Â鶹ԼÅÄ

Pa mor hawdd yw hi i wneud apwyntiad meddyg teulu?

  • Cyhoeddwyd
meddyg teulu a chlafFfynhonnell y llun, Getty Images

"Mae'n haws siarad gyda Duw."

Dyna oedd ymateb un person pan ofynnodd Â鶹ԼÅÄ Cymru pa mor hawdd oedd cael apwyntiad gyda meddyg teulu.

Mae meddygon teulu wedi galw ar Lywodraeth Cymru i neilltuo arian ar gyfer gwella systemau gwneud apwyntiadau, gan ddweud bod cleifion yn gorfod cystadlu gyda'i gilydd am ofal.

Ymateb cymysg gafwyd gan gleifion i ymholiadau Â鶹ԼÅÄ Cymru, gyda rhai'n hapus â'r ffordd y mae eu meddygfa'n gweithio, ac eraill yn cael trafferthion.

Beth yw'r broblem?

Y ddau anhawster sy'n codi amlaf yw trafferth cael drwodd i'r feddygfa i siarad gyda rhywun. Roedd hynny bron yn amhosib yn ôl rhai.

Ac ar ôl llwyddo i gael drwodd roedd y claf yn wynebu'r ail broblem, pan fyddai'n cael gwybod nad oedd apwyntiad ar gael ac y dylai ffonio'n ôl yfory. Ond yn aml byddai'n cael yr un drafferth y diwrnod canlynol.

Dywedodd un ymatebydd: "Lawer gwaith rydym wedi ffonio ein meddygfa am 08:00, ac mae'n cymryd o leiaf awr i gael trwodd, dim ond i gael gwybod nad oes apwyntiad ar gael ac i ffonio'n ôl yfory."

Ar y llaw arall, dywedodd un claf: "Gwych. Fy meddygfa yw Meddygfa Heol Dyfed yng Nghastell-nedd. Rwyf wedi cael sawl apwyntiad dros y ffôn, fel rheol ar yr un diwrnod a gyda fy meddyg teulu o ddewis."

Ffynhonnell y llun, John Evans
Disgrifiad o’r llun,

Mae John Evans yn canmol ei feddygfa, ond yn feirniadol o'r system gwneud apwyntiadau

Mae John Evans, 54, sy'n weinidog yng Nghapel y Bedyddwyr Gendros yn Abertawe, yn canmol ei feddygon teulu a'r staff yn y dderbynfa ym Meddygfa Fforestfach, ond mae'n feirniadol o'r system.

"Mae'n eitha' gwael," meddai.

Fel offeiriad cymunedol mae'n dod i gysylltiad â nifer o bobl y mae'n eu disgrifio fel pobl fregus, sydd wedi sôn wrtho am eu trafferthion wrth gysylltu gyda'u meddygfa leol.

"Yn gyntaf bydd pobl yn ffonio, ac yn methu ymuno â'r ciw [i siarad gyda'r dderbynfa]. Dwi wedi ffonio 60 o weithiau, a fedrwch chi ddim ymuno â'r ciw," meddai.

"Dydy hynny ddim yn hawdd pan rydych chi'n gweithio."

Yr unig ffyrdd o gysylltu gyda'r feddygfa oedd drwy un rhif ffôn, neu drwy lythyr.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n bosib i'ch meddyg teulu gynnal ymgynghoriad fiedo gyda chleifion

Mae Mr Evans yn credu y byddai ap neu system apwyntiadau ar-lein yn hwyluso pethau.

"Fyddai o ddim yn ei gwneud pethau'n haws i bawb ond pe bai canran fawr yn dod oddi ar y system ffôn, byddai'n helpu," meddai.

Dywedodd fod pobl yn cael eu hannog i gysylltu â'u meddyg ac i beidio ag anwybyddu symptomau iechyd.

"Ond os ydy hi mor anodd â hyn yn ein practis ni, dydi pobl ddim am wneud hynny.

"Pan mae hi mor hawdd bwcio ar-lein i gael bwrdd mewn bwyty, fe ddylai fod felly ar gyfer iechyd."

'Ymddiheuro'n ddiffuant'

Yn eironig, pan geisiodd y Â鶹ԼÅÄ gysylltu â Meddygfa Fforestfach am ymateb, roedd neges yn dweud bod y "ciw o'ch blaen yn llawn".

Pan ffoniodd y Â鶹ԼÅÄ yn ôl yn ddiweddarach, roedd pedwar o'n blaenau yn y ciw. Ar ôl aros 50 munud roedd tri pherson yn dal o'n blaenau yn aros eu tro.

