Â鶹ԼÅÄ

Ymchwiliad wrth i filoedd fynd i gêm Caer yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Chester FC fansFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cefnogwyr Caer yn dathlu ond a oedd hawl ganddynt fod yn y stadiwm?

Mae ymchwiliad ar y gweill i ganfod a wnaeth tîm pêl-droed Caer dorri rheolau Covid gan bod eu maes chwarae yng Nghymru.

Mae rheolau Cymru yn gorchymyn bod y rhan fwyaf o gemau yn cael eu chwarae y tu ôl i ddrysau caeedig.

Ond ers i'r rheolau diweddaraf ddod i rym ar 26 Rhagfyr mae tîm Caer wedi cynnal dwy gêm sydd wedi denu dros 2,000 o gefnogwyr yr un.

Dywed Llywodraeth Cymru bod y clwb yng Nghymru a bod hi'n ofynnol iddo ddilyn rheolau Cymru.

Dywed llefarydd ar ran y clwb bod eu cyfarwyddwyr ar hyn o bryd yn cyfarfod â swyddogion er mwyn trafod y rheoliadau a'u heffaith ar y clwb.

"Mae stadiwm Clwb ±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å Caer yng Nghymru ac felly mae rheoliadau Cymru yn gymwys iddyn nhw," medd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

"Mae Cyngor Sir y Fflint a Heddlu Gogledd Cymru yn delio â'r mater gan mai nhw yw'r awdurdodau gorfodi."

Mae Stadiwm Deva Caer yn Sir y Fflint gyda'r ffin rhwng Cymru a Lloegr yn croesi'r maes parcio i'r dwyrain o'r stadiwm.

Ers i Gymru symud i lefel rhybudd dau ar 26 Rhagfyr mae holl chwaraeon Cymru, i bob pwrpas, wedi cael eu cynnal y tu ôl i ddrysau caeedig.

Mae nifer y rhai sy'n gwylio wedi'u cyfyngu i 50.

Mae costau stiwardio a phlismona yn golygu nad yw hi'n ymarferol caniatáu i nifer fechan o gefnogwyr fynd drwy'r gatiau.

Ond does dim cyfyngiadau ar dorfeydd mewn gemau yn Lloegr.

Yn ôl adroddiadau roedd y nifer a oedd yn bresennol yn ystod gêm Caer yn erbyn AFC Fylde ar 28 Rhagfyr yn 2,075 ac yn erbyn Telford ar 2 Ionawr yn 2,116.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Er bod Caer yn glwb Seisnig mae eu cae chwarae yng Nghymru

Mae CPD Caer wedi cyhoeddi datganiad yn ymateb i'r sefyllfa, gan ddweud: "Y bore ma fe gafodd CPD Caer ein gwahodd i gyfarfod gyda chynrychiolwyr o Heddlu Gogledd Cymru, Cyngor Sir y Fflint, Heddlu Sir Gaer a Chyngor Caer a GorllewinSir Gaer.

"Fe gawson lythyr sy'n amlinellu toriadau posib o reolau coronafeirws Cymru yn ein gemau ar 28 Rhagfyr a 2 Ionawr... mae hefyd yn dweud y byddai'r clwb o bosib yn torri'r rheolau eto os fydd yn parhau i chwarae gemau o flaen torf tra bod mesurau Cymru mewn lle.

"Cytunwyd y byddai pawb yn cael cyngor cyfreithiol pellach oherwydd natur cymhleth y mater a goblygiadau unrhyw ddatblygiad. Byddwn yn diweddaru ein cefnogwyr cyn gynted ag y medrwn."

Mae gêm nesaf y clwb yn erbyn Brackley Town ar 15 Ionawr.