Â鶹ԼÅÄ

Dim uchafswm ar gyfer codiadau cyflog y GIG

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Vaughan Gething
Disgrifiad o’r llun,

Y gweinidog iechyd Vaughan Gething

Ni fydd Llywodraeth Cymru yn dilyn Lloegr wrth argymell uchafswm o godiad cyflog o 1% i staff y GIG, meddai'r gweinidog iechyd Vaughan Gething.

Mae Llywodraeth y DU wedi cael ei beirniadu am ddweud y dylid gosod uchafswm o 1% ar godiadau cyflog y GIG yn Lloegr, gan ddadlau bod cyflogau mewn rhannau eraill o'r sector cyhoeddus wedi cael eu rhewi.

Mae'r ddwy lywodraeth wedi gwneud awgrymiadau i'r corff adolygu cyflogau annibynnol, sydd wedyn yn argymell pa godiadau cyflog - os o gwbl - ddylai ddigwydd.

Yn Lloegr, mae undeb y nyrsys wedi bygwth streicio ar ôl y cynnig o 1%.

'Haeddu codiad cyflog'

Dywedodd Mr Gething fod gweithwyr GIG Cymru yn "haeddu codiad cyflog", ond y byddai Llywodraeth Cymru yn derbyn argymhelliad y corff adolygu, ac na fyddai gweinidogion yn rhoi "nenfwd artiffisial" ar y dyfarniad cyflog ar gyfer 2021-22.

Roedd yn disgwyl gallu cyhoeddi'r dystiolaeth a roddwyd i'r corff adolygu, yn y dyfodol agos os nad heddiw, meddai.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywed yr undebau fod nyrsys a gweithwyr iechyd wedi ymlâdd ar ôl blwyddyn o bandemig

Mewn cyfarfod gyda Mr Gething ddydd Gwener, roedd Cymdeithas Feddygol y BMA wedi gwneud ei barn yn gwbl glir, nad oedd y cynnig yn Lloegr yn "ddim llai na sarhad ar broffesiwn a oedd wedi mynd tu hwnt i ddisgwyliadau arferol yn ystod y pandemig."

Dywedodd cadeirydd BMA Cymru, Dr David Bailey: "Rydym yn erfyn arno i sicrhau fod y codiad cyflog yn deg, o gofio bod meddygon wedi rhoi popeth yn ystod y flwyddyn diwethaf - mae eu haberth yn haeddu cael ei gydnabod."

Ffynhonnell y llun, Goleg Brenhinol y Nyrsys
Disgrifiad o’r llun,

Mae angen cydnabod cyfraniad nyrsys yn ystod y pandemig, meddai Nicky Hughes o Goleg Brenhinol y Nyrsys

Mae nyrsus yng Nghymru'n galw am godiad o 12.5%, ac yn mynnu bod gan Lywodraeth Cymru gyfle i ychwanegu at unrhyw gynnydd a argymhellir gan y corff adolygu.

Dywedodd Nicky Hughes, cyfarwyddwr cysylltiadau cyflogaeth Coleg Brenhinol y Nyrsys (RCN) yng Nghymru: "Mae nyrsys yng Nghymru ac ar draws y DU wedi camu i'r adwy yn ystod y pandemig.

"Maent wedi llosgi allan. Maen nhw angen teimlo eu bod yn cyfrif."

Roedd y codiad o 1% sy'n cael ei awgrymu yn Lloegr, yn "gwbl gywilyddus", meddai.

"Mae llawer o'n haelodau wedi ypsetio, a ddim yn credu'r fath beth."

Nid oedd nyrsys wedi cael codiad cyflog ers peth amser, meddai, ac roedd angen i ni weld eu gwerth "nid yn unig am y swydd a'r rôl y maent yn ei chyflawni, a'r proffesiwn y maent yn rhan ohono, ond hefyd am yr hyn y maent wedi bod drwyddo yn y flwyddyn a aeth heibio."

Roedd gan lywodraeth Cymru gyfle i gynnig mwy na 1%, meddai.

"Er bod ein harian yn dod o lywodraeth San Steffan mae gennym gyfleon yng Nghymru i wneud pethau'n wahanol, a gall llywodraeth Cymru wneud penderfyniad ar unrhyw ychwanegiadau y gallant roi i ni ar ben beth bynnag fydd y codiad a gawn gan y corff adolygu, mwy na thebyg ym mis Mai."

Pan ofynnwyd a fyddai'r nyrsys yn mynd ar streic os na chaent godiad o 12.5% dywedodd Ms Hughes:

"Dydi nyrsys ddim eisiau mynd y ffordd yna, rydym yno i edrych ar ôl cleifion yn enwedig yn yr amseroedd anodd hyn. Fydda dim un nyrs eisiau cerdded i ffwrdd o'i rôl glinigol.

"Ond ar yr un pryd maen angen inni wneud yn siŵr fod staff yn cael eu gwerthfawrogi a'u bod yn cael cyflog teg am y rôl y maent yn ei chyflawni. Na, fydden ni ddim yn gostwng ein gofynion, ond byddwn yn mynd at ein haelodau a gofyn iddynt beth maen nhw eisiau ei wneud."

Roedd y sector nyrsio'n cael trafferthion oherwydd prinder staff, meddai, ac nid oedd yn gallu denu graddedigion os nad oedd y cyflog yn deg.

Yr aberth eithaf

"Ymhen wythnos fe fyddwn yn cynnal gwasanaeth i gofio'r holl weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol sydd wedi colli eu bywydau yn ystod Covid-19," meddai.

"Dyma'r aberth eithaf. Beth arall sy'n rhaid i nyrsys ei wneud i brofi eu cyfraniad gwerthfawr i ofal iechyd? Nid yw codiad cyflog o 1% yn rhywbeth i'w drafod. Dydan ni ddim eisiau esgusodion, rydym angen gweithredu."

Dywedodd llywodraeth y DU mai dim ond 1% oedd yn fforddiadwy, tra'u bod yn cydnabod "gwaith ac ymroddiad" staff dros y 12 mis diwethaf.

Yn ôl llefarydd ar ran y Prif Weinidog Boris Johnson, roedd San Steffan wedi gwneud popeth yn ei allu i ddiogelu swyddi a b ywoliaethau, ac roedd dros filiwn o staff y GIG yn Lloegr yn dal i gael budd o gytundebau aml-flwyddyn oedd yn bodoli eisoes.

Ond dywedodd arweinydd Plaid Cymru Adam Price bod y ffigwr ar gyfer Lloegr yn "hollol atgas", a'i fod yn cynrychioli toriad cyflog mewn termau real.

"Rydym yn cefnogi galwad yr RCN ac undebau eraill yn y maes iechyd am godiad cyflog ystyrlon."Dydi 1% ddim hyd yn oed yn godiad cyflog. Mae chwyddiant o gwmpas 1.5 i 1.8%. Mae'n doriad cyflog."