Ysbyty Gwynedd: Adolygiad i honiadau o fwlio gan nyrsys

Bydd adolygiad o amodau gwaith yn Ysbyty Gwynedd yn cael ei gynnal "yn ddi-oed" wedi nifer o gwynion gan nyrsys.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr eu bod yn cymryd y cwynion o ddifrif, ac y byddant yn cynnal ymchwiliad yn syth.

Daw'r cyhoeddiad ar ôl i AS Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth, alw am ymchwiliad annibynnol i'r cwynion a wnaed gan nyrsys yno - honiadau oedd yn cynnwys:

  • bwlio;
  • oriau gwaith afresymol o hir;
  • morâl isel;
  • perthynas wael rhwng nyrsys a rheolwr yn achosi staff i adael.

Dywedodd un nyrs wrth y Gwasanaeth Gohebu Democratiaeth Leol bod nyrsys a gweithwyr iechyd eraill wedi llwyr ymlâdd, ac nad oedd "morâl erioed wedi bod mor isel".

"Mae nifer wedi dewis gadael eu swyddi," meddai'r nyrs, sydd ddim am gael ei henwi.

"Roedden ni, fel gweithlu, isio codi ein pryderon, yn ddienw, am ein hamodau gwaith yn Ysbyty Gwynedd."

'Morâl ar ei isaf erioed'

Ychwanegodd: "Rydym eisoes yn gweithio oriau hir, ac yna rydym yn teimlo dan bwysau i dderbyn shifftiau ychwanegol - yn aml yn cael ein symud i adrannau eraill, lle nad oes gennym arbenigedd - er mwyn helpu gyda phrinder staff.

"Mae'n amhosibl bod â safon uchel o wybodaeth nyrsio ym mhob un arbenigedd y gallai unigolyn fod yn ei wynebu o un dydd i'r llall.

"Mae'r sefyllfa wedi bod yn gwaethygu ers blynyddoedd ac mae o rŵan yn argyfyngus, ac heb ateb."

Dywedodd prif weithredwr Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, Jo Whitehead eu bod wedi ymrwymo i sicrhau bod staff yn teimlo'n saff i godi pryderon "mewn ffordd sy'n ein galluogi ni i wella fel corff ac fel cyflogwr".

"Wedi gwrando ar adborth gan staff fe wnaethom gyflwyno proses newydd - Siarad Allan yn Ddiogel (Speak Out Safely), ynghyd â ffyrdd eraill i staff godi pryderon yn ddienw, ond sydd hefyd yn caniatáu inni gyfathrebu â nhw er mwyn iddyn nhw fod yn eglur ynglŷn â'r hyn sy'n cael ei wneud i ymateb i'w pryderon.

"Maen amlwg nad yw pob aelod o staff yn teimlo'n ddiogel i siarad allan. Mae'n bwysig i ni ein bod yn parhau i wella hyder ein cydweithwyr y bydd eu pryderon yn cael eu hwynebu mewn ffordd adeiladol.

"Rydym yn cymryd y pryderon hyn o ddifrif ac yn cynnal adolygiad yn ddi-oed."

Roedd Rhun ap Iorwerth wedi ysgrifennu at brif weithredwr y bwrdd iechyd yn galw am "ymateb o ddifri' ac ar frys" i'r cwynion.

Roedd Mr ap Iorwerth, llefarydd iechyd Plaid Cymru, wedi codi'r mater gyda'r gweinidog iechyd, Eluned Morgan, yn y Senedd yr wythnos ddiwethaf, gan sbarduno rhagor o nyrsys i rannu profiadau tebyg.

"Roeddwn i wedi fy nhristau'n fawr i glywed am y pryderon difrifol iawn yma gan ein nyrsys," meddai.

"Yn y lle cyntaf casglodd un nyrs dystiolaeth gan ei chydweithwyr a'u pasio nhw ymlaen i mi yn ddienw, am eu bod yn ofni adwaith yn eu herbyn."

Ymhlith yr ymatebion a gafodd Mr ap Iorwerth, cadarnhaodd nifer eu bod wedi gadael eu swyddi yn Ysbyty Gwynedd, neu'r proffesiwn nyrsio yn gyfan gwbl, ac roedd nifer yn ystyried gadael.

"Be' sy'n hynod o bryderus yw'r effaith y mae'r amodau gwaith presennol yn eu cael ar niferoedd staff ac ar forâl.

"Ar adeg pan rydym yn wynebu prinder staff yn dilyn y pandemig, rydym angen bod yn chwilio am ffyrdd newydd o ddenu nyrsys i'r proffesiwn a chael mwy o gyfleon hyfforddi.

"Mae'n rhaid i ni hefyd fedru dal ein gafael ar y staff sydd gennym, gyda'u profiad amhrisiadwy a'u gwybodaeth."