Â鶹ԼÅÄ

Wcráin: Gweinidog yn bwriadu croesawu perthnasau

  • Cyhoeddwyd
Mick AntoniwFfynhonnell y llun, Mick Antoniw
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mick Antoniw yn aros i glywed a yw ceisiadau fisa ei berthnasau yn llwyddiannus

Mae gweinidog yn Llywodraeth Cymru yn aros i ddarganfod a fydd dau o'i berthnasau yn Wcráin yn derbyn fisas er mwyn iddyn nhw allu byw gydag e.

Dywedodd Aelod Senedd Llafur Pontypridd, Mick Antoniw - mab i ffoadur - ei fod yn teimlo dyletswydd i helpu.

Mae Mr Antoniw yn fodlon caniatáu i'w berthnasau aros gydag ef nes ei bod yn ddiogel i ddychwelyd.

Galwodd y cwnsler cyffredinol hefyd am sefydlu hybiau i helpu newydd-ddyfodiaid.

Mae'r ddau berthynas yn wraig i un o'i gefndryd a'i fab yn ei arddegau.

Maen nhw'n byw yng ngorllewin yr Wcráin, sydd hyd yma wedi osgoi peth o'r ymladd gwaethaf.

Fe wnaethon nhw gais fore Mawrth ar ôl i gynllun fisa teulu Lywodraeth y DU gael ei ymestyn i ganiatáu ceisiadau ar-lein.

'Biwrocrataidd'

Ymwelodd Mr Antoniw, a aned yn Reading ac sy'n siarad Wcreineg, â'r wlad ddyddiau cyn i'r ymosodiad ddechrau.

"Rydyn ni wedi bod yn ceisio cael fisas iddyn nhw ers dechrau'r goresgyniad," meddai.

"Ond mae cynlluniau'r llywodraeth wedi bod yn hynod gaeth a biwrocrataidd.

"Fe fyddwn ni'n aros i weld faint o amser mae'n ei gymryd i brosesu.

"Os yw hynny'n digwydd, yna yn amlwg fe allan nhw fynd dros y ffin. A bydda i mewn sefyllfa i drefnu iddyn nhw hedfan i'r DU."

Dywedodd Mr Antoniw wrth Â鶹ԼÅÄ Cymru: "Cefais fy magu mewn cymuned o bobl oedd mewn sefyllfa debyg - pobl wedi'u dadleoli ar ôl y rhyfel," meddai.

"Yn amlwg mae gennych chi ddyletswydd i wneud drostynt yr hyn a wnaeth llawer o bobl dros ein rhieni - i ddarparu cartrefi a swyddi a'u helpu i setlo."

Disgrifiad,

Cludo bwyd o Gymru i Wcráin

Mae eraill yn ei deulu yn nwyrain y wlad, mewn ardaloedd sy'n dod o dan ymosodiadau cynyddol.

Mae rhai wedi symud i'r gorllewin, a dywedodd Mr Antoniw fod tair cenhedlaeth o'i deulu yn ymwneud ag amddiffyn sifil.

'Profiad unig iawn'

Tra bod ei deulu'n wynebu llai o rwystrau yn dod i fyw gydag ef, mae'n credu y gallai ffoaduriaid eraill wynebu anawsterau fel iaith.

"Os ydyn nhw'n mynd i mewn i gartref rhywun neu i lety, fe all fod yn brofiad unig iawn i ffoaduriaid," meddai.

"Yr hyn fydd yn bwysig yw bod yna fath o hybiau'n cael eu creu lle gall pobl ymgysylltu a chael cefnogaeth a chael cyfarfod a chymysgu a dechrau dod i arfer â thrawma'r hyn sydd wedi digwydd i'w bywydau."

Ddydd Llun lansiodd Llywodraeth y DU ei chynllun Â鶹ԼÅÄs for Ukraine, lle gall unigolion ac, yn ddiweddarach, sefydliadau noddi pobl i ddod i'r DU.

Dywedodd Llywodraeth Cymru, sy'n gobeithio dod yn "uwch noddwr" yn y cynllun, y bydd angen mwy o gefnogaeth gan y sector cyhoeddus ar bobl Wcráin.