Â鶹ԼÅÄ

Sgandal Swyddfa'r Post: 'Fe ges i gyfnod tywyll'

  • Cyhoeddwyd
Mark Kelly
Disgrifiad o’r llun,

Mae gorbryder ac iselder yn dal i effeithio ar fywyd Mark Kelly

Mae mwy o is-bostfeistri o Gymru wedi rhoi tystiolaeth i'r ymchwiliad cyhoeddus i sgandal Horizon ddydd Mawrth.

Mae un fydd yn rhoi tystiolaeth wedi datgelu ei fod wedi ceisio lladd ei hun ar ôl cael ei gyhuddo ar gam o ddwyn arian.

Dros 14 mlynedd, rhwng 2000 a 2014, cafodd 736 o is-bostfeistri eu herlyn ac fe gafodd nifer eu carcharu wedi iddynt gael eu cyhuddo ar gam gan Swyddfa'r Post o ddwyn, twyll a chadw cyfrifon ffug.

Nam gyda system gyfrifiadurol Swyddfa'r Post - Horizon - oedd yn gyfrifol am yr anghysonderau mawr yng nghyfrifon nifer o swyddfeydd post.

'Teimlo'n euog ac yn isel'

Ddydd Mawrth mae'r ymchwiliad wedi bod yn casglu tystiolaeth yng Nghaerdydd.

Mae Mark Kelly, a oedd yn gyfrifol am redeg swyddfa'r post ym Mron-deg yn Abertawe rhwng 2003 a 2006, ymhlith nifer o dystion wnaeth siarad.

Dywedodd Mr Kelly, 43, bod gorbryder ac iselder yn parhau i gael cryn effaith ar ei fywyd.

"Dwi ddim yn gallu cymdeithasu cymaint ag yr oeddwn i," meddai wrth Â鶹ԼÅÄ Cymru, "ac mae yna rai tasgau dwi methu eu cyflawni - dwi ddim yn gallu delio gyda straen."

Mae Swyddfa'r Post wedi dweud eu bod yn "ymddiheuro'n ddiffuant" am effaith y cyfan ar y rhai a gyhuddwyd ar gam a'u teuluoedd.

Ffynhonnell y llun, Mark Kelly
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Mark Kelly yn gyfrifol am redeg swyddfa'r post ym Mron-deg, Abertawe rhwng 2003 a 2006

Fe wnaeth Mr Kelly gymryd cyfrifoldeb am swyddfa bost Bron-deg yn 2003 wedi i'w rieni roi'r gorau iddi, ac fe sylwodd bod yna broblemau gyda'r cyfrifon wedi lladrad arfog yno yn 2004.

Dywed ei fod wedi mynd at Swyddfa'r Post gydag awgrym o beth allai fod wedi mynd o'i le, ond nad oedd gan y cwmni ddiddordeb ac roedden nhw am "gladdu'r cyfan".

Roedd hi'n ymddangos y byddai Mr Kelly a'i wraig Olga, a oedd hefyd yn gweithio yn y gangen, yn cael eu herlyn ond fe wnaeth ymddiswyddo maes o law gan golli ei fusnes ac yna ei dÅ·.

Dywed ei fod wedi cael "cyfnod tywyll iawn".

"Fe wnaeth y cyfan fi i deimlo'n euog ac yn isel," meddai.

"Fe wnes i ddechrau beio fy hun a cheisio lladd fy hun ar adegau. Ond wedyn fe glywais i am y gwrandawiad Uchel Lys ar y radio a dyna pryd wnes i ddeall nad oeddwn ar fai ond am flynyddoedd roeddwn i'n credu fy mod i ar fai."

Dywedodd Mr Kelly, sydd bellach â siop trwsio a gwerthu ategolion ffonau symudol ym marchnad Castell-nedd, ei fod yn gobeithio y byddai rhoi tystiolaeth yn "helpu pawb".

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Noel Thomas o Gaerwen bod yr ymchwiliad yn "dal pethau'n ôl"

Eisoes mae Noel Thomas o Gaerwen, Ynys Môn wedi rhoi tystiolaeth i'r ymchwiliad.

Ond dywedodd ei fod yn poeni y gallai'r ymchwiliad fod yn wastraff arian ac amser.

'Rwy'n casáu Swyddfa'r Post'

Un arall roddodd dystiolaeth yw Tim Brentnall o bentref Y Garn yn Sir Benfro, a chyn gwneud hynny, dywed ei fod yn gobeithio y bydd yn brofiad "cathartig".

Fe gafodd ei erlyn yn 2010 wedi diffyg o £22,000 yn ei gyfrifon ac fe gafodd ei euogfarn ei dileu y llynedd.

Dywed Mr Brentnall bod nifer yn yr ardal yn cyfeirio ato'n dawel bach fel "lleidr" a "thwyllwr" wedi iddo gael ei erlyn.

Mae bellach yn rhedeg swyddfa'r post yn Y Garn unwaith yn rhagor ond dywed na fydd ei fusnes fyth mor llwyddiannus.

Ar un adeg roedd y trosiant dros £500,000 y flwyddyn ond bellach mae hynny wedi gostwng i £100,000 y flwyddyn.

Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd euogfarn Tim Bretnall o Sir Benfro ei dileu y llynedd

Mae Mr Brentnall, 40, yn gobeithio y bydd yr ymchwiliad yn gyfle i bobl "adrodd eu straeon unigol" - un sydd yn ei achos ef yn llawn dicter.

"Rwy'n casáu Swyddfa'r Post," meddai.

"Mae'n anodd casáu sefydliad ond mae gen i deimladau chwerw iawn tuag at y bobl wnaeth ein hymchwilio, ein herlyn ac a wnaeth y celwydd i barhau am gyfnod hir.

"Pan ges i fy nghyfweld fe wnaethon nhw ddweud wrthyf mai fi oedd yr unig berson a oedd yn cael trafferth gyda Horizon - mae'n rhaid bod nhw wedi dweud hyn wrth nifer o bobl.

"Dwi'n methu credu sut maen nhw'n gallu byw gyda hyn i gyd."

'Iawndal yn flaenoriaeth'

Dywedodd llefarydd ar ran Swyddfa'r Post eu bod yn "ymddiheuro'n ddiffuant am effaith sgandal Horizon ar fywydau dioddefwyr a'u teuluoedd".

"Mae'r ymchwiliad yn gyfle i'r rhai a gafodd eu heffeithio waethaf gan fethiannau'r Swyddfa'r Post i leisio eu pryderon ac fe fydd eu tystiolaeth yn sicrhau ac yn gorfodi gwersi i gael eu dysgu fel na fydd digwyddiadau o'r fath yn digwydd eto," meddai.

"Wrth gyfeirio at y gorffennol, ein prif flaenoriaeth yw sicrhau iawndal llawn, teg a therfynol ac rydym yn symud ymlaen yn dda gyda hynny.

"Mae'r mwyafrif o'r 72 sydd â'u heuogfarnau wedi'u dileu wedi derbyn taliadau dros £100,000 ac wedi i Lywodraeth y DU gyhoeddi cyllid ym mis Rhagfyr ry'n ni'n gweithio ar y setliadau terfynol."

Ychwanegodd bod Swyddfa'r Post yn "cynnig cymorth i unrhyw un sy'n dymuno herio ei euogfarn", ac "wedi gwneud newidiadau sylweddol" i wella'r berthynas gyda phostfeistri.

"Mae Swyddfa'r Post yn cynorthwyo'r ymchwiliad yn gwbl agored er mwyn canfod beth aeth o'i le yn y gorffennol gan ddod â diwedd, y gorau a ellir, i'r rhai a ddioddefodd."

Fe fydd yr ymchwiliad yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd ddydd Mawrth a dydd Mercher, ac mae disgwyl iddo gyhoeddi ei gasgliad yn yr hydref.

Pynciau cysylltiedig