Â鶹ԼÅÄ

Wayne Hennessey: O 'hogyn distaw dihyder' i arwr Cymru

  • Cyhoeddwyd
Wayne Hennessey yn blentynFfynhonnell y llun, Arfon Wyn
Disgrifiad o’r llun,

Camodd Wayne Hennessey i'r gôl am y tro cyntaf yn naw oed yn Ysgol Biwmares

"O'dd o'n mwynhau pêl-droed yn fawr iawn - ond o'dd o'n hogyn distaw iawn, yn ddihyder."

Nos Sul roedd Wayne Hennessey yn arwr i dîm pêl-droed Cymru, gan wneud naw arbediad i helpu sicrhau eu lle yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958.

Ond fe gamodd i'r gôl am y tro cyntaf wrth i'w athro geisio rhoi hwb i hyder plentyn swil.

"Dwi'n cofio fo yn naw oed, ac o'n i'n teimlo bod o angen gwneud rhywbeth i adeiladu hyder," meddai ei gyn-athro yn Ysgol Biwmares, Arfon Wyn.

"Felly dyma'r dirprwy a finna' yn penderfynu bod o'n mynd i gael cyfle yn y gôl."

'Wedi dotio bod o'n cael y cyfle'

Roedd Hennessey yn "hogyn dymunol ofnadwy," ond yn "ddistaw a dihyder," meddai Mr Wyn - sy'n adnabyddus fel cerddor a bellach yn gynghorydd ar Ynys Môn.

"Roedd o'n hogyn 'sa chdi wrth dy fodd yn cael yn dy ddosbarth," meddai ar raglen Dros Frecwast Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru fore Mawrth.

Gan obeithio rhoi hwb i hyder y plentyn, penderfynodd ef a dirprwy'r ysgol rhoi cyfle i Hennessey fel golwr "am ei fod o'n hogyn mor dâl".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Wayne Hennessey naw arbediad i helpu sicrhau lle Cymru yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd

"Dyma fo'n dod i'r ysgol y diwrnod wedyn, a'i fam a'i dad wedi bod ym Mangor syth bin i brynu'r gêr goalie cynta', am wn i, iddo fo brynu.

"Cit Everton o'dd o - o'dd o 'di cael y menig mawr, fel Mickey Mouse.

"O'dd o 'di dotio bod o'n cael y cyfle, a dyna'r tro cyntaf aeth o i'r gôl."

Wedi hynny, symudodd y teulu i Wolverhampton, lle ymunodd Hennessey â'r academi bêl-droed cyn dechrau ei yrfa broffesiynol gyda'r clwb.

"Roedd angen rhoi cyfle arbennig iddo fo, ac mi gafodd o'r cyfle yna yn Ysgol Biwmares," meddai Mr Wyn.

'Hogyn distaw o Sir Fôn'

Roedd Hennessey yn "hogyn bendigedig i hyfforddi," medd Cledwyn Ashford, sy'n aelod o dîm sgowtio Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Wrecsam.

"Mae wedi cael amser fyny ac i lawr, fel 'da chi yn gwybod, yn ei yrfa," meddai.

"Ond 102 o gapiau mae e wedi ei gael. Pwy fyddai'n meddwl bod yr hogyn distaw yma o Sir Fôn yn gwneud y ffasiwn beth?"

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Wayne Hennessey mai nos Sul oedd ei gêm orau mewn crys Cymru

Chwaraeodd Hennessey "un o'r gemau gorau dwi'n meddwl oedd e erioed wedi ei gael" nos Sul, meddai Mr Ashford.

"Dwi mor falch drosto fo, a'i rieni hefyd. Roedd ei rieni wedi rhoi cymaint fyny."

Ychwanegodd ei fod wedi gweld y golwr wedi'r gêm hanesyddol, a bod Hennessey "yn ddistaw fel arfer".

Ond roedd o "wrth ei fodd - y wên fwyaf gawsoch chi erioed".