Â鶹ԼÅÄ

Bwrdd iechyd yn paratoi at 25% o staff yn absennol

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Dr Paul Mizen
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dr Paul Mizen bod y bwrdd yn "gofidio am 20%, 25%" o absenoldebau

Mae bwrdd iechyd yn paratoi at gael hyd at 25% o'i staff yn absennol o'r gwaith ar unwaith dros yr wythnosau nesaf.

Dywedodd ymgynghorydd gyda Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan bod achosion Omicron yn cynyddu'r pwysau ar wasanaethau.

Tua 9% ydy lefel absenoldeb ar hyn o bryd, meddai Dr Paul Mizen, a hynny am sawl rheswm, ond mae'r ffigwr yna wedi treblu dros y pythefnos diwethaf.

Daw wrth i'r bwrdd iechyd gyhoeddi bod gwasanaethau mamolaeth yn cael eu canoli mewn un ysbyty er mwyn ymdopi gyda diffyg staff.

Mae Dr Mizen yn ymgynghorydd meddygol a rheolwr gofal brys y bwrdd, a dywedodd bod y pwysau'n effeithio pob rhan o wasanaethau ar hyn o bryd.

"Mae'r pwysau'n anodd arnon ni i gael y staff ar draws y system i gyd", meddai.

"Staff meddygol a hefyd staff yn y gymuned. 'Da ni'n gweld bod pobl yn mynd bant ar y diwrnod ac mae'n rhaid i ni fynd yn ôl i ffeindio staff i gael pethau'n saff.

"'Da ni'n pryderu y gallai hyn fod yn waeth yn y pythefnos nesa'."

Disgrifiad o’r llun,

Mae gwasanaethau mamolaeth wedi eu canoli yn Ysbyty'r Faenor oherwydd diffyg staff

Mae pob rhan o'r bwrdd iechyd - o feddygon teulu i ysbytai - yn gweithredu ar "lefel goch" erbyn hyn.

Ddydd Iau cyhoeddodd rheolwyr bod staff gwasanaethau mamolaeth wedi symud o ysbytai Brenhinol Gwent a Nevill Hall i Ysbyty'r Faenor er mwyn ymdopi gyda'r niferoedd sy'n absennol.

Un posibilrwydd o ran y camau nesaf fyddai atal llawdriniaethau sydd wedi eu cynllunio, os nad yw'r sefyllfa'n newid, meddai Dr Mizen.

"Rhaid i ni fod yn barod i symud pobl o gwmpas a 'da ni yn paratoi i wneud hynny..." meddai.

Gwelyau yn llenwi

Ychwanegodd nad oedd y penderfyniad i atal llawdriniaethau wedi ei wneud eto, ond "'da ni yn disgwyl efallai bydd rhaid i ni wneud yn yr wythnosau nesaf".

"Efallai fydd rhaid i ni dynnu staff o wneud hynny i helpu."

Mae'r bwrdd iechyd hefyd yn dweud bod lot yn fwy o welyau na'r arfer yn llawn gyda chleifion ddylai fod yn barod i fynd adref.

O'r 1,500 o welyau sydd gyda nhw, dywedodd Mr Mizen y byddai rhwng 100 a 150 o gleifion wedi bod yna am dair wythnos a mwy fel arfer.

Ond ar y funud mae 500 o gleifion, gyda 250 o rheiny yn achosion o oedi wrth eu trosglwyddo i wasanaeth arall (delayed transfers of care).

Mae 250 arall yn gleifion sydd methu mynd adref achos does neb yn gallu gofalu amdanynt, neu oherwydd bod eu problemau iechyd wedi gwaethygu yn sylweddol yn ystod y pandemig.