Anfonodd y feddygfa ymateb ar e-bost yn dweud: "Rydym yn ymddiheuro'n ddiffuant am yr oedi y mae rhai cleifion yn wynebu wrth sicrhau apwyntiadau.

"Rydym yn hynod o brysur ar hyn o bryd ac yn gwneud ein gorau i weld cleifion cyn gynted â phosib, ond yn gofyn i bobl fod yn amyneddgar. Byddwn yn falch o drafod pryderon y claf gydag ef yn uniongyrchol."

Ffynhonnell y llun, Catrin Lawson
Disgrifiad o’r llun,

Mae ap gwneud apwyntiadau wedi gwneud bywyd yn haws i Catrin Lawson

Yn ardal Sgeti, Abertawe, mae Catrin Lawson yn hapus iawn gyda'i meddygfa.

Mae hi'n gallu defnyddio ap i adrodd am unrhyw salwch, ac mae'r feddygfa'n cysylltu gyda hi drwy'r ap neu dros y ffôn.

Mae Ms Lawson - athrawes 47 oed - yn cydnabod ei bod wedi cael trafferth mynd drwodd i'r feddygfa ar rai adegau, ond mae'n credu mai dyna pam fod defnyddio'r ap mor hwylus.

"Dydy hyn ddim am siwtio pawb ond dwi ddim yn blocio'r system ffôn y peth cyntaf yn y bore, ac mae'r meddyg teulu'n gallu cysylltu efo fi."

'Llawer haws'

Mae Fay Williams, sy'n defnyddio meddygfa Clydach, hefyd wedi defnyddio ap heb unrhyw drafferthion.

"Dwi'n hapus iawn gyda pha mor gyflym yw'r ymateb drwy'r ap askmyGP - mae'n ffordd llawer haws o gysylltu gyda'r feddygfa," meddai.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, sy'n gofalu am yr ardaloedd hyn, bod rhai meddygfeydd yn derbyn lefel uwch nag arfer o alwadau gan gleifion.

Roedd y bwrdd yn helpu meddygfeydd "i gyflwyno system apwyntiadau a dosbarthu ar-lein - askmyGP - sydd wedi cael ei ddefnyddio'n llwyddiannus gan lawer o feddygfeydd ym Mae Abertawe."

Ffynhonnell y llun, Robert Vincent
Disgrifiad o’r llun,

Nid yw defnyddio'r cyfrifiadur mor hwylus i rai, meddai Robert Vincent

Ond yn ôl Robert Vincent, 72 o Borthcawl, Pen-y-bont ar Ogwr, nid yw'r system ar-lein yn mynd i fod yn addas i bawb.

"Mae system ar-lein i gael ar gyfer gwneud apwyntiadau, ond dydw i ddim yn dda iawn gyda chyfrifiadur felly fe wnes i roi lan," meddai.

Mae ei feddygfa'n defnyddio system eConsult, lle mae cleifion yn gallu mynd ar-lein yn y bore i ofyn am gyngor, sy'n gallu arwain at roi presgripsiwn neu drefnu apwyntiad meddyg os oes angen.

Roedd wedi cymryd o 8 Medi i 21 Medi iddo lwyddo i gael trwodd i'w feddygfa er mwyn bwcio brechiad ffliw, meddai.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg sy'n gyfrifol am ardal Porthcawl ei bod yn bwysig i gleifion roi adborth i'w meddygfeydd, er mwyn dysgu o'u profiadau a gwella'r drefn.

'Hynod o rwystredig'

Ond dywedodd person sy'n gweithio i'r GIG bod y system ar-lein yn gallu bod yn "hynod o rwystredig".

"Dydy llenwi ffurflen e-consult ac wedyn disgwyl i chi fod ar gael ar y ffôn drwy gydol y diwrnod canlynol ddim yn ymarferol os ydych chi'n weithiwr rheng flaen yn y GIG," meddai.

"Mae'r ychydig ymgynghoriadau dwi wedi'u cael wedi bod yn hynod rwystredig ac anfoddhaol.

"Dwi ddim yn cyboli nawr, dwi jest yn gohirio gwneud unrhyw beth [am fy materion iechyd]. Sut allen nhw ddweud unrhyw beth am fy iechyd corfforol dros y ffôn neu drwy lun ar ffôn symudol?

"Os fedr y gwasanaeth gofal dwys [mewn ysbytai] wneud apwyntiadau wyneb yn wyneb pam na all meddygon teulu?"