Ysgolion mewn pum sir i ddysgu ar-lein cyn y Nadolig

Disgrifiad o'r llun, Mae Cyngor Môn wedi cynghori ysgolion i ddarparu addysg ar-lein rhwng 20 a 22 Rhagfyr

Mae cynghorau Ynys Môn, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Wrecsam a Cheredigion wedi cyhoeddi y bydd holl ysgolion y siroedd yn darparu addysg ar-lein i'r mwyafrif o ddisgyblion ar gyfer tridiau ola'r tymor.

Ond mae Cyngor Gwynedd wedi dweud y bydd ysgolion y sir - oedd â'r raddfa heintio uchaf yng Nghymru yr wythnos ddiwethaf - yn parhau ar agor wythnos nesaf wrth i'r gyfradd heintio ostwng.

Fore Llun dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Ynys Môn eu bod wedi dod i'r penderfyniad am fod lefelau Covid-19 yn "cynyddu'n sylweddol yn y sir".

Maen nhw wedi cynghori ysgolion i ddarparu addysg ar-lein o ddydd Llun, 20 Rhagfyr, nes diwedd y tymor ar ddydd Mercher, 22 Rhagfyr.

"Ni fydd newid i ddyddiad diwedd y tymor (Rhagfyr 22ain) a bydd ysgolion yn parhau i weithredu, er yn wahanol, yn ystod y cyfnod yma," meddai'r cyngor.

Ychwanegwyd y bydd "plant gweithwyr allweddol, plant bregus a phlant lle nad oes modd i'w rhieni weithio o adref yn cael parhau i fynd i'r ysgol am dri diwrnod olaf y tymor lle bo angen; ac os nad oes modd gwneud trefniadau eraill".

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Yn ddiweddarach fe ddaeth Cynghorau Sir Ddinbych, Wrecsam a Sir y Fflint i'r un penderfyniad.

Ond dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Gallwn gadarnhau y bydd ysgolion Gwynedd yn parhau ar agor tan 22 Rhagfyr yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.

"Bydd Grŵp Gwyliadwriaeth ac Ymateb Aml-Asiantaeth Gwynedd - sydd yn cynnwys cynrychiolwyr o Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr - yn parhau i fonitro'r sefyllfa'n agos ac yn ymateb yn briodol i'r holl ddata wyddonol sydd ar gael.

"Ar hyn o bryd, mae'r data yma'n dangos fod cyfraddau heintio yng Ngwynedd wedi gostwng yn sylweddol dros yr wythnos ddiwethaf.

"Serch hyn, os yw'r sefyllfa yn newid, mae trefniadau mewn lle i symud i ddysgu cyfunol os yw ysgol unigol yn cyrraedd hiciau penodol o ran niferoedd achosion a/neu lefelau staffio."

Yn hwyr nos Fawrth, cyhoeddodd Cyngor Ceredigion y byddai ysgolion yna hefyd yn symud at ddysgu ar-lein o 20 Rhagfyr.

Dywedodd llefarydd bod y newid "er mwyn amddiffyn ein gwasanaethau rheng-flaen gymaint â phosibl".

Cyfraddau uchaf Cymru ym Môn

Ynys Môn sydd â'r cyfraddau Covid uchaf yng Nghymru ar hyn o bryd.

Yn y ffigyrau diweddaraf ddydd Llun roedd gan y sir gyfradd o 796.7 achos ar gyfer pob 100,000 o bobl dros y saith diwrnod diwethaf, o'i gymharu â chyfartaledd o 500.1 drwy Gymru gyfan.

Dywedodd Cyngor Môn fod "anhawster i gynnal lefelau staffio digonol" oherwydd coronafeirws hefyd wedi bod yn ystyriaeth allweddol.

Ychwanegodd y bydd modd i benaethiaid wahodd grwpiau o ddisgyblion i fynychu'r ysgol ar gyfer gwersi wyneb i wyneb "lle bo angen", fel ar gyfer rhai sy'n paratoi ar gyfer asesiadau.

Mae galwadau wedi'u gwneud eisoes i gau pob ysgol yng Nghymru o leiaf wythnos cyn y Nadolig er mwyn lleihau'r risg fod plant yn heintio perthnasau dros y gwyliau.

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd y Cynghorydd Llinos Medi fod mwyafrif achosion Covid y sir "ymysg plant a phobl ifanc"

Dywedodd arweinydd y cyngor, y Cynghorydd Llinos Medi: "Rydw i wedi dweud bob amser y bydd yr awdurdod hwn yn gwneud beth sydd angen i ddiogelu ein cymunedau.

"Mae nifer yr achosion o coronafeirws wedi cynyddu'n sylweddol ar yr ynys yn ystod Hydref, Tachwedd a Rhagfyr - gyda mwyafrif yr achosion ymysg plant a phobl ifanc.

"Bydd addysg disgyblion yn parhau, ond fe all newid i ddysgu cyfunol am ddyddiau diwethaf y tymor brofi'n allweddol er mwyn torri'r lefelau uchel o drosglwyddiad yr ydym wedi gweld yn ddiweddar rhag parhau i gyfnod y Nadolig a thu hwnt.

"Ynghyd ȃ phryderon am yr amrywiolyn Omicron sydd yn ymddangos, mae nifer o rieni a staff yn poeni'n arw ac ar ôl blwyddyn anodd arall mae'n rhaid i ni ystyried llesiant pobl."

Disgrifiad o'r llun, "Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i amddiffyn disgyblion a staff ysgolion," medd Huw Hilditch-Roberts

Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, aelod cabinet Cyngor Sir Ddinbych dros addysg: "Rydyn ni wedi bod yn gweithio'n agos gyda'n hysgolion ac wedi gwneud y penderfyniad anodd hwn rŵan i roi cymaint o rybudd â phosib i rieni o ddiwedd dysgu wyneb yn wyneb ddydd Gwener.

"Wrth i'r amrywiolyn Omicron ddod i'r amlwg, cynnydd yn nifer yr achosion ledled y DU a'r newid yn lefel y rhybudd, rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i amddiffyn disgyblion a staff ysgolion.

"Bydd dysgu ar-lein yn parhau ddydd Llun a dydd Mawrth (20 a 21 Rhagfyr) hyd at ddiwedd y tymor."