Â鶹ԼÅÄ

Maes Awyr Caerdydd werth £15m yn unig yn sgil Covid

  • Cyhoeddwyd
Maes Awyr Caerdydd

Mae'n bosib mai dim ond £15m yw gwerth Maes Awyr Caerdydd erbyn hyn, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Clywodd pwyllgor o ASau mai dyna yw'r "amcangyfrif gwaethaf posib" o ganlyniad i'r pandemig.

Talodd Llywodraeth Cymru £52m am y maes awyr yn 2013, ac ers hynny mae wedi rhoi miliynau o bunnoedd yn fwy i geisio helpu'r busnes.

Yr wythnos diwethaf cyhoeddwyd y byddai £42.6m o ddyled yn cael ei ddileu, ac y byddai grant o £42.6m o arian cyhoeddus hefyd yn cael ei roi i'r maes awyr.

Cafodd yr ecwiti sydd gan y trethdalwr yn y maes awyr ei ostwng £43m hefyd, er mwyn adlewyrchu'r gostyngiad yn ei werth ers dechrau'r pandemig.

Mae'r maes awyr wedi colli dros £40m ers cael ei brynu gan y llywodraeth, yn cynnwys mwy na £19m hyd at fis Mawrth 2019.

Daeth yr amcangyfrif i'r amlwg yn ystod cyfarfod o bwyllgor Economi, Sgiliau ac Isadeiledd y Senedd ddydd Mercher, mewn ymateb i gwestiynau gan y Ceidwadwr, Darren Millar AS.

Dywedodd Mr Millar, AS Gorllewin Clwyd, bod y llywodraeth wedi addo y byddai'r maes awyr yn fuddsoddiad da.

"Ond saith mlynedd a channoedd o filiynau o arian trethdalwyr yn ddiweddarach, ac nid yw'r maes awyr werth ond mymryn o'r pris a dalwyd amdano yn wreiddiol," meddai.

"Ni all gweinidogion guddio tu ôl i gyfrinachedd masnachol pan mae'n dod i gefnogaeth trethdalwyr ar ffurf grant o £42.6m a dyled o £42.6m yn cael ei ddileu."

Dywedodd y dirprwy weinidog dros drafnidiaeth, Lee Waters, bod y sector wedi wynebu "heriau enfawr yn ystod y pandemig" wrth i deithwyr aros adref.