Dirwyon Downing Street: 'Roedd fy rhieni'n haeddu gwell'

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Disgrifiad o'r llun, Bu'n rhaid i Jean Prisk ffarwelio â'i gŵr Roy o'r stryd wrth i'w hers fynd heibio oherwydd y cyfyngiadau ar gynnal angladdau

Mae menyw o Dredegar a gollodd ei thad i Covid-19 tua'r un pryd ag y cafodd partïon eu cynnal yn Downing Street wedi mynegi siom ynghylch y dirwyon i'r Prif Weinidog a'r Canghellor.

Bu farw tad Claire Welch, Roy Prisk yn 85 oed mewn cartref gofal ym Merthyr Tudful yn Ebrill 2020 ar ôl dal Covid-19.

Dim ond pedwar o bobl roedd yn bosib i'r teulu eu gwahodd i'r angladd.

O ganlyniad, bu'n rhaid i'w mam 87 oed, Jean, sydd â salwch terfynol, orfod ffarwelio â'i gŵr wedi 60 mlynedd o fywyd priodasol yn y stryd werth i'w hers fynd heibio.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Disgrifiad o'r llun, Chwech o bobl yn unig oedd yn cael mynd i angladdau dan gyfyngiadau cyfnod cychwynnol y pandemig

Fe gysylltodd y cartref gofal â Ms Welch ar 11 Ebrill 2020 - dydd Sadwrn Pasg cyntaf y pandemig - yn dweud bod "amheuaeth gref ei fod wedi dal Covid, a bod dim gobaith iddo".

"Yn ddiweddarach y prynhawn hwnnw, fe ffoniodd meddyg teulu i ddweud wrtha'i bod dim llawer o amser 'da ni 'dag ef - bod hi'n fater o aros a gweld," meddai.

"Fe ddaeth drwyddo dros nos ac fe ges i ei weld am chwarter awr. Ro'n i'n gwisgo'r PPE llawn."

Fe gafodd gyngor i beidio â'i gyffwrdd "ond fy nhad oedd e, felly wnes i afael yn ei ddwylo a dweud wrtho fod hi'n ddrwg iawn gen i".

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Disgrifiad o'r llun, Roy a Jean Prisk ar eu diwrnod priodas

"O gwmpas awr wedi hynny, fe siaradodd gyda fy mam trwy Facetime, ac yna gyda fy mrawd ar Facetime, ac fe wnaethon nhw ffarwelio â'i gilydd. Ychydig wedi hanner dydd, fe fu farw."

Roedd angen dilyn y cyfyngiadau Covid wrth drefnu angladd Mr Prisk.

"Yn anffodus, mae fy mam ag afiechyd terfynol - mae gyda hi bibell sy'n ei bwydo i'r galon yn barhaol, ac fe roedd hi'n cysgodi," meddai Ms Welch.

"Felly doedd hi ddim yn gallu bod yn rhan o ddim byd oedd yn mynd ymlaen - roedden ni'n ei gweld trwy ffenestr ei thÅ·.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Disgrifiad o'r llun, Cafodd yr angladd ei chynnal yn ystod cyfnod clo mawr cyntaf y pandemig

"Roedd angladd Dad ar 4 Mai, a doedd Mam ddim yn gallu dod gyda ni. Doedd hi ddim yn gallu bod yn y cerbyd angladdol oherwydd doedden ni ddim yn perthyn i'r un aelwyd.

"Felly fe gynigiodd y trefnydd angladdol i fynd â'r hers tu allan i'w thŷ. Dyna ble ddywedodd hi ffarwel i'r dyn y bu'n briod ag e am dros 60 o flynyddoedd - yng nghanol y ffordd.

"Un o'r pethau anoddaf i mi orfod ei wneud erioed oedd gyrru o 'na tu ôl i'r hers a gorfod gadael Mam ar ôl yn wylofain."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Disgrifiad o'r llun, Roedd Jean a Roy Prisk yn briod am dros 60 o flynyddoedd

Mae'r ffaith i'r Prif Weinidog, Boris Johnson a'r Canghellor, Rishi Sunak yn cael dirwyon am dorri'r rheolau Covid yn ofid i Ms Welch, sy'n credu na ddylai hynny fod yn ddiwedd ar y mater.

"Rwy'n wirioneddol siomedig," meddai. "Rwy'n meddwl y gallwn ni gyd ddisgwyl gwell. Rwy'n meddwl roedd fy mam a fy nhad yn haeddu gwell, fel rydym ni gyd.

"Mae pobl wedi bod trwy un o gyfnodau gwaethaf eu bywydau. Dydy dirwy a rhyw bwt o ymddiheuriad ddim yn ddigon da. Byddwn ni oll wedi wynebu canlyniadau llawer gwaeth na hynny, oni ddim?

"Rwy'n meddwl bod angen canlyniadau mwy yn sgil yr hyn maen nhw wedi ei wneud oherwydd aethon ni gyd i raddau pell iawn i ddilyn y rheolau, hyd yn oed pan roedd yn torri calon i wneud hynny.

"Roedd dweud wrth Mam trwy ddrws fod ei gŵr wedi marw, heb allu ei chofleidio na sychu ei dagrau yn ofnadwy - a dyna ble roedden nhw, gyda chesys o win, yn cael partïon."

'Deall y dicter'

Dywed Mr Johnson ei fod am barhau yn ei swydd a'i fod wedi talu'r ddirwy.

Mewn datganiad ddydd Mawrth dywedodd ei fod yn "deall y dicter y bydd nifer yn ei deimlo fy mod i wedi methu â dilyn y rheolau gafodd eu gosod gan y llywodraeth rwy'n ei harwain er mwy diogelu'r cyhoedd".

Pan ofynnwyd a fyddai'n ymddiswyddo dywedodd ei fod yn teimlo dyletswydd i "wireddu blaenoriaethau pobl Prydain" gan ychwanegu fod y rhain yn cynnwys sicrhau fod "Putin yn methu yn Wcráin ac ysgafnhau'r baich ar deuluoedd o ganlyniad i brisiau ynni uwch".

"Rwy'n derbyn yn ddiffuant fod gan bobl yr hawl i ddisgwyl pethau gwell."

Mae'r Canghellor Rishi Sunak hefyd wedi cyhoeddi "ymddiheuriad diamod" am fynychu achlysur yn Downing Street ar 19 Mehefin.