Â鶹ԼÅÄ

Iawndal llawn i is-bostfeistri a amlygodd sgandal

  • Cyhoeddwyd
Cyn is-bostfeistri'n dathlu tu allan i'r Llysoedd Cyfiawnder Brenhinol yn LlundainFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd is-bostfeistri a helpodd amlygu sgandal system gyfrifiadurol ddiffygiol Swyddfa'r Post ond na chafodd iawndal llawn yn derbyn taliadau dan gynllun newydd Llywodraeth y DU.

Enillodd 555 o gyn-weithwyr achos sifil pwysig yn erbyn Swyddfa'r Post yn 2019, ond fe gafodd y rhan helaeth o'u hiawndal ei lyncu gan gostau cyfreithiol.

Bydd yr unigolion hynny nawr yn derbyn yr un lefel o iawndal ag is-bostfeistri eraill a gafodd eu herlyn ar gam.

Mae'r cyhoeddiad wedi cael croeso gofalus gan Alan Bates - cyn is-bostfeistr yng Nghraig-y-Don, Llandudno a sefydlodd y grŵp ymgyrchu Justice for Subpostmasters Alliance i gynrychioli'r unigolion a gafodd eu heffeithio.

Dywedodd Mr Bates wrth Â鶹ԼÅÄ Cymru bod angen astudio'r manylion cyn ymateb yn llawn i'r cyhoeddiad ond bod "synau positif" yn dod o gyfeiriad gweinidogion yn San Steffan ar y mater.

Mae ymchwiliad cyhoeddus i'r sgandal yn parhau.

Rhwng 2000 a 2014, fe gafodd cannoedd o is-bostfeistri eu cyhuddo ar gam o ddwyn, twyllo a chadw cyfrifon ffug yn sgil namau yn y system gyfrifiadurol Horizon y gosododd Swyddfa'r Post yn ei changhennau ar draws y DU.

Fe gafodd rhai eu herlyn a'u carcharu. Yn sgil her llwyddiannus yn yr Uchel Lys yn 2019, mae sawl euogfarn bellach wedi eu dileu.

Disgrifiad,

Noel Thomas: "Y cwbl ma' ymchwiliad yn ei wneud ydy dal petha'n ôl"

Cytunodd Swyddfa'r Post i sefydlu cynllun a thalu iawndal i dros 700 o bobl a gafodd record droseddol ar gam yn sgil methiannau'r system Horizon. Roedd y cyn is-bostfeistri wedi gorfod mynd i'w pocedi eu hunain i lenwi bylchau a gododd yn y cyfrifon o'i herwydd.

Ond doedd y cynllun hwnnw ddim yn agored i'r 555 is-bostfeistr oedd yn rhan o'r achos yn yr Uchel Lys. Er i'r grŵp ennill bron i £43m mewn iawndal yn y llys, cafodd y rhan helaeth o'r arian i lyncu yn sgil cytundeb 'no win, no fee' gyda'r cwmni a ariannodd yr achos, Therium.

"Canran fechan" o'r setliad a wnaethon nhw ei dderbyn yn y pen draw, oedd yn gyfystyr ag oddeutu £20,000, medd y Trysorlys.

Mae cwmni Therium wedi cytuno i ildio'i hawl i unrhyw gyfran o'r cynllun iawndal diweddaraf.

Pynciau cysylltiedig