Teithio am ddim ar drenau i ffoaduriaid Wcráin

Disgrifiad o'r llun, Trafnidiaeth Cymru sy'n darparu'r rhan fwyaf o drenau Cymru

Gall ffoaduriaid o Wcráin deithio am ddim ar wasanaethau rheilffordd ledled Cymru, mae'r prif weinidog wedi cyhoeddi.

Bwriad y cynllun chwe mis, ar gyfer holl wasanaethau rheilffordd Trafnidiaeth Cymru, yw helpu ffoaduriaid tra eu bod yn ymgartrefu.

Dywedodd Mark Drakeford ei fod "yn gam arall sy'n dangos bod Cymru'n lle diogel ac yn noddfa i'r rhai sydd angen ein help ni".

Gall gwladolion Wcráin hawlio teithio am ddim drwy ddangos pasbort Wcráin i swyddogion tocynnau a staff mewn gorsafoedd.

'Croeso cynnes'

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford: "Mae fy neges i bobl Wcráin yn glir; mae croeso cynnes yn aros amdanoch chi yng Nghymru.

"Mae Trafnidiaeth Cymru yn darparu teithio am ddim i bob ffoadur yn gam arall sy'n dangos bod Cymru'n lle diogel ac yn noddfa i'r rhai sydd angen ein help ni.

"Rwyf hefyd yn falch bod Cymru'n bwriadu bod yn arch-noddwr ar gyfer cynllun Cartrefi i Wcráin Llywodraeth y DU, a fydd yn darparu llwybr diogel i bobl ddod i'r DU am hyd at dair blynedd."

Mae'r cynllun yn estyniad ar raglen barhaus gan Lywodraeth Cymru sy'n darparu trafnidiaeth gyhoeddus am ddim i geiswyr lloches yng Nghymru.

Ychwanegodd James Price, prif weithredwr Trafnidiaeth Cymru: "Rydym eisiau gwneud yr hyn a allwn ni i gefnogi pobl Wcráin yn eu cyfnod o angen.

"Rydym yn falch o'n henw da am gefnogi grwpiau gyda theithio am ddim, gan gynnwys bod yn rhan o gynllun cenedlaethol Rheilffordd i Loches sy'n cynnig teithio am ddim i bobl sy'n ffoi rhag cam-drin domestig, a chynnig teithiau trên am ddim i weithwyr y GIG yn ystod 2020.

"Dyma ymestyn ein hymrwymiad i gyfiawnder cymdeithasol ymhellach, a helpu i wneud y byd yn lle gwell."