Â鶹ԼÅÄ

Pum munud gydag Osian Rhys Jones

  • Cyhoeddwyd
Osian Rhys JonesFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Mae'n fardd sy'n gweithio yn y maes digidol, yn un o sylfaenwyr Bragdy'r Beirdd ac mae o newydd ddod yn dad am y tro cyntaf, a thrwy gydol Mehefin fo ydi Bardd y Mis Radio Cymru.

Wedi eich magu ym Mhen LlÅ·n, rydych chi'n byw yng Nghaerdydd ers blynyddoedd. Petaech chi'n gallu mynd ag unrhywbeth o ardal eich magwraeth i'r brifddinas, beth fyddech chi'n ei ddewis a pham?

Wel, mae un ateb - y môr - gen i ym Mhenarth lle dwi'n byw ers dwy flynedd, er ei fod o'n llai glas yn fan hyn. Yr ateb arall yw teulu, ond mae'n siŵr mai dweud wrtha' i ddod nôl y bysa nhwytha'.

Rydych chi wedi cynnal nifer o weithdai barddonol a chynganeddu. Ai dyna sut wnaethoch chi ddysgu'r grefft?

Na! Nid trwy weithdy y dysgais, ond trwy lyfr. Hap a damwain oedd hynny yn fwy na dim, gan imi ddarllen Clywed Cynghanedd - sydd wedi bod yn ganllaw i nifer o rai eraill - ac wedyn dechrau creu llinellau yn eitha' digymell. Roedd fy ymdrechion cynnar yn ddigon gwamal. Byddai rhai yn dweud bod fy ymdrechion diweddarach yn dal i fod digon gwamal…

Mae'n bosib dysgu trwy lyfr, ond nid pawb sy'n dysgu yr un fath. Mae gweithdai yn werthfawr iawn er mwyn dysgu sut mae'r gynghanedd yn grefft glywedol - ac er mwyn cymdeithasu, wrth gwrs. Byddwn yn annog i bawb sydd â diddordeb dysgu i fynd i weithdy neu ddosbarth cynganeddu lle bo hynny'n bosib.

Disgrifiad o’r llun,

Efallai mai 'digon gwamal' oedd ymdrechion cyntaf Osian Rhys Jones ar y gynghanedd, ond fe berffeithiodd ei greff yn ddigon da i gael ei gadeirio'n brifardd gan yr Archdderwydd Geraint Lloyd Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 2017

Rydych chi newydd ddod yn dad am y tro cyntaf. Sut mae'r profiad wedi effeithio eich barddoni - eich ysbrydoli i greu, neu ydi'r blinder yn amharu ar yr awen?

Mae angen gofod arna' i i farddoni - ddaw hi ddim os oes gormod o bethau eraill yn tynnu fy sylw. Mae dod yn rhiant yn gorfodi rhywun i fanteisio'n fachog ar yr amseroedd hynny sydd ar gael (sef, dim lot!)

Fel un sy'n gweithio yn y maes digidol, sut all beirdd a barddoniaeth Cymraeg wneud yn fwy o'r cyfryngau newydd?

Mae'r term cyfryngau newydd yn go llithrig, gan fod ffasiynau a thechnoleg yn newid yn go sydyn. Byddai'n hawdd i rywun deimlo pwysau i fod yn 'bresennol' ar-lein; mynd yn feiral ar y cyfryngau cymdeithasol; i wneud fideos slic ar YouTube; i gyhoeddi podlediad rheolaidd. Mae hynny yn gallu tynnu'n groes i natur fwy myfyriol barddoni, yn ogystal â dwyn amser ac egni creadigol i farddoni yn y lle cyntaf.

Ar y llaw arall mae manteision i'r holl gyfryngau hyn, ac mae angen i bawb sy'n greadigol addasu. Mae cyfleoedd i rannu cerddi a chysylltu â'r gynulleidfa ar-lein.

Mae TikTok yn ddirgelwch i mi, a fyswn i ddim yn medru cynghori unrhyw fardd ifanc sydd am fanteisio ar y cyfrwng. Fodd bynnag, y cyngor gorau, beth bynnag fo'r platfform, fyddai i fardd dod o hyd i'r cyfrwng sydd yn gweddu orau i'w celfyddyd nhw, yn porthi eu creadigrwydd ac yn eu cysylltu â'r bobl sydd â diddordeb yn y bardd ydyn nhw. Yr unig fardd fedrwch chi fod ydi chi a thrwy drio cyrraedd - a phlesio - pawb, fyddwch chi'n plesio neb.

Hefyd, mae un peth sydd wrth wraidd y traddodiad Cymraeg ers canrifoedd - sef y gyfundrefn nawdd. Mae nawdd cynulleidfaoedd yn medru bod yn faes proffidiol ar y we, a dwi ddim yn ymwybodol fod llawer o feirdd Cymraeg wedi manteisio ar hynny eto…

Chi oedd un o'r criw wnaeth sefydlu nosweithiau Bragdy'r Beirdd. Pa mor bwysig - ac anodd - ydi ail-gydio mewn nosweithiau barddonol wedi'r pandemig?

Hollbwysig. Dywedaf hynny gan gyfaddau nad ydw i wedi ail-gydio yn nosweithiau Bragdy'r Beirdd fy hun!

Disgrifiad o’r llun,

Mynd a barddoniaeth at y gynulleidfa - y Talwrn yng ngŵyl Tafwyl yn 2015

Cyn y pandemig roedd nosweithiau recordio'r Talwrn, nosweithiau barddol byw, stompiau, ymrysonau, eisteddfodau a dosbarthiadau cynganeddol dros Gymru yn cael eu cynnal yn rheolaidd. Maen nhw'n llawer mwy na'r farddoniaeth ei hun, gan eu bod yn ogystal yn cyfrannu at swyddogaeth gymdeithasol barddoniaeth.

Oes, mae lle i ddigwyddiadau dros y we ond heb yr elfen gymdeithasol mae peryg i enaid barddoniaeth Gymraeg - ei chysylltiad agos â'i chynulleidfa - gael ei golli. Fel nifer o feirdd, dwi'n ddiolchgar iawn i'r Â鶹ԼÅÄ am addasu ac am barhau gyda'r Talwrn dros y ddwy flynedd a fu. Ond yn fy marn i, mae angen ailgydio'n y nosweithiau recordio hefyd gan fod y Talwrn yn llawer mwy na dim ond rhaglen radio.

Petaech chi'n gallu bod yn fardd arall am ddiwrnod - byw neu hanesyddol - pwy fyddai o neu hi, a pham?

Byddai hyn yn siŵr o newid petae chi'n gofyn eto fory. Bysa'n rhaid imi ddweud Iolo Morganwg. Dwi'n meddwl y byddai angen i mi orwedd lawr am sbel go lew ar ôl y diwrnod hwnnw.

Pa ddarn o farddoniaeth fyddech chi wedi hoffi ei ysgrifennu, a pham?

Dyma ateb arall a fyddai'n newid o ddydd i ddydd.

Ar hyn o bryd dwi'n teimlo y byddwn wrth fy modd o fod wedi ysgrifennu unrhyw un o gerddi ysgafn, dychanol a deifiol (ond crefftus iawn) Brian Bilston. Mae'n cyhoeddi cerddi bach dyddiol ar Twitter sy'n aml yn codi gwên.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Brian Bilston

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Brian Bilston

Beth sydd ar y gweill ar hyn o bryd?

Yn bersonol, dod i arfer â bywyd fel tad! Ac wrth ddod i arfer, byddai'n braf cael dechrau cynnal nosweithiau barddol a chael gwahoddiadau i fynd ledled Cymru ar y gylchdaith farddol eto.