Â鶹ԼÅÄ

Cerdd ar Sul y Tadau

  • Cyhoeddwyd
Chwith - dwylo rhiant a phlentyn; Dde - Osian Rhys JonesFfynhonnell y llun, Osian Rhys Jones
Disgrifiad o’r llun,

Llaw fawr Dad, a llaw fach Arthur (chwith), Osian Rhys Jones (dde)

Y prifardd Osian Rhys Jones, a ddaeth yn dad i Arthur yn ddiweddar, sydd wedi ysgrifennu cerdd arbennig i nodi Sul y Tadau.

Llanw

Roeddwn i a dy fam wedi arfer

cael glan y môr i ni'n hunain.

Treulio diwrnodau'n torheulo, yn trochi'n traed.

Weithiau, pan fyddai'r twyni'n teimlo'n rhy anial,

byddem yn chwilio'r tywod

am gragen fach a'i chyfrinachau.

Roedden ni wedi syllu'n ddigon hir ar y gorwel

i wybod nad mewn sedd car yn cysgu

Y byddet yn dod dros drothwy'r tÅ·,

ond yn fawr a diatal fel y llanw

a'th donnau o lefain yn gostegu'n gwsg.

Golchaist y tÅ· taclus

hefo broc bywyd babi:

dwmi ar y bwrdd,

potel fwydo ar ei hanner ar gownter y gegin,

llieiniau llaethlyd ymhob ystafell.

Ac ydi, mae'r traeth yn llawn rŵan

a'r gyfrinach ar wasgar

yn ein blerwch braf.

Ffynhonnell y llun, Getty/Osian Rhys Jones
Disgrifiad o’r llun,

'Ac ydi, mae'r traeth yn llawn rŵan a'r gyfrinach ar wasgar yn ein blerwch braf'

Hefyd o ddiddordeb: