Â鶹ԼÅÄ

£31m ar gyfer adeiladu prosiect ynni llanw Morlais

  • Cyhoeddwyd
Lleoliad MorlaisFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae safle prosiect ynni llanw Morlais yn gorchuddio ardal o 35 cilomedr sgwâr yn y môr ger Ynys Lawd

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd grant Ewropeaidd o £31m yn cael ei roi i brosiect llanw ar Ynys Môn ar gyfer cam cyntaf y gwaith adeiladu.

Bydd prosiect Morlais ger arfordir Ynys Cybi yn gobeithio darparu pŵer i hyd at 180,000 o gartrefi bob blwyddyn.

Dywedodd y llywodraeth ei bod yn debygol mai dyma'r grant mawr olaf fydd yn dod i Gymru o raglen ariannu ranbarthol yr Undeb Ewropeaidd.

Daw wrth i Fenter Môn, sy'n gyfrifol am reoli'r safle, gyhoeddi mai cwmni Jones Bros o Ruthun sydd wedi sicrhau'r prif gytundeb gwerth £23.5m i adeiladu'r seilwaith ar gyfer y prosiect.

Bydd Ystâd y Goron yn buddsoddi £1.2m arall ym mhrosiect Morlais er mwyn "cefnogi'r gwaith o gyflawni ei phecyn monitro a lliniaru amgylcheddol".

'Creu swyddi a sgiliau'

Mae safle prosiect ynni llanw Morlais yn gorchuddio ardal o 35 cilomedr sgwâr yn y môr ger Ynys Lawd, a'r nod yw gosod hyd at 625 o dyrbinau yn y dŵr.

Bydd y trydan yn cael ei gynhyrchu gan gyfres o dyrbinau llanw, wedi'u lleoli o dan y môr, sy'n defnyddio egni'r llanw i gynhyrchu trydan.

Derbyniodd y safle, sydd â'r potensial i gynhyrchu 240MW o ynni, ganiatâd ar gyfer datblygiad gan Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr.

Y gobaith yw y bydd y tyrbinau cyntaf gael eu gosod yn 2023/24.

Ond mae rhai mudiadau cadwriaethol yn poeni am yr effaith posib ar fywyd gwyllt, a maint y datblygiad.

Ffynhonnell y llun, NOVA Innovation
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y trydan yn cael ei gynhyrchu gan gyfres o dyrbinau llanw wedi'u lleoli o dan y môr

Dywedodd Gweinidog Gogledd Cymru, Lesley Griffiths fod "Ynys Môn a Gogledd Cymru yn gyffredinol mewn sefyllfa dda iawn i chwarae rhan allweddol mewn cynhyrchu ynni carbon isel arloesol sydd o fudd i gymunedau lleol".

"Mae'r newyddion heddiw yn dystiolaeth bellach o hynny. Bydd y prosiect nid yn unig yn hwb i gynhyrchu ynni carbon isel yn y dyfodol ond bydd hefyd yn creu swyddi a sgiliau yn yr ardal," meddai.

Ychwanegodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James fod y llywodraeth "am sefydlu Cymru fel lleoliad o ddewis ar gyfer datblygwyr ffrwd llanw a'r gadwyn gyflenwi".

'Cadwyni cyflenwi lleol'

Jones Bros fydd yn gyfrifol am adeiladu'r is-orsaf ar Ynys Cybi, yn ogystal â gosod ceblau fydd yn cysylltu'r cynllun â'r Grid Cenedlaethol.

Mae Menter Môn wedi dweud yn y gorffennol y gallai'r prosiect greu 160 o swyddi.

Ffynhonnell y llun, Menter Môn
Disgrifiad o’r llun,

Karen Jones o brosiect Morlais, Dafydd Gruffydd o Fenter Môn, Gerallt Llewelyn Jones o Morlais, a Huw Jones a Brendan Fieldhouse o gwmni Jones Bros

Dywedodd Gerallt Llywelyn Jones, cyfarwyddwr Morlais, fod "sicrhau budd i economi gogledd Cymru wedi bod yn bwysig i ni o'r dechrau a dyma pam roedden ni mor awyddus i greu rhywbeth â gwreiddiau lleol cryf".

"Dim ond y dechrau yw'r contract hwn wrth gwrs, ond mae'n garreg filltir bwysig i sicrhau y gallwn adeiladu cadwyni cyflenwi lleol a chreu cyfleoedd gwaith yma ar Ynys Môn ac ar draws y rhanbarth yn ehangach.

"Nid yr economi yn unig fydd ar ei ennill gobeithio. Gyda'r angen i fynd i'r afael â'r argyfwng newid hinsawdd yn dod yn fwy brys, mae'r gallu i gynhyrchu trydan o ynni carbon isel yn fwy o flaenoriaeth byth."