Â鶹ԼÅÄ

Fydd pobl yn cael eu gorfodi i fynd i’r gwaith tra’n sâl?

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
SalwchFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl y bydd profion Covid am ddim a thaliadau hunan-ynysu o £500 yn dod i ben yng Nghymru

Mewn ychydig wythnosau bydd taliadau cymorth ynysu, profion Covid am ddim a thâl salwch ychwanegol i weithwyr gofal cymdeithasol yn dod i ben.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y rhaglen frechu wedi ei gwneud hi'n bosib "dysgu byw'n ddiogel ochr yn ochr â'r coronafeirws".

O dan gynlluniau newydd i ymdopi â'r feirws yn y tymor hir, gofynnir i bobl sâl aros gartref "lle bo modd".

Ond gyda llawer yn mynd i'r afael â chostau byw cynyddol, pa mor realistig yw hyn?

Mae'r Athro Richard Stanton, feirolegydd o Brifysgol Caerdydd, yn credu y bydd ynysu ar raddfa fawr oherwydd Covid yn dod i ben.

"Ni allwn wir ddisgwyl i bobl aros gartref os na allant brofi am Covid, os nad oes gan [Lywodraeth Cymru] yr arian i'w cefnogi i wneud hynny," meddai wrth raglen Â鶹ԼÅÄ Wales Live.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr Athro Richard Stanton ei fod yn credu bod ton newydd o Omicron yn debygol

Mae'r Athro Stanton yn meddwl fod ton newydd o Omicron yn debygol, ac er na fydd yn debyg i uchafbwynt y pandemig mae'n dod â risgiau.

"Byddwn yn gweld y feirws yn dechrau lledu eto gyda'r don Omicron nesaf, wrth i bobl ddechrau cymysgu oherwydd na allant aros gartref oherwydd na allant brofi amdano.

"Y risgiau mawr ar hyn o bryd yw y gallai cyfran sylweddol o'r bobl sy'n dal y feirws fynd ymlaen i gael Covid hir… neu efallai y byddant yn ei ledaenu i berthnasau bregus a allai fynd yn sâl ag ef."

Mae'n credu mai'r ffordd orau o liniaru lledaeniad Covid yw canolbwyntio ar awyru mewn gweithleoedd ac ar drafnidiaeth gyhoeddus.

'Fyddai gen i ddim dewis ond mynd i'r gwaith'

Dywedodd Angelo Sperandeo, gosodwr ffenestri a drysau o Gaerdydd, y bydd ystyried a ddylai weithio yn y dyfodol os yw'n teimlo'n sâl yn "un anodd" gan na all weithio o gartref.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Angelo Sperandeo - gan nad yw'n gallu gweithio gartref - y byddai'n cael ei orfodi i fynd i'w waith tra'n sâl

"Byddwn i'n bersonol yn mynd i'r gwaith oherwydd byddai gen i ddim dewis a dweud y gwir. Byddwn yn amlwg yn meddwl am bobl y byddwn i mewn cysylltiad â nhw," meddai.

"Rydych chi'n ceisio bwrw 'mlaen â bywyd gorau y gallwch chi ond mae bob amser yng nghefn eich meddwl."

Mae gan Alex Osborne o Gaerffili sglerosis ymledol a system imiwnedd wan.

Er iddi gael brechiadau Covid dywedodd ei bod yn annhebygol o roi amddiffyniad iddi oherwydd y driniaeth reolaidd mae'n ei chael.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Alex Osborne eisiau i brofion Covid am ddim fod ar gael i bobl â gwrthimiwnedd

"Mae'n dod â lefel ychwanegol o bryder nawr," meddai.

"Efallai na fydd gan bobl unrhyw symptomau ond rwy'n dal i ofyn i bobl wirio cyn i mi eu gwahodd i mewn i fy nhÅ·.

