Â鶹ԼÅÄ

Ysbyty Glan Clwyd: Angen gwelliant 'sylweddol' medd arolygwyr

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty Glan Clwyd

Mae angen "gwelliant sylweddol" ar un o unedau gofal brys y gogledd, yn ôl adroddiad beirniadol.

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) yn nodi nifer o feysydd sydd angen sicrwydd "ar unwaith" i ddiogelu cleifion yn Uned Frys Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan.

Mae'r adroddiad yn casglu bod amseroedd aros, y broses o ryddhau cleifion, a'r drefn o gadw golwg ar gleifion oedd yn agored i niwed, i gyd yn ddiffygion ble mae angen gwelliannau yn fuan.

Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi ymddiheuro i gleifion, gan ddweud bod eu hunedau o dan bwysau sylweddol yn rhannol yn sgil prinder staff, ond y byddan nhw'n gwella'r gwasanaeth.

Roedd ymateb dig gan y gwrthbleidiau yn y Senedd mewn ymateb i'r adroddiad.

Pan ymwelodd AGIC yn ddirybudd ag uned gofal brys Ysbyty Glan Clwyd ddechrau'r mis, dyna oedd eu trydydd archwiliad o'r uned ers mis Ionawr.

Fe gasglon nhw nad oedd pethau wedi gwella ers eu hymweliadau blaenorol.

Mae'r adroddiad yn nodi bod y drefn o gadw golwg ar gleifion yn y mannau aros yn "annigonol" ac yn golygu bod "cleifion yn cael eu rhoi mewn perygl o niwed y gellid ei osgoi".

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Doedd staff ddim wastad yn gwybod lle roedd rhai cleifion, yn cynnwys plant a chleifion iechyd meddwl, neu pobl oedd yn agored i niwed.

Roedd cleifion yn gadael heb yn wybod i staff.

Mae'r adroddiad hefyd yn nodi oedi cyn trin cleifion "gan gynnwys un achos lle dylai claf fod wedi cael ei weld o fewn 10 munud a'i fod wedi aros dros chwe awr i weld meddyg. Aeth y claf hwn yn fwy sâl wedyn."

'Diffyg atebolrwydd'

Mae'r adroddiad yn nodi bod staff meddygol yn cael eu cefnogi'n dda a bod yr arweinyddiaeth feddygol yn "effeithiol" ac yn gefnogol i feddygon iau.

Ond roedd "diffyg atebolrwydd" yn y diwylliant "nad oedd yn annog staff nyrsio i ddarparu gofal diogel".

Roedd uwch-staff nyrsio wedi codi pryderon gyda rheolwyr canol, ond doedd dim gweithredu wedi digwydd.

Mewn datganiad ddydd Mercher dywedodd Rhys Jones, Pennaeth Uwchgyfeirio a Gorfodi AGIC, bod meysydd "lle nad oedd camau gweithredu'r bwrdd iechyd... wedi arwain at welliant" ers yr ymweliad blaenorol.

"O ganlyniad, ar ôl ystyried y canfyddiadau a'r dystiolaeth a gasglwyd ers mis Ionawr 2022, mae AGIC wedi penderfynu nad yw'r bwrdd iechyd wedi gallu dangos cynnydd digonol mewn perthynas â nifer o feysydd allweddol sy'n peri pryder yn ymwneud â diogelwch cleifion ac ansawdd gofal.

"Mae AGIC yn gweithio gyda'r bwrdd iechyd i sicrhau bod gwelliannau yn cael eu gwneud mewn modd amserol."

Mae Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru'n dweud mai dyma'r adroddiad gwaethaf o'i fath iddyn nhw ei weld.

'Hynod siomedig'

Mewn datganiad dywedodd prif weithredwr bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, Jo Whitehead: "Mae'n amlwg o'r adroddiad yma ac ymweliad dilynol yr Arolygiaeth Gofal Iechyd, bod cleifion wedi derbyn safon gofal llawer yn is na'r hyn y maen nhw, a ninnau, yn ei ddisgwyl.

"Rydym wedi methu a chyrraedd y disgwyliadau hynny ac mae'n rhaid - ac mi fyddwn - yn gwneud yn well.

"Ar ran y bwrdd iechyd rwyf yn ymddiheuro i'r cleifion hynny sydd dim wedi derbyn y gofal y maent yn ei haeddu.

"Gallaf sicrhau y cyhoedd bod gan arweinyddion uwch oruchwyliaeth fwy grymus dros yr adran frys yn Ysbyty Glan Clwyd, yn cynnwys modelau gofal gwahanol sydd wedi eu dylunio ar gyfer sicrhau bod cleifion yn cael eu hasesu'n gynharach."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Awgrymodd mai dim ond os oeddynt yn ddifrifol wael neu angen triniaeth frys ar gyfer anaf y dylai pobl ddod i'r adrannau brys.

"Rydym yn trin cannoedd o filoedd o gleifion bob blwyddyn, yn ddiogel," meddai.

"Rydym yn parhau i fod dan bwysau mawr yn ein hadrannau brys ar draws gogledd Cymru, a gyda phrinder staff mae hynny'n rhoi mwy o straen ar y rhai sy'n gweithio, yn aml yn gorfod gwneud shifftiau ychwanegol fel bod ein hadrannau'n gallu gweithio.

"Mae'r sefyllfa'n waeth am ein bod yn gweld mwy o bobl sy'n sâl iawn yn cyrraedd ein hadrannau brys.

"Nid ydym yn ceisio gwyro oddi wrth ganlyniadau'r adroddiad, rydym yn ei dderbyn yn ei gyfanrwydd. Roedd yn hynod siomedig i'w ddarllen."

Uned 'yn ddiogel'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae hwn yn adroddiad siomedig iawn ac nid yw'r methiannau mewn gofal sy'n cael eu nodi yn dderbyniol.

"Mae'r Arolygiaeth Gofal Iechyd wedi adnabod adran frys Ysbyty Glan Clwyd fel Gwasanaeth Angen Gwellhad Sylweddol.

"Rydym yn disgwyl i'r bwrdd iechyd weithio gyda'r arolygiaeth i wneud y gwelliannau angenrheidiol a byddwn yn parhau i roi cymorth er mwyn cyflawni hynny.

"Mae'r bwrdd iechyd wedi tawelu'n meddyliau bod trefniannau goruchwyliaeth fwy grymus bellach mewn lle a'i bod yn ddiogel i bobl i barhau i fynychu adran frys Ysbyty Glan Clwyd."

Ymateb dig gan y gwrthbleidiau

Yn ymateb i'r adroddiad, dywedodd AS Plaid Cymru ar gyfer Gogledd Cymru, Llyr Gruffydd ei bod yn amser ystyried newidiadau strwythurol i'r bwrdd iechyd.

"Wnewch chi gydnabod o'r diwedd fod yr amser i aros ar ben i Betsi?" gofynnodd.

Ond dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan nad "ailstrwythuro yng nghanol pandemig" yw'r ateb.

Ychwanegodd AS Ceidwadol Gorllewin Clwyd, Darren Millar nad oedd yr adroddiad yn syndod bellach am fod cymaint o adroddiadau negyddol am y bwrdd iechyd yn cael eu cyhoeddi.

Awgrymodd hefyd mai penderfyniad gwleidyddol oedd tynnu'r bwrdd iechyd o fesurau arbennig "cyn etholiad diwethaf y Senedd".

"Roedd hynny'n benderfyniad anghywir, weinidog, ac mae angen i chi fynd i'r afael â'r peth," meddai.