Galw am fuddsoddi yn y drefn apwyntiadau meddygol

Disgrifiad o'r llun, Dywed Dr Sioned Enlli o Gaernarfon fod pwysau "aruthrol" ar feddygon teulu erbyn hyn
  • Awdur, Catrin Haf Jones
  • Swydd, Gohebydd Gwleidyddol 