Â鶹ԼÅÄ

Simon Hart dal yn cefnogi Johnson 'os fydd dirwyon pellach'

  • Cyhoeddwyd
Mae Boris Johnson a Rishi Sunak wedi gwrthod galwadau arnynt i ymddiswyddo
Disgrifiad o’r llun,

Mae Boris Johnson a Rishi Sunak wedi gwrthod galwadau arnynt i ymddiswyddo

Mae Ysgrifennydd Cymru wedi dweud nad yw'n credu y dylai Boris Johnson ymddiswyddo, hyd yn oed os ydy'r Prif Weinidog cael cosb bellach am dorri rheolau Covid.

Dywedodd Simon Hart wrth Â鶹ԼÅÄ Cymru na fyddai ras arweinyddiaeth er budd y cyhoedd.

Pan ofynnwyd iddo a ddylai'r Prif Weinidog roi'r gorau iddi os ydyw'n derbyn mwy o ddirwyon, dywedodd Mr Hart: "Yr un yw'r egwyddorion, p'un ai yw hi'n mynd i fod yn un ddirwy neu'n ddwy".

Fe wynebodd Boris Johnson alwadau i ildio'r awenau ddydd Mawrth ar ôl iddo ef, ei wraig a'r Canghellor gael dirwy am fynychu parti pen-blwydd yn Downing Street ym Mehefin 2020.

"Ychydig iawn sy'n dweud y dylai unrhyw un oedd mewn unrhyw un o'r partïon yma... golli ei yrfa ar unwaith," meddai Mr Hart, AS Ceidwadol Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro.

Dywedodd nad oedd y ddirwy yn "ddigwyddiad ymddiswyddo".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ni fyddai cystadleuaeth am arweinydd newydd "er budd y cyhoedd", meddai Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart

"Mae pawb o'r farn, gan gynnwys y Prif Weinidog o ran hynny, na ddylai hyn fod wedi digwydd."

Ychwanegodd Mr Hart ei fod yn credu taw hysbysiadau cosb ydy'r "sancsiynau priodol mewn achosion fel hyn".

"Ond dydw i ddim yn meddwl ei fod yn dilyn yn awtomatig y dylai unrhyw un mewn bywyd cyhoeddus golli ei swydd os ydyn nhw yn y sefyllfa yma."

'Difaru hyn yn fawr'

Dywedodd Mr Hart nad oedd am weld proses "arweinyddiaeth hir, swnllyd" ar adeg "dyngedfennol cyn belled ag y mae ein hymgysylltiad yn Wcráin yn y cwestiwn".

"I mi nid yw'n ymddangos bod hynny er budd y cyhoedd.

"Roedd y Prif Weinidog yn difaru hyn yn fawr. Does neb yn teimlo mwy o rwystredigaeth nag ef am y camgymeriadau a wnaed bron i ddwy flynedd yn ôl."

Dywedodd Mr Hart mai ychydig o'i etholwyr oedd yn galw am ymddiswyddiad.

"Mae'r rhan fwyaf o bobl dwi'n siarad â nhw wedi eu cythruddo... eisiau ymddiheuriad, eisiau'r sicrwydd yna fod y math yma o beth... y problemau all fod wedi arwain at hyn wedi cael eu datrys.

"Ond ychydig iawn sy'n dweud y dylai unrhyw un a oedd mewn unrhyw un o'r partïon hyn, beth bynnag fo'u rheswm neu eu hesgusodion, fod wedi colli ei yrfa ar unwaith - ychydig iawn o bobl sydd wedi gwneud y galw hwnnw arnaf."

Pynciau cysylltiedig