Â鶹ԼÅÄ

Trafodaethau â CPD Caer am 'dorri rheolau Covid' yn parhau

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Cefnogwr CaerFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd torfeydd o tua 2,000 yno i wylio'r gemau yn erbyn Telford a Fylde dros y Nadolig

Mae disgwyl i drafodaethau barhau rhwng Clwb ±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å Caer a Llywodraeth Cymru ddydd Llun yn dilyn cyhuddiadau fod y clwb wedi torri rheolau Covid.

Dros y Nadolig, fe wnaeth y clwb gynnal dwy gêm yn Bumpers Lane gyda chefnogwyr - a hynny er bod y cae a'r rhan fwyaf o'u stadiwm ar ochr Cymru'r ffin.

Yn ôl Llywodraeth Cymru mae hynny'n golygu fod yn rhaid i Gaer ddilyn eu rheolau Covid nhw, sydd ar hyn o bryd yn golygu braidd dim cefnogwyr mewn gemau.

Ond mae penaethiaid y clwb wedi dweud y bydd y clwb yn mynd i'r wal os yw cefnogwyr yn cael eu gwahardd o'r stadiwm.

Trafferth am yr eildro

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud fod y clwb yn gymwys am gymorth ariannol tra bod cyfyngiadau ar dorfeydd mewn lle, a hynny gan eu bod nhw'n "glwb sydd wedi ei leoli yng Nghymru".

Ond mae'r clwb wedi mynnu eu bod nhw ar ddeall nad oedd cymorth ariannol ar gael iddyn nhw, a hynny gan eu bod nhw'n glwb Saesnig sy'n chwarae mewn cynghrair Saesnig - ac felly'n disgwyl mai rheolau Lloegr oedd yn berthnasol iddyn nhw.

Mae'r clwb eisoes wedi cael eu rhybuddio gan Heddlu'r Gogledd a Chyngor Sir y Fflint am gynnal rhagor o gemau gyda thorf, a hynny tra bod y cyfyngiadau presennol mewn grym.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Er bod Caer yn glwb Seisnig mae eu cae chwarae yng Nghymru

Dros y penwythnos fe ddywedodd cadeirydd Caer, Andy Morris, fod anomali daearyddol lleoliad y stadiwm "wedi dod yn broblem go iawn" bellach.

Yn siarad ar Radio Wales fore Llun, dywedodd Mr Morris mai "eglurder llwyr" sydd ei angen ar y clwb erbyn hyn, a "synnwyr cyffredin".

"Rydyn ni eisiau cael ein trin yn deg, yn hanesyddol rydyn ni wedi cael cyngor nad ydyn ni'n gymwys am gefnogaeth Gymreig, ariannol neu fel arall," meddai.

"Mae hynny'n iawn, dwi'n cytuno gan ein bod ni wedi cofrestru yn Lloegr.

"Ond oherwydd bod rhan o'n safle ar ochr Cymru, rydyn ni i weld yn cael y gwaethaf o'r ddwy ochr."

'Cefnogaeth ariannol ar gael'

Ddydd Sul fe wnaeth Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart ychwanegu ei farn, gan alw am "synnwyr cyffredin" o ystyried mai o dan oruchwyliaeth Cyngor Sir Caer a Heddlu Caer y mae'r clwb yn disgyn.

Nid dyma'r tro cyntaf i'r clwb gael trafferthion gyda rheolau Covid chwaith - ym mis Hydref 2020, bu'n rhaid iddyn nhw ddod o hyd i doiledau dros dro ar gyfer digwyddiad sinema ger y cae, a hynny am fod toiledau'r clybiau wedi eu lleoli yng Nghymru, ble roedd cyfnod clo byr yn digwydd.

Mae'r clwb hefyd wedi dilyn rheolau Cymru yn y gorffennol, fel yn 2007 pan ddaeth y gwaharddiad ysmygu i rym rai misoedd cyn i'r ddeddf gael ei chyflwyno ar gyfer Lloegr.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y byddai trafodaethau gyda'r clwb yn parhau, ond fod angen y cyfyngiadau presennol ar dorfeydd er mwyn taclo lledaeniad Omicron.

"Mae stadiwm CPD Caer yng Nghymru ac felly mae gemau cartref y clwb yn disgyn dan gyfyngiadau coronafeirws Cymru," meddai.

"Mae cyllideb o £3m ar gael gennym ni i gefnogi clybiau proffesiynol a sefydliadau sydd wedi eu heffeithio gan gyfyngiadau ar gefnogwyr. Fel clwb sydd wedi ei leoli yng Nghymru, byddai CPD Caer yn gymwys am gefnogaeth."