Â鶹ԼÅÄ

'Diolch i'r rhai sy'n gweithio dros yr Å´yl'

  • Cyhoeddwyd
Mark DrakefordFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru

Yn ei neges Nadolig mae'r Prif Weinidog yn diolch i'r rhai sy'n gweithio dros yr Å´yl i gadw pawb yn ddiogel rhag y pandemig.

Ar ddechrau ei neges dywed ei fod yn gobeithio y bydd pawb yn cael Nadolig diogel, heddychlon a hapus ymhlith ffrindiau a theulu "ond mae cysgod y pandemig yma o hyd," meddai, "ac unwaith eto byddwn yn tynnu gyda'n gilydd i ddod drwy'r cyfnod anodd hwn, i roi help llaw i deulu, ffrindiau a chymdogion ac i edrych ymlaen at y dyfodol gyda gobaith ac optimistiaeth".

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Mark Drakeford

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Mark Drakeford

Dywedodd Mark Drakeford hefyd fod "ymroddiad a gwasanaeth y fyddin frechu werth y byd i ni".

"Y Nadolig hwn bydd llawer o bobl yn gweithio ddydd a nos i'n cadw yn ddiogel - gwirfoddolwyr yn y gymuned, staff y Gwasanaeth Iechyd a'r gwasanaethau brys ac wrth gwrs yr holl bobl sydd wedi aberthu eu Nadolig i weithio yn y canolfannau brechu ledled y wlad i'n hamddiffyn rhag y feirws ofnadwy hwn.

"Mae ymroddiad a gwasanaeth y fyddin frechu yn werth y byd i ni. Rwyf am i chi gyd gael gorffwys, hedd a llawenydd dros yr Å´yl," ychwanegodd.

Daw ei neges ddeuddydd cyn y bydd Cymru yn symud i rybudd lefel dau.

Ar ddydd San Steffan bydd cyfyngiadau newydd yn dod i rym i atal lledaeniad Covid-19.