Â鶹ԼÅÄ

Sicrhau safle i brosiect ynni llanw oddi ar Ynys Cybi

  • Cyhoeddwyd
Ynys CybiFfynhonnell y llun, NOVA Innovation
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r safle oddi ar arfordir Ynys Cybi'n gorchuddio 35km² o'r môr

Bydd prosiect ynni llanw'n cael ei ddatblygu gan ddau o gwmnïau mwyaf y maes ger arfordir Ynys Cybi ar Ynys Môn.

Bydd prosiect Morlais gan gwmnïoedd SABELLA a Nova Innovation yn gobeithio darparu pŵer i hyd at 10,000 o gartrefi bob blwyddyn.

Mae'r cwmnïau wedi sicrhau angorfa 12MW ar gyfer tyrbin llanw ar y safle - gyda'r ddau'n gyfrifol am ddatblygu 6MW yr un.

Yn ôl y cwmnïau, maent yn falch o gyfrannu tuag at Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Gweinidog Newid Hinsawdd y llywodraeth, Julie James, y bydd y prosiect yn creu swyddi arbenigol yn y gogledd tra'n cyfrannu at dargedau ynni adnewyddadwy.

Ffynhonnell y llun, NOVA Innovation
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl y ddau gwmni, mae'r tyrbinau'n eistedd ar wely'r môr fel na ellir eu gweld

Mae safle ynni llanw prosiect Morlais yn gorchuddio ardal o 35km² yn y môr, gyda Menter Môn yn gyfrifol am reoli'r safle a dyfarnu'r angorfeydd.

Yn ôl y ddau gwmni, bydd y gwaith o adeiladu a gweithredu'r prosiect yn "digwydd fesul cam fel bod posib monitro amgylchedd bywyd gwyllt a chynefinoedd".

Dywedodd Fanch Le Bris, Prif Weithredwr SABELLA ei bod yn "falch" o "gefnogi Llywodraeth Cymru ar y daith trawsnewid ynni".

"Mae prosiect Morlais yn dangos ymrwymiad cryf timau Nova a SABELLA i feithrin gallu ar gyfer ynni'r llanw ledled Ffrainc a'r DU a chyflawni prosiectau a fydd yn cael effaith sylweddol."

Ychwanegodd Simon Forrest, Prif Weithredwr Nova Innovation bod prosiect Morlais yn "gyfle gwych i gynyddu a helpu i yrru targedau sero net Cymru".

Ffynhonnell y llun, NOVA Innovation
Disgrifiad o’r llun,

Y gobaith yw y bydd prosiect Morlais yn darparu pŵer i hyd at 10,000 o gartrefi bob blwyddyn

'Dod â swyddi lle mae angen sgiliau arbenigol'

Derbyniodd y safle ehangach 240MW ganiatâd ar gyfer datblygiad gan Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2021.

Mewn ymateb i brosiect Morlais, dywedodd Julie James, Gweinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru y bydd yn "dod â swyddi lle mae angen sgiliau arbenigol ar eu cyfer i ogledd Cymru".

"Mae digonedd o adnoddau morol yng Nghymru sydd angen cael eu defnyddio mewn ffordd gynaliadwy os ydym am symud tuag at economi carbon isel," ychwanegodd.

"Rydym wedi buddsoddi'n helaeth mewn ystod o brosiectau, gyda chefnogaeth yr UE, yn y sector ynni morol ac mewn datblygiadau carbon isel a all wneud cyfraniad pwysig at ein targedau ynni adnewyddadwy."

Mae disgwyl i'r tyrbinau cyntaf gael eu gosod yn 2023/24.