Â鶹ԼÅÄ

Cleifion fasgwlar i deithio i Loegr yn sgil problemau staffio

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty Glan Clwyd
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd gwasanaethau fasgwlar y gogledd eu symud i Ysbyty Glan Clwyd yn Ebrill 2019

Bydd rhai cleifion o uned fasgwlar yn y gogledd yn gorfod teithio i Lerpwl am driniaeth arbenigol oherwydd trafferthion staffio.

Daw hyn ar ôl i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ddatgelu eu bod yn ymchwilio i ddau ddigwyddiad a beryglodd diogelwch cleifion yn ddiweddar.

Yn gynharach eleni fe wnaeth adroddiad gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon godi pryderon am wasanaethau fasgwlar y bwrdd iechyd, gan gynnwys fod perygl i gleifion sy'n defnyddio'r gwasanaethau.

Mae'r gwasanaethau wedi'u dynodi fel rhai sydd "angen gwelliant sylweddol" gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) ac mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi "rhybudd terfynol" i'r bwrdd iechyd.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod y digwyddiadau diweddar yn "bryderus iawn" ond bod y gefnogaeth gan rwydwaith fasgwlar Lerpwl yn "galonogol".

Yn Ebrill 2019 fe gafodd y gwasanaeth fasgwlar - sy'n ymwneud â chylchrediad y gwaed - ei ganoli yn Ysbyty Glan Clwyd, gydag israddio'n digwydd yn ysbytai Gwynedd a Maelor.

Ers hynny, mae safon a diogelwch y gwasanaethau wedi'u beirniadu mewn adroddiad damniol gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r penderfyniad i ganoli'r gwasanaethau fasgwlar yn Ysbyty Glan Clwyd wedi profi'n un dadleuol

Dywedodd llefarydd ar ran y bwrdd iechyd eu bod yn rhagweld y bydd angen i tua phedair triniaeth frys pob wythnos gael eu cynnal mewn ysbyty yn Lerpwl yn hytrach na Glan Clwyd, a hynny am gyfnod o bedair wythnos.

Bydd apwyntiadau tua 50 o gleifion yn cael eu gohirio hefyd.

"Ry'n ni ar hyn o bryd yn profi trafferthion capasiti staffio ac yn y broses o recriwtio i fynd i'r afael â hyn," meddai llefarydd.

"Tra'n bod ni'n parhau i benodi arbenigedd ychwanegol i gryfhau ein tîm, bydd nifer fach iawn o achosion fasgwlar cymhleth yn derbyn gofal arbenigol iawn gan ein cydweithwyr yn rhwydwaith fasgwlar Lerpwl."

Ychwanegodd y bydd y trefniant mewn lle am bedair wythnos i ddechrau, cyn cael ei adolygu. Ond dywedodd y bydd mwyafrif y gwasanaethau'n parhau fel yr arfer.

'Dau ddigwyddiad pryderus'

Yn yr un datganiad, fe ddywedodd llefarydd fod "dau ddigwyddiad diogelwch pryderus [wedi bod] yn yr uned fasgwlar" yn ddiweddar.

"Ry'n ni'n ymchwilio i'r rhain i sicrhau ein bod yn dysgu ohonyn nhw i wella'r gwasanaeth ry'n ni'n darparu ar gyfer ein cleifion," meddai.

Fe ychwanegodd Dr Nick Lyons, cyfarwyddwr meddygol gweithredol Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, eu bod yn cyflwyno'r argymhellion a wnaed gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon.

Mae cadeirydd y bwrdd iechyd, Mark Polin bellach yn adrodd i'r Gweinidog Iechyd bob mis am sut y mae'r gwasanaethau'n datblygu, yn sgil y "rhybudd terfynol" fis diwethaf.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ry'n ni'n bryderus iawn am y digwyddiadau diweddar hyn ac mae'r Gweinidog Iechyd wedi bod yn glir fod angen i'r bwrdd iechyd fynd i'r afael â'r trafferthion gwasanaethau hyn yn syth.

"Mae'n galonogol bod cefnogaeth yn cael ei gynnig gan rwydwaith fasgwlar Lerpwl ac mae hyn yn dod mewn ymateb i argymhellion a wnaed gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon."

'Angen adfer hyder cleifion'

Mewn ymateb, mae llefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, wedi galw am "dryloywder llwyr" ynglŷn â'r digwyddiadau a beryglodd diogelwch cleifion.

"Wythnos arall, ac mae larwm arall wedi canu am wasanaethau fasgwlar yng ngogledd Cymru," meddai.

"Nawr ry'n ni'n cael gwybod bod 'dau ddigwyddiad diogelwch pryderus' wedi bod.

"Tra'n parchu cyfrinachedd hynny, ry'n ni angen tryloywder llwyr gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr am yr amgylchiadau."

Ychwanegodd bod angen i'r bwrdd wynebu "mesurau arbennig uchaf posib" er mwyn adfer hyder cleifion a safon gwasanaethau lleol.