Â鶹ԼÅÄ

Prif feddyg Cymru'n 'gobeithio' na fydd cyfnod clo arall

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
CaerdyddFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Y clo cyntaf ar 23 Mawrth 2020 oedd dechrau bron i ddwy flynedd o dynhau a llacio rheolau cymdeithasu

Byddai pobl Cymru yn barod i wneud yr "aberth" ar gyfer cyfnod clo arall pe bai'n rhaid, yn ôl Prif Swyddog Meddygol Cymru.

Yn ôl Dr Frank Atherton y "gobaith" yw na fydd angen am gyfnod clo arall ond "dydyn ni byth yn gwybod beth sydd o'n blaenau", meddai.

Wrth siarad â phodlediad Walescast Â鶹ԼÅÄ Cymru, dywedodd Dr Atherton ei fod yn disgwyl y byddai brechlynnau'r dyfodol yn gallu mynd i'r afael ag amrywiolion newydd.

Ond ychwanegodd pe bai angen cyfnod clo arall, fod "pobl yn ymddwyn yn dda yng Nghymru, yn enwedig".

Cafodd Dr Atherton ei benodi'n Brif Swyddog Meddygol i Gymru 'nôl yn 2016, ond mae'n dweud bod y ddwy flynedd ddiwethaf o ddelio gyda'r pandemig wedi bod yn "ddwys iawn", wrth gynghori Llywodraeth Cymru ar eu polisïau iechyd cyhoeddus wrth daclo lledaeniad coronafeirws.

"Egwyddor gyffredinol iechyd cyhoeddus, ac un wnaethon ni ei ddilyn am fwyafrif y pandemig, yw bod yn rhaid i chi fynd â phobl gyda chi - allwch chi ddim gorfodi amodau ar bobl," meddai.

"Ond mae 'na gyfnodau - ac fe gyrhaeddon ni'r pwynt hwnnw yn gynnar iawn yn y pandemig - lle'r o'n ni mewn sefyllfa o argyfwng lle roedd yn rhaid gwneud penderfyniadau o'r canol."

'Rhaid cadw hynny'n agored'

Y clo cyntaf ar 23 Mawrth 2020, ar y cyd â holl Lywodraethau'r Deyrnas Unedig, oedd dechrau bron i ddwy flynedd o dynhau a llacio rheolau cymdeithasu yng Nghymru, gyda'r cyfyngiadau diweddaraf ar gau clybiau nos a chyfyngu'r nifer oedd yn gallu cwrdd yn dod i ben yng Nghymru ddiwedd Ionawr eleni.

Dywedodd ei fod nawr yn "bendant yn gobeithio" na fydd yn rhaid cael rhagor o gyfnodau clo oherwydd coronafeirws yn y dyfodol.

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dr Frank Athertonei fod "bendant yn gobeithio" na fydd angen rhagor o gyfyngiadau

"Mae gennym ni frechlynnau nawr, ac fe fyddwn i'n disgwyl, petai amrywiolyn newydd yn ymddangos, y byddwn ni'n gallu addasu'r brechlynnau hynny i ddatblygu rhywbeth yn sydyn er mwyn ei roi i'r boblogaeth," meddai.

"Ond dydyn ni byth yn gwybod beth sydd o'n blaenau, felly mae'n rhaid i ni gadw hynny'n agored.

"Pe bydden ni yn cyrraedd y sefyllfa lle bod nifer sylweddol o bobl yn dod i niwed difrifol, dwi'n credu y byddai poblogaeth Cymru yn barod i wneud yr aberth hwnnw eto.

"Dwi wir yn gobeithio na chyrhaeddwn ni'r sefyllfa hwnnw. Ond dwi'n meddwl bod pobl yn ymddwyn yn dda yng Nghymru, yn enwedig."

Mesurau Omicron 'yn iawn ar y pryd'

Pan ofynnwyd iddo a wnaed y penderfyniad cywir gan Lywodraeth Cymru wrth gau clybiau nos a chyfyngu ar nifer y bobl oedd yn cael cwrdd o fewn y sector lletygarwch wedi Nadolig 2021 - tra bod Lloegr wedi parhau heb gyfyngiadau - dywedodd Dr Atheron y byddai wedi cynghori'r un mesurau eto.

"Doedden ni ddim wir yn deall yr amrywiolyn Omicron a beth fyddai ei effaith," meddai.

"Roedden ni'n gwybod bod amgylchiadau torfol yn lledu'r feirws yn sydyn ac roedden ni wastad wedi bod ychydig yn fwy gofalus yng Nghymru na mewn gwledydd eraill.

"Felly, yn gwybod yr hyn dwi'n ei wybod nawr, efallai y byddai penderfyniad gwahanol.

"Ond ar y pryd, o ystyried yr hyn roedden ni'n gwybod ar y pryd, dwi'n meddwl mai dyna oedd y peth iawn i'w wneud."