Cyhoeddi manylion gŵyl gyhoeddi Prifwyl Llŷn ac Eifionydd

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol

Disgrifiad o'r llun, Blas o'r cyffro pan gyhoeddwyd Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion yn Aberteifi yn 2019

Gyda 50 diwrnod i fynd tan ddiwrnod Cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd, mae trefnwyr wedi cyhoeddi manylion gŵyl eleni.

Bydd yn digwydd ym Mhorthmadog ddydd Sadwrn 25 Mehefin ac yn cael ei ddisgrifio'n "gyfle pwysig i'r ardal groesawu'r Eisteddfod, ac i'r Brifwyl groesawu trigolion lleol i'r Eisteddfod".

Bydd aelodau'r Orsedd yn gorymdeithio drwy'r dref, cyn cynnal eu seremoni draddodiadol pan fydd yr Archdderwydd yn derbyn copi cyntaf o restr testunau'r Eisteddfod.

"Fe fydda i'n falch iawn o gyflwyno'r copi cyntaf o'r Rhestr Testunau i'r Archdderwydd, gan fod cyhoeddi'r gyfrol hon yn garreg filltir bwysig yn y daith tuag at yr Eisteddfod," meddai Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Michael Strain.

'Dipyn o daith'

Gan gyfeirio at effaith y pandemig, dywedodd: "Mae hi wedi bod yn dipyn o daith hyd yn hyn.

"Roedden ni'n dechrau mynd i hwyl wrth drefnu pob math o ddigwyddiadau a gweithgareddau ar draws y dalgylch, ac fel gyda phopeth arall, fe ddaeth i stop, gyda nifer fawr o'n pwyllgorau apêl yn troi'n grwpiau cymunedol yn cefnogi trigolion lleol.

Disgrifiad o'r llun, Mae'r ŵyl gyhoeddi'n "gyfle pwysig i'r ardal groesawu'r Eisteddfod, ac i'r Brifwyl groesawu trigolion lleol i'r Eisteddfod"

"Mae'n hynod braf felly nodi mai dim ond 50 diwrnod sydd i fynd tan y Cyhoeddi, ac wrth i ni edrych ymlaen, mae'n braf gallu dweud bod llond lle o weithgareddau'n cael eu trefnu yn wythnosol, a bod y cyffro a'r edrych ymlaen a oedd mor amlwg i'w weld ddwy flynedd yn ôl wedi hen ddychwelyd i'r ardal, a'n bod ni'n edrych ymlaen am chwip o Eisteddfod y flwyddyn nesaf."

Mae tîm o wirfoddolwyr lleol hefyd wedi trefnu rhaglen o weithgareddau ar draws yr ardal dros rhan helaeth mis Mehefin, a fydd yn adlewyrchu elfennau o'r rhaglen ar y Maes yn yr Eisteddfod ei hun y flwyddyn nesaf.

Bydd Eisteddfod 2023 yn cael ei chynnal ar gyrion pentref Boduan o 5-12 Awst.

Mae Prifwyl eleni - Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion - yn cael ei chynnal ar gyrion Tregaron o 30 Gorffennaf - 6 Awst.