Â鶹ԼÅÄ

Cyngor i ailagor gwasanaeth i bobl ag anableddau

  • Cyhoeddwyd
Cynnyrch Coed Meifod
Disgrifiad o’r llun,

Roedd dyfodol Cynnyrch Coed Meifod yn ansicr

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cytuno i ailagor gwasanaeth ar gyfer pobl ag anableddau oedd â'i ddyfodol yn y fantol.

Bydd Cynnyrch Coed Meifod, safle sy'n rhoi cyfle i bobl ag anableddau wneud gwaith coed, yn cael ei ailagor y flwyddyn nesaf.

"Rydym yn obeithiol iawn am ddyfodol Meifod," meddai un cynghorydd wrth gyhoeddi'r cynlluniau newydd ar gyfer y safle sydd ar gau ers dechrau'r pandemig.

Ond mae rhai'n pryderu y bydd cynlluniau i ddod â gweithgareddau eraill i Gynnyrch Coed Meifod yn ei "ddifetha".

Ddydd Mawrth fe wnaeth cabinet y cyngor sir gefnogi argymhelliad i'w ailagor gan ystyried "ffyrdd newydd o weithio" a "dulliau darparu gwasanaeth amgen".

Roedd Dewi Jones, sy'n 25 oed ac o Ruthun, yn un o selogion Meifod cyn i'r safle gau 18 mis yn ôl.

Mae ei fam, Brenda Jones, yn croesawu ailagor y ganolfan, sydd "fel nefoedd" i Dewi.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dewi Jones, 25, wrth ei waith ym Meifod

"Dwi wedi dweud yn barod - y diwrnod cynta' fydd Dewi'n mynd yn ôl i Meifod, fi fydd y tacsi - achos dwi isio gweld ei wyneb o," meddai.

"Dwi jyst isio gweld ei wyneb o'n cyrraedd yno a sylweddoli ei fod o'n cael mynd yn ôl i Meifod."

Ond gall cynlluniau i gyflwyno gweithgareddau eraill "ddifetha" y gwaith a'r "gofal anhygoel" sy'n cael ei ddarparu yno, yn ôl Brenda.

'Gweithio'n wych fel oedd o'

"Y prif beth ydy bod sgiliau gwerthfawr yn cael eu dysgu yn Meifod, ac i ddweud y gwir 'sa'n bosib gwneud lot mwy am y peth," meddai.

"'Dan ni ddim isio iddyn gael eu colli drwy gyflwyno gormod o bethau fedran nhw'u gwneud mewn llefydd eraill, ac sydd yn cael eu gwneud mewn llefydd eraill yn barod.

"Mi oedd Meifod yn gweithio'n wych fel oedd o. Oni bai am Covid, mi fuasai Meifod yn dal i weithio'n wych."

Disgrifiad o’r llun,

Brenda a Dewi Jones, sy'n edrych ymlaen at ailagor y safle

Bu proses ymgysylltu ynghylch Meifod yn ystod y misoedd diwethaf, gyda sawl opsiwn am ddyfodol y safle ar y bwrdd.

Cododd adroddiad i'r cyngor bryderon am y gost o redeg y gwasanaeth, prisiau pren a gwres, yn ogystal â chwymp yn nifer y defnyddwyr.

Ond mae rhai cynghorwyr a theuluoedd wedi cwestiynu a oes 'na leihad yn y galw mewn gwirionedd.

Mae penderfyniad y cabinet ddydd Mawrth yn golygu y dylai Meifod ailagor ym mis Chwefror 2022, pan fydd gwelliannau i'r adeilad wedi eu cwblhau.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd mam Mr Jones ei fod yn ei "nefoedd" ym Meifod

O ran y dyfodol, mae disgwyl i swyddogion y cyngor amlinellu "ffyrdd newydd o weithio… i wella ddysgu a sgiliau ar draws ystod o weithgareddau" ac ystyried "dulliau darparu gwasanaeth amgen… gyda'r bwriad o wella cynaliadwyedd hirdymor y gwasanaeth."

Yn y cyfamser, bydd pwyllgor rhanddeiliad yn cael ei sefydlu, gyda'r defnyddwyr a'u teuluoedd yn cael cynrychiolaeth arno.

Dywedodd y Cynghorydd Bobby Feeley: "Rydym yn falch iawn o allu cadarnhau ailagor Meifod cyn gynted ag y bydd gwaith cynnal a chadw hanfodol yn cael ei gwblhau gan ein bod yn gwybod cymaint y mae'r gymuned yn gwerthfawrogi'r gwasanaeth pwysig hwn yn fawr.

"Rydym yn obeithiol iawn am ddyfodol Meifod a byddwn yn gweithio'n agos gyda'r rhai sy'n gweithio yn y gwasanaeth i ddarparu menter economaidd gynaliadwy i'r gymuned."

Pynciau cysylltiedig