Â鶹ԼÅÄ

Capel Tom Nefyn ym Mhistyll wedi'i werthu am £257,000

  • Cyhoeddwyd
Capel BethaniaFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r capel ym mhentref Pistyll yn dyddio'n ôl i 1875

Mae ymgyrchwyr wedi methu yn eu hymdrech i brynu Capel Bethania ym mhentre' Pistyll ym Mhen LlÅ·n ar gyfer y gymuned leol, wedi iddo gael ei werthu mewn ocsiwn.

Mae'r capel yn adnabyddus oherwydd ei gysylltiadau gyda'r Parchedig Tom Nefyn a fu'n mynychu'r capel yn blentyn.

Roedd ymgyrchwyr wedi llwyddo i godi bron i £30,000 yn eu hymdrech i brynu'r safle, ond cafodd ei werthu am £257,000 mewn ocsiwn ar-lein ddydd Mercher.

Gan ei fod wedi cau ers blynyddoedd mae cyflwr yr adeilad wedi dirywio, ac mae caniatâd cynllunio eisoes wedi'i roi i droi'r hen gapel yn gartref gwyliau.

'Prynwr o du allan i'r ardal'

Roedd pobl leol wedi ceisio casglu arian i brynu'r capel, sy'n dyddio'n ôl i 1875, cyn ocsiwn i'w werthu ar 19 Mai.

Eu gobaith nhw oedd prynu'r hen gapel er mwyn ei droi yn ganolfan gymunedol, ond dywedodd Plaid Cymru eu bod nhw yn deall bod y safle wedi'i werthu i "brynwr o du allan i'r ardal".

Disgrifiad o’r llun,

Mae caniatâd cynllunio eisoes wedi'i roi i droi'r hen gapel yn gartref gwyliau

Dywedodd Anwen Thomas, un fu'n rhan o'r ymgyrch codi arian: "Gyda chalon drom medrwn gyhoeddi bod Capel Bethania Pistyll wedi ei werthu am £257,000 yn yr ocsiwn heddiw, ar hyn o bryd ni wyddom i pwy.

"Er gwaetha' ymdrechion i drio cysylltu â'r perchnogion dros gyfnod o rai misoedd, dim ond un ateb a gafwyd ar ebost ddydd Sul 17eg o Fai yn nodi oherwydd rhesymau personol mi fydd y capel yn cael ei werthu yn yr ocsiwn.

"Hoffem fel pwyllgor ddiolch o galon i bawb am eich cefnogaeth ac am gyfrannu at yr achos dros yr wythnosau diwethaf, mae pawb wedi bod yn garedig iawn."

Ychwanegodd y bydd pawb oedd wedi rhoi tuag at yr ymgyrch yn derbyn eu harian yn ôl.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Anwen Thomas nad ydyn nhw'n gwybod eto pwy sydd wedi prynu'r hen gapel

'Bygwth cynaliadwyedd ein cymunedau'

Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd Aelod Senedd Cymru ac Aelod Seneddol Plaid Cymru ar gyfer Dwyfor Meirionnydd bod angen "ffurfio cymdeithas dai gyda ffocws benodol ar Ben Llŷn" er mwyn "mynd i'r afael â'r argyfwng tai sy'n gwaethygu".

Dywedodd Mabon ap Gwynfor a Liz Saville Roberts: "Er gwaethaf ymdrechion diflino ymgyrchwyr lleol, mae'n siomedig iawn bod adeilad hanesyddol arall, sydd wedi'i wreiddio yn nhraddodiadau bywyd Pen Llŷn wedi cael ei gipio o afael y gymuned a'i werthu am y pris uchaf.

"Mae'r argyfwng tai sy'n wynebu Pen LlÅ·n yn arwydd o anghydraddoldeb ledled y DU, ond mae cymunedau gwledig yn dioddef yn anghymesurol, gyda diffyg tai fforddiadwy yn cael ei waethygu gan niferoedd cynyddol o ail gartrefi, gan wthio prisiau tai ymhell y tu hwnt i gyrraedd cyflogau lleol.

"Mae mwy a mwy o bobl ifanc yn ei chael hi'n amhosibl cael troed ar yr ysgol dai leol. Diffyg opsiynau tai yw un o brif heriau Dwyfor Meirionnydd.

"Os na eir i'r afael â'r argyfwng rŵan, byddwn yn gweld diboblogi pellach, gan fygwth cynaliadwyedd ein cymunedau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."

Pynciau cysylltiedig