadau yn golygu y gallai Eluned Morgan wynebu cosb lymach - fel gwaharddiad dros dro o Senedd Cymru - ond mae hynny i'w ystyried gan bwyllgor safonau'r Senedd.

Mae gwleidyddion Llywodraeth Cymru hefyd yn wynebu set arall o reolau ar ymddygiad, sef cod y gweinidogion.

Penderfyniad y prif weinidog yw sut mae cwynion yn cael eu hymchwilio. Mae'r cod yn dweud y bydd "fel arfer yn cyfeirio cwynion sylweddol ynghylch ymddygiad gweinidogol at gynghorydd annibynnol i'w hystyried ac am gyngor".

'Mater ar gau'

Ddydd Mercher, dywedodd Mr Drakeford: "Rwyf wedi delio gyda'r mater o dan y cod gweinidogol ac mae ar gau."

Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig bod "llawer o gwestiynau i'w ateb" a bod "Llafur yn glir y dylai gwleidyddion sy'n torri'r gyfraith gamu o'r neilltu - heblaw eu bod yn weinidogion Llafur yng Nghymru wrth gwrs".

Yn ei lythyr i'r prif weinidog, fe ofynnodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig Andrew RT Davies a oedd Ms Morgan wedi cyfeirio ei hun ar gyfer ymchwiliad dan y cod gweinidogol, neu ai Mr Drakeford wnaeth hynny.

Fe ofynnodd hefyd pryd ddaeth Mr Drakeford i wybod am bob achos o oryrru, pryd ddechreuodd yr ymchwiliad a pha dystiolaeth gafodd ei hystyried wrth ymchwilio i'r dirwyon.

Holodd os oedd Mr Drakeford wedi mynd i ofyn am gyngor cyfreithiol annibynnol ac "ar ba sail y gwnaethoch chi benderfynu nad oedd eich gweinidog wedi torri'r cod gweinidogol?".

Mae gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi beirniadu Llywodraeth Geidwadol y DU yn hallt dros achosion o bartïon yn Downing Street yn ystod y pandemig.

Fe alwodd Mr Drakeford i'r Prif Weinidog Boris Johnson ymddiswyddo ar ôl iddo dderbyn dirwy am dorri rheolau Covid, gan ddweud "allwch chi ddim bod yn grëwr cyfreithiau ac yn dorrwr cyfreithiau ar yr un pryd".

Ddydd Mercher, dywedodd Mr Drakeford ei bod yn iawn i'r mater gael ei gymryd o ddifrif, ond "wnaeth hi ddim gwneud y gyfraith y mae hi wedi'i thorri".

"Fe gyfaddefodd hi, ar unwaith. Mae'r llysoedd wedi delio â hi."

Dywedodd Mr Drakeford nad oedd wedi gweld yr hyn a ddywedodd y comisiynydd safonau.