Â鶹ԼÅÄ

Covid: Cwymp teithwyr Caerdydd yn fwy nag unrhyw le yn y DU

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Maes Awyr Caerdydd

Roedd yna fwy o ostyngiad yn nifer y teithwyr ym Maes Awyr Caerdydd yn ystod 2020-21 na'r un maes awyr arall yn y DU, yn ôl prif weithredwr y safle.

Y rheswm am hynny, meddai Spencer Birns, yw bod Llywodraeth Cymru wedi annog pobl i beidio teithio dramor.

Wrth roi tystiolaeth gerbron un o bwyllgorau'r Senedd, dywedodd Mr Birns bod prif bwyslais gweinidogion y llywodraeth wedi bod ar iechyd ac ychwanegodd bod hynny yn "gwbl ddealladwy".

Clywodd y pwyllgor bod nifer y teithwyr ym Maes Awyr Caerdydd wedi gostwng o 1.6 miliwn cyn y pandemig i 48,000 yn ystod 2020-21.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd nifer y teithwyr ym maes awyr Caerdydd yn fwy yn y 1960au nag yn ystod y pandemig

Yn 2013 cafodd Maes Awyr Caerdydd ei brynu am £52m gan Lywodraeth Cymru ond ym mis Mawrth eleni nodwyd y gallai ei werth fod cyn ised â £15m yn sgil y pandemig.

Wrth gael ei holi gan Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus am y gostyngiad dywedodd Mr Birns bod "Llywodraeth Cymru wedi canolbwyntio ar iechyd pobl ac felly bod annog pobl i beidio teithio tramor wedi bod yn ffactor bwysig rhag lledaeniad yr haint".

"Mae darlun tebyg i'w weld ar y rheilffyrdd," ychwanegodd, "lle mae adferiad Cymru wedi bod yn arafach na Lloegr."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd cyfarpar PPE i'r GIG o China a Cambodia ei fewnforio drwy'r maes awyr

"Mae gostyngiad teithwyr o 98% yn golygu mai dyma'r nifer isaf sydd wedi bod yn y maes awyr ers y 1950au," meddai Mr Birns, gan ychwanegu y gallai gymryd pum mlynedd a mwy i Faes Awyr Caerdydd a gweddill y diwydiant oresgyn effeithiau'r pandemig.

Ond dywedodd bod gan y maes awyr gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y gwanwyn a'u bod yn gobeithio denu bron i filiwn o deithwyr.

"Yr her fwyaf yw gwybod a fyddwn wedi pasio'r pandemig erbyn hynny neu beidio, a 'dan ni ddim yn gwybod a fydd pobl yn cael eu hannog i deithio ai peidio," meddai.