Â鶹ԼÅÄ

Ailddechrau'r rhaglen frechu wedi bwlch o ddeuddydd

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Canolfan frechuFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r rhaglen frechu coronafeirws wedi ailddechrau yng Nghymru yn dilyn oedi am ddeuddydd dros y Nadolig a Gŵyl San Steffan.

Yn ôl y ffigyrau diweddaraf a ddaeth i law, mae 1,490,669 o bobl wedi cael brechlyn atgyfnerthu yng Nghymru, sy'n cyfateb i 47% o'r boblogaeth.

Mae Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan wedi cyhoeddi eu bod yn cynnig brechiadau heb apwyntiad yn eu canolfannau brechu tan 14:00 ddydd Llun oherwydd i nifer uchel o bobl sydd ddim wedi mynd am eu hapwyntiadau.

Yn ogystal mae Bwrdd Iechyd Cwm Taf yn cynnig brechiadau heb apwyntiad yn eu canolfannau brechu cymunedol tan ddiwedd Rhagfyr, gan gynnwys dosau cyntaf ac ail a brechiad atgyfnerthu o bobl dros 16 oed sydd heb fedru mynychu eu hapwyntiadau, ond y dylai pobl sydd ag apwyntiad cyn y flwyddyn newydd lynnu at hynny.

Mae rhai canolfannau brechu yn ardal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi bod yn cyhoeddi sesiynau brechu heb apwyntiad yn ystod dydd Llun, a hynny ar y cyfryngau cymdeithasol neu ar-lein.

Roedd y Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn feirniadu o'r oedi yn y rhaglen frechu, gan nodi bod sesiynau wedi parhau yn Lloegr dros y penwythnos.