"Os na all pobl wneud hynny i mi a phobl fel fi mwyach, dyna ein rhwyd ​​ddiogelwch yr oeddem yn ei ddefnyddio i deimlo'n gyfforddus yn cwrdd â phobl... a nawr mae'n cael ei thynnu oddi wrthym."

Mae Alex eisiau i brofion Covid am ddim fod ar gael i bobl â gwrthimiwnedd fel y gallant eu rhoi i bobl maent yn treulio amser gyda nhw.

Gamblo ag iechyd

Dywedodd David Bailey, cadeirydd Cyngor Cymreig Cymdeithas Feddygol Prydain, y bydd cael gwared ar brofion am ddim yn creu "system dwy haen" lle mae'r rhai sy'n methu talu'n cael eu "gorfodi i gamblo ar eu hiechyd eu hunain ac eraill".

"Ynghyd â phrofion am ddim i bobl â symptomau, mae'n hanfodol felly bod llywodraethau'n parhau i gynghori pobl â symptomau i ynysu," meddai.

Dywedodd Stacey Rodd, gweinyddwr gyda'r GIG o Gaerdydd, y byddai'n debygol o gadw draw o'r gweithle pe bai'n teimlo'n sâl.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Stacey Rodd fod ganddi'r moethusrwydd o allu gweithio gartref, ond nid yw pawb yn medru gwneud hynny

"Mae gen i'r moethusrwydd o allu gweithio gartref. Nid yw pobl eraill yn medru gwneud hynny, nid yw fy mhartner yn gallu, mae'n gweithio mewn siop ac os nad yw yno nid yw'r siop yn rhedeg," meddai.

"Mae'n rhaid gwneud y penderfyniad a dim ond bod yn gall a dweud y gwir. Mae yna bobl fregus o gwmpas o hyd."

Mae TUC Cymru - Cyngres yr Undebau Llafur - yn dweud nad yw'r cyngor i aros adref os yn bosib "yn ymarferol" i ddegau o filoedd o weithwyr yng Nghymru.

Mae ei hysgrifennydd cyffredinol Shavannah Taj eisiau i Lywodraeth y DU gynyddu tâl salwch statudol a Llywodraeth Cymru i wrthdroi'r cynllun i ddileu tâl salwch uwch ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol a ddaeth i rym yn ystod y pandemig.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Shavannah Taj y bydd pobl sy'n teimlo'n sâl ond yn methu â gweithio gartref mewn sefyllfa anodd

"Mae yna argyfwng costau byw. Does gan bobl ddim dewis ar hyn o bryd," meddai.

"Rydych chi'n sownd rhwng craig a lle caled. Gadewch i ni ddysgu rhywbeth o'r pandemig, gadewch i ni wneud yn well."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Diolch i lwyddiant ein rhaglen frechu a'r ffordd mae pobl ledled Cymru wedi helpu i gadw ei gilydd yn ddiogel dros y ddwy flynedd ddiwethaf, rydyn ni nawr yn gallu symud y tu hwnt i'r ymateb brys i'r pandemig a dysgu sut i fyw'n ddiogel ochr yn ochr â'r coronafeirws.

"Er ein bod wedi symud yn raddol ac yn ofalus i ffwrdd o'r amddiffyniadau cyfreithiol, rydym yn cadw canllawiau ar waith i helpu pobl i reoli'r feirws. Mae hyn yn cynnwys yr argymhelliad i aros gartref os ydych yn sâl i atal y salwch rhag lledu.

"Rydym wedi nodi ein cynlluniau ar gyfer profi a byddwn yn parhau i adolygu hyn."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Mater i gyflogwyr yw penderfynu ar eu polisïau tâl salwch ac mae llawer o gyflogwyr yn dewis talu mwy na'r lefel isaf o Dâl Salwch Statudol.

"Mae'r system les yn darparu rhwyd ddiogelwch ariannol gref i'r rhai sy'n sâl am gyfnodau hirach neu'n anabl."

Wales Live, Â鶹ԼÅÄ One Wales am 22:35 nos Fercher, ac ar iPlayer.