Â鶹ԼÅÄ

'Penderfyniadau anodd' ar adfywio trefi arfordirol

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
gogledd cymruFfynhonnell y llun, Cyfeoth Naturiol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhannau mawr o arfordir gogledd Cymru wedi'u nodi yn y mapiau

Bydd angen gwneud penderfyniadau anodd ynglŷn â sut i adfywio trefi arfordirol sydd mewn perygl o lifogydd, meddai gweinidog Llywodraeth Cymru.

Mae mapiau llifogydd yn rhagweld y bydd ardaloedd ar hyd arfordir gogledd a de Cymru o dan ddŵr o fewn degawdau, yn ôl Dirprwy Weinidog Hinsawdd Lee Waters.

Dywedodd Mr Waters wrth raglen Sunday Supplement Radio Wales fod llunwyr polisi yn wynebu penderfyniadau anodd.

Roedd yn siarad ar ddiwrnod cyntaf uwch-gynhadledd COP26 ar newid hinsawdd yn Glasgow.

"Rydyn ni eisiau adfywio canol trefi. Mae cryn dipyn o'n canol trefi ar orlifdiroedd," meddai Mr Waters.

"Ydyn ni'n caniatáu datblygu yn y fan honno? Ar y naill law [mae hynny] yn delio â'r materion o'n blaenau o ddirywio canol trefi, ond ai dyna'r peth anghywir i'w wneud?

"Mae'r rhain yn ddewisiadau anodd iawn."

Tynnodd sylw at ragolygon gan fapiau llifogydd Adnoddau Cenedlaethol Cymru y byddai ardaloedd poblog ar hyd arfordir gogledd a de Cymru o dan ddŵr mewn 30 neu 40 mlynedd.