Angen tystiolaeth 'glir iawn' cyn cwtogi cyfnod hunan-ynysu eto

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Eluned Morgan fod y llywodraeth yn dal i edrych ar effaith cwtogi o 10 i saith diwrnod

Byddai angen tystiolaeth wyddonol "glir iawn" ar Lywodraeth Cymru cyn lleihau'r cyfnod hunan-ynysu eto, meddai'r gweinidog iechyd.

Roedd Eluned Morgan yn ymateb i sylwadau gan Ysgrifennydd Addysg Llywodraeth y DU, Nadhim Zahawi, a ddywedodd y byddai mynd o saith diwrnod i bump yn "fwy defnyddiol".

Dywedodd Ms Morgan y "byddwn yn amharod i wneud hynny oni bai bod tystiolaeth glir iawn - tystiolaeth glinigol - y byddai'n ddiogel i wneud".

Ar 31 Rhagfyr, cafodd y cyfnod hunan-ynysu ar ôl i berson cael Covid-19 ei gwtogi o 10 i saith diwrnod yng Nghymru gan fod "pwysau aruthrol" ar wasanaethau.

"Mae angen i ni asesu'r gostyngiad o 10 diwrnod i saith diwrnod cyn i ni fynd ymhellach na hynny," meddai Ms Morgan ar raglen Sunday Supplement.

"Byddai'n wrthgynhyrchiol caniatáu i bobl fynd allan a oedd yn dal yn heintus, ac felly rwy'n credu y byddai'n rhaid i ni fod yn ofalus iawn cyn symud i'r pwynt hwnnw a byddem yn cymryd cyngor clinigol ar hynny."

Erbyn hyn, does dim rhaid i bobl sydd wedi cael canlyniad prawf llif unffordd positif archebu prawf PCR dilynol os nad oes ganddyn nhw symptomau Covid.

Mae'r newid wedi dod i rym, medd Llywodraeth Cymru, i leddfu'r galw am brofion PCR yn sgil dyfodiad yr amrywiolyn Omicron.

'Annhebygol' o lacio mesurau

Yn y cyfamser, mae'r gyfradd saith diwrnod fesul 100,000 o bobl wedi disgyn am y tro cyntaf ers dechrau mis Rhagfyr - o 2,330 i 2,214.

Ddydd Sul, cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod wyth o farwolaethau'n gysylltiedig â Covid-19 wedi'u cofnodi mewn 24 awr hyd at 09:00 ar 7 Ionawr.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford ddydd Gwener fod uchafbwynt achosion Omicron yn debygol o fod tua 10 i 14 diwrnod i ffwrdd.

Oherwydd hynny, ychwanegodd Ms Morgan fod y llywodraeth yn "annhebygol" o leddfu cyfyngiadau "yn ystod yr amser pan rydyn ni'n arwain at frig y don".

Ychwanegodd: "Rydyn ni'n gobeithio ein bod ni'n mynd i fynd trwy'r pythefnos nesaf, rhai o'r caletaf y mae'r GIG erioed wedi'u profi."

Ffynhonnell y llun, PA Media

Ond dywedodd James Evans o'r Ceidwadwyr Cymreig nad oedd Llywodraeth Cymru wedi gwneud digon i gyfiawnhau'r cyfyngiadau Covid presennol.

"Nid ydym yn credu bod unrhyw sail iddyn nhw nawr. Ac rwy'n credu y dylem fod yn alinio'n agosach â Lloegr," meddai ar Sunday Supplement.

Dywedodd fod y mesurau yn cael effaith ddifrifol ar fusnes, iechyd ac addysg.

"Mae gennych chi bobl sy'n dioddef mewn poen ar restr aros ac mae angen i ni symud i ffordd o fyw heb gyfyngiadau oherwydd os na wnawn ni, byddwn ni'n sownd mewn cloeon a chyfyngiadau am gyfnod amhenodol."