Â鶹ԼÅÄ

'Ni'n cael help ond dyw sawl teulu â phlant anabl ddim'

  • Cyhoeddwyd
Bedwyr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Nerys Davies, mam Bedwyr, yn canmol y gofal y mae hi'n ei gael ond mae'n dweud nad yw hynny'n wir i bawb

Mae rhieni a theuluoedd sy'n gofalu am blant anabl yn aml yn gorfod brwydro am y gefnogaeth gywir, gyda hynny yn gallu dibynnu ar le yng Nghymru maen nhw'n byw.

Dyna rai o gasgliadau adroddiad newydd, sydd hefyd yn dweud nad ydy dau o bob tri o'r rhai gafodd eu holi wedi cael cynnig asesiad o'u hanghenion nhw fel gofalwyr.

Yn yr adroddiad, gafodd ei lunio ar y cyd gan Arolygiaeth Gofal Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, mae yna gyfeirio hefyd at restrau aros hir am rai gwasanaethau.

Ers Tachwedd 2019 maen nhw wedi bod yn adolygu'r ddarpariaeth yn y maes, ond oherwydd y pandemig bu'n rhaid oedi am gyfnod cyn cwblhau'r gwaith.

'Gwendid mewn rhai meysydd'

Tra'n cydnabod "her" y pandemig dros y 18 mis diwethaf, mae angen sicrhau nawr, medd Gillian Baranski, Prif Arolygydd Arolygiaeth Gofal Cymru, "fod lleisiau plant anabl yn cael eu clywed a bod y teuluoedd yn ganolog i'r broses o wneud penderfyniadau".

Dywedodd Cymdeithas Lywodraeth Leol Cymru y bydd y cynghorau sir yn ystyried y casgliadau i geisio cyflwyno gwelliannau.

"Mae yna waith da yn cael ei wneud ar draws Cymru gan weithwyr ymroddedig, ond mae'r sefyllfa yn gymysg," meddai Ms Baranski.

"Mae yna wendidau mewn meysydd allweddol. Mae plant anabl angen mynediad i'r gefnogaeth gywir ar yr adeg cywir.

"Dylai hyn ddim dibynnu ar deuluoedd yn gorfod pwyso a phwyso am gefnogaeth. Dylai datblygiad plant anabl ddim gorfod dibynnu ychwaith ar le mae'n nhw'n byw."

Mae Nerys Davies o Lanrwst yn fam i Bedwyr, bachgen chwech oed sy'n byw efo Syndrom Coffin-Siris.

Er ei anableddau dwys mae'n o'n "mwynhau bywyd" yn ôl ei fam. Mae'n mynd i Ysgol y Gogarth yn Llandudno a hefyd yn treulio amser yn Hosbis Tŷ Gobaith.

Mae Nerys Davies yn llawn canmoliaeth o'r gofal y maen nhw'n ei gael, ond mae hi'n gwybod hefyd nad ydy hynny'n wir am bawb sydd yn yr un sefyllfa.

"Rydan ni'n hynod o lwcus, ond mae yna lawer o deuluoedd allan yna sy'n gorfod brwydro. Mae'n nhw'n cwffio yn arw iawn am bopeth, i gael y gefnogaeth mae'n nhw'n haeddu.

"Mae'n gallu dod lawr i le mae'r teuluoedd yn byw, a pha gymorth sydd ar gael yno gan y gwasanaethau cymdeithasol a'r sector gwirfoddol.

"Hefyd, mae'n gallu dibynnu ar ba mor frwdfrydig ydi'r awdurdodau lleol i hybu hawliau gofalwyr. Mae'n aml yn loteri cod-post."

Disgrifiad o’r llun,

"Dydy nifer ddim yn gwybod eu bod yn gallu cael asesiad fel gofalwyr," medd Nerys Davies

Yn ôl Nerys Davies "mae yna ddiffyg ymwybyddiaeth o'r hawl i gael asesiad fel gofalwyr di-dâl".

Mae'r adroddiad yn ategu hynny. O'r 289 o rieni a gofalwyr gafodd eu holi, dwedodd 190 (65.7%) nad ydyn nhw wedi cael cynnig yr asesiad, sy'n hawl cyfreithiol.

"Mae hyn yn effeithio ar yr ysbaid mae rhieni yn medru ei gael, oherwydd fod hyn yn ddibynnol ar yr asesiad," meddai.

"Rydan ni fel rhieni yn gorfod ymdopi efo cymaint adref - llawer ohonan ni yn rhoi gofal nyrsio i'r plant hefyd.

"Mae'r elfen o orfod brwydro am ofal, am ysbaid, am gefnogaeth yn mynd yn ormod weithiau. Mae yna rai sydd ddim yn brwydro, oherwydd fod y cyfan yn ormod."

Wrth groesawu'r adroddiad dwedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru y byddan nhw "cymryd eu hamser i ystyried y casgliadau yn llawn".

"Mae yna enghreifftiau da yma o ymdrechion staff i ddatblygu perthynas broffesiynol efo plant anabl a'u teuluoedd," meddai.

Ond mae'n nhw'n cydnabod hefyd fod yna "negeseuon anodd" yn yr adroddiad. Fe fydd angen edrych "o ddifrif" ar y rhain, medden nhw, i weld lle mae angen "gwneud gwelliannau".

Yn ôl Llywodraeth Cymru mae nhw wedi darparu £10m o arian ychwanegol yn 2021-22 i gefnogi gofalwyr di-dâl o bob oedran.

Mae hyn yn cynnwys £3m sydd wedi'i ddynodi i'r awdurdodau lleol yn benodol i gynyddu'r cyfleon sydd ar gael i gynnig cyfnodau o seibiant i ofalwyr.

Pynciau cysylltiedig