Anghydfod â'r llywodraeth dros godi tâl nyrsys 3%

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae undeb nyrsys wedi cofnodi anghydfod ffurfiol gyda Llywodraeth Cymru dros gynnig i roi codiad 3% i weithwyr y GIG.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd yn yr haf bod y codiad yn gydnabyddiaeth o "ymdrechion eithriadol staff gweithgar y GIG".

Ond yn ôl cyfarwyddwr y Coleg Nyrsio Brenhinol (RCN) yng Nghymru, mae nyrsys bellach yn teimlo eu bod yn cael eu "tanbrisio".

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod wedi dilyn argymhellion Corff Adolygu Tâl y GIG a Chorff Adolygu'r Deintyddion.

'Hollol annerbyniol'

Yn ôl cyfarwyddwr RCN Cymru, Helen Whyley byddai anghydfod diwydiannol ffurfiol yn rhybuddio'r llywodraeth y byddai undebau'n cymryd camau cyntaf gweithredu diwydiannol oni bai bod trafodaethau'n dechrau ynghylch y codiad cyflog.

"Am y 18 mis diwethaf, mae staff nyrsio wedi mynd y tu hwnt i'r hyn y mae disgwyl iddyn nhw wneud wrth ymateb i'r pandemig Covid-19, ond nawr maen nhw'n teimlo wedi eu tanbrisio, yn ddigymorth ac yn grac," meddai.

Dywedodd bod 94% o aelodau'r undeb a roddodd eu barn mewn pleidlais ymgynghorol diweddar o'r farn bod codiad o 3% yn "hollol annerbyniol".

Does dim o'r cyllid newydd a gafodd ei gyhoeddi ar gyfer y GIG, meddai, wedi ei glustnodi ar gyfer cyflogau nyrsys.

"Mae cleifion yn aros am driniaeth a gofal ac mae angen staff nyrsio i ddarparu hynny."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Galwodd Ms Whyley hefyd ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â "mwy na 1,700 o swyddi gwag ar gyfer nyrsys cofrestredig" o fewn GIG Cymru.

Dywedodd cadeirydd bwrdd RCN Cymru, Richard Jones: "Nid ydym eisiau cymryd camau tuag ar weithredu diwydiannol, ond mae dicter a rhwystredigaeth ein haelodau yn glir."

'Parhau'n ymroddgar'

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod y codiad o 3% yng nghyflogau staff y GIG yn argymhelliad "ar sail tystiolaeth a gyflwynwyd gan bawb oedd ynghlwm, gan gynnwys undebau llafur".

"Rydym yn gobeithio bod gweithwyr GIG yn deall gymaint yr ydym yn gwerthfawrogi eu gwaith a phopeth maen nhw wedi ei wneud."

Dywedodd fod y llywodraeth wedi cael "nifer o gyfarfodydd adeiladol" i drafod sut mae "gwella'r codiad cyflog ar gyfer GIG Cymru".

"Tra'i fod yn siomedig bod yr RCN yn teimlo nad oedd modd cymryd rhan yn y trafodaethau hyn, rydym yn parhau'n ymroddgar i gynnig pecyn o welliannau o fewn y cyllid sydd ar gael.

"Tra ein bod eisiau buddsoddi yn ein gweithlu mae hefyd angen buddsoddi mewn darparu gwasanaethau GIG hanfodol."

Ychwanegodd eu bod, ar ben y codiad cyflog, wedi rhoi taliad ychwanegol o £735 y person - sef £500 i'r mwyafrif, wedi treth ac yswiriant cenedlaethol.