'Angen trydydd brechlyn i osgoi rhagor o gyfnodau clo'

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Bydd modd osgoi rhagor o gyfnodau clo os yw'r rhaglen frechu'n llwyddiannus, meddai Dr Bailey

Mae meddyg blaenllaw wedi dweud ei fod yn gobeithio y bydd cynllun brechu Cymru yn golygu na fydd angen dychwelyd i gyfnodau clo.

Dywedodd cadeirydd Cymdeithas Feddygol Prydain (BMA) yng Nghymru, Dr David Bailey fod "nifer sylweddol" o bobl eisoes wedi cael hwb frechlyn.

Yn gynharach yn y mis, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford ei fod eisiau cynnig hyblyn Covid i bob oedolyn erbyn diwedd y flwyddyn.

Mae dros filiwn a hanner o bobl yng Nghymru bellach wedi cael eu trydydd brechiad.

Mwy o frechiadau 'yn bosib'

"Fe wnaethon ni roi ymdrech fawr [i gael pobl i gymryd y brechlyn] cwpl o wythnosau cyn y Nadolig, felly byddech chi'n disgwyl gweld effaith hynny'n taro poblogaeth Cymru o ran lleihau trosglwyddiad Omicron yn gynnar yn y flwyddyn newydd," meddai Dr Bailey.

Mae bron i 2.5 miliwn o bobl yng Nghymru wedi cael o leiaf un brechiad, ac mae Dr Bailey yn gobeithio felly na fydd angen dychwelyd i'r math o gyfyngiadau a welwyd dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Wrth siarad ar Â鶹ԼÅÄ Radio Wales Breakfast, dywedodd Dr Giri Shankar o Iechyd Cyhoeddus Cymru fod tua 87% o bobl mewn cartrefi gofal bellach wedi cymryd hwb frechlyn.

"Mae gennym ni dal dipyn o ffordd i fynd yn yr oedrannau iau," meddai. "Tua 50% sydd wedi ei gymryd yn y grŵp 40-49.

"Mae'n tua 30% yn y bobl 30-39 oed, a gyda'n gweithwyr iechyd mae'n 82%, felly mae angen i ni wneud yn well gyda'r oedrannau ieuengach a gweithwyr iechyd fel bod mwy o'r boblogaeth wedi eu gwarchod."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Ar hyn o bryd mae pobl Cymru'n cael eu hannog i weithio o adref ble gallan nhw

Ar 26 Rhagfyr cafodd rheolau newydd eu cyflwyno yng Nghymru, gan cynnwys cyfyngiadau ar niferoedd sy'n cael cwrdd, ac ailgyflwyno mesurau fel ymbellhau cymdeithasol.

Dyw pobl ddim yn cael cwrdd mewn grwpiau o fwy na chwech bellach mewn tafarndai, sinemâu a bwytai.

Dyw digwyddiadau awyr agored ddim yn cael cynnwys mwy na 50 o bobl, tra bod terfyn o 30 ar ddigwyddiadau dan do.

"Dwi'n gobeithio, gydag amddiffyniad y tri brechiad mae llawer o bobl wedi ei gael - yn enwedig erbyn dechrau'r flwyddyn nesaf - na fydd angen gwneud y pethau rhagofalus sydd rhaid ar hyn o bryd o ran cyfyngiadau fel ymbellhau cymdeithasol a masgiau," meddai Dr Bailey.

Yn gynharach yr wythnos hon, fe wnaeth panel o arbenigwyr llywodraeth yn Israel argymell pedwerydd dos o frechlyn Covid i bawb dros 60 oed, a gweithwyr iechyd.

Ychwanegodd Dr Bailey ei bod hi'n "bosib iawn" y bydd angen rhagor o frechiadau ar Gymru yn nes ymlaen y flwyddyn nesaf.

"Rydyn ni wedi gweld o brofiad brechiadau ffliw dros y 20, 30, 40 mlynedd diwethaf fod angen hyblyn bob blwyddyn am rywbeth sy'n cario risg llawer is," meddai.

"Ond mae [Covid] yn amrywio o hyd fel mae firysau yn gwneud, felly mae'n debygol iawn y byddwn ni'n cynnig rhagor o hwb frechiadau yr hydref nesaf."