Â鶹ԼÅÄ

Popeth sydd angen ei wybod cyn Cwpan y Byd 2022

  • Cyhoeddwyd
CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Cymru yn teithio i Qatar ym mis Tachwedd ar gyfer Cwpan y Byd 2022, 64 mlynedd ers iddyn nhw gyrraedd y gystadleuaeth ddiwethaf

Na, nid breuddwydio ydach chi o hyd, mae o wir wedi digwydd - mae Cymru o'r diwedd wedi cyrraedd Cwpan y Byd am y tro cyntaf mewn 64 mlynedd!

Ar ôl dau Ewros yn olynol, mae sêr y genhedlaeth aur wedi cyflawni'r un peth oedd yn weddill iddyn nhw mewn pêl-droed rhyngwladol, a sicrhau eu lle yn y llyfrau hanes unwaith ac am byth.

Felly beth sy'n disgwyl y tîm - a chefnogwyr y Wal Goch - yn y twrnament yn Qatar?

A beth ydi'r gobeithion yn y gystadleuaeth ei hun? Does bosib na welwn ni haf fel Euro 2016 fyth eto, nac oes?

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dyma'r garfan lawn fydd mwy na thebyg yn cynrychioli Cymru yn Qatar ddiwedd y flwyddyn

Mae Cwpan y Byd eleni'n cael ei chwarae yn Qatar rhwng 21 Tachwedd a 18 Rhagfyr, y tro cyntaf i'r gystadleuaeth gael ei chynnal yn ystod y gaeaf.

Mae'n wlad sydd hanner maint Cymru, a phedwar o'r stadiymau sy'n cael eu defnyddio wedi'u lleoli o gwmpas y brifddinas, Doha.

Gyda gemau grŵp Cymru'n cael eu chwarae ar 21, 25 a 29 Tachwedd, mae'n golygu eu bod nhw'n rhan o ddiwrnod agoriadol y twrnament - ond hefyd y gallen nhw fod adref cyn i ni agor ein calendr Adfent!

Bydd eu holl gemau grŵp yn cael eu chwarae yn Stadiwm Ahmad bin Ali yn Al Rayyan, sy'n dal bron i 45,000 o gefnogwyr.

Gwrthwynebwyr

Mae grwpiau Cwpan y Byd wedi cael eu dewis yn barod, a Chymru'n gwybod eisoes felly eu bod nhw mewn grŵp efo'r UDA, Iran a Lloegr (ia, eto!).

Cymru oedd y detholion isaf, ond dim ond oherwydd eu bod nhw wedi gorfod dod drwy'r gemau ail gyfle i gyrraedd.

Yn rhestr detholion y byd FIFA mae Lloegr yn bumed, gyda'r UDA yn 15fed, Cymru'n 18fed, ac Iran yn 21ain - ar y sail yna felly, grŵp 'cryfaf' y gystadleuaeth.

Lloegr ydi'r ffefrynnau clir gan y bwcis i ennill y grŵp ar hyn o bryd, ond maen nhw hefyd yn rhoi siawns o tua 50% i Gymru orffen yn y ddau uchaf a chyrraedd rownd yr 16 olaf.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

(O'r chwith top) Christian Pulisic o UDA, Harry Kane yn chwarae i Loegr a Sardar Azman yn cynrychioli Iran

Trefn y gemau:

UDA v Cymru, Dydd Llun 21 Tachwedd, 19:00 GMT

Cymru v Iran, Dydd Gwener 25 Tachwedd, 10:00 GMT

Cymru v Lloegr, Dydd Mawrth 29 Tachwedd, 19:00 GMT

Carfan Cymru

Cofiwch mai rheolwr dros dro ydi Rob Page o hyd - ac yntau wedi gwneud swydd gampus ers camu i'r adwy yn sgil helyntion achos llys Ryan Giggs.

Does neb yn disgwyl mai unrhyw un ond Page fydd yn cael y dasg o arwain y garfan i Qatar, ei ail dwrnament gyda'r tîm mewn llai na dwy flynedd.

Ond mae'n bosib y gallai Cwpan y Byd Qatar 2022 fod yn ffarwel olaf i rai o'r sêr mwyaf cyfarwydd fel Gareth Bale, Aaron Ramsey, Wayne Hennessey, Joe Allen a Chris Gunter.

Ar y llaw arall, bydd y misoedd nesaf yn gyfle i sawl un o chwaraewyr ifanc Cymru frwydro am le yn y garfan i Qatar - gan gynnwys rhai fel Rabbi Matondo fethodd ar y cyfle i fynd i Euro 2020.

Yr unig baratoad fydd gan Page cyn Cwpan y Byd fydd pum gêm yng Nghynghrair y Cenhedloedd - tair fis yma, a dwy ym mis Medi, ac felly dyma gyfle mawr rhai o'r sêr ifanc i hawlio'u lle.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Rheolwr dros dro Cymru ydi Rob Page o hyd, yn sgil helyntion achos llys Ryan Giggs

Problemau

Gallai Cwpan y Byd eleni fod yn broblematig ar sawl lefel.

Yn ymarferol yn gyntaf, mi fydd hi'n dipyn o her i gefnogwyr deithio yno ar gyfer y gystadleuaeth, gyda thocynnau awyr yn ddrud a phrinder llety yn y wlad.

Mae hynny wedi arwain at lywodraeth Qatar yn mynnu bod holl lety'r wlad ar gael ar gyfer y cefnogwyr pêl-droed yn unig - ond gan fod angen tocyn i gêm Cwpan y Byd er mwyn archebu lle i aros, dydy'r Cymry ddim wedi gallu gwneud unrhyw beth hyd yma.

Mae'r trafferthion llety a theithio yn golygu bod nifer yn ystyried aros mewn dinasoedd a gwledydd cyfagos fel Dubai, Saudi Arabia neu Kuwait, a theithio i Doha ar gyfer y gemau.

Mae'r gwres llethol hefyd yn bryder - y prif reswm pam nad ydi'r twrnament yn digwydd yn yr haf, pan mae'r tymheredd cyfartalog dros 36 gradd Celsius.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cyhoeddi mai Qatar fyddai'n cynnal y twrnament, nôl yn 2010

Er ei fod yn gostwng i rywle rhwng 20-25 gradd erbyn adeg Cwpan y Byd, bydd dal rhaid mynd â digon o eli haul efo chi.

Yn ehangach na hynny, mae 'na feirniadaeth wedi bod ers blynyddoedd o'r ffordd y cafodd y wlad ei dewis i gynnal y twrnament, a hithau mor fach ac heb ddigon o feysydd priodol ar y pryd.

Arweiniodd hynny at bryderon pellach, gyda miloedd o weithwyr mudol wedyn yn marw wrth adeiladu'r stadiymau newydd hynny.

Mae'r wlad hefyd wedi cael ei beirniadu am ei record hawliau dynol, gan gynnwys tuag at fenywod a phobl LHDTC+ (LGBTQ+).

Digon o ffactorau i'w hystyried felly i aelodau'r Wal Goch sy'n meddwl teithio yno - a bosib iawn na welwn ni grysau cochion yn yr un niferoedd ag yr oedd yn Ffrainc yn 2016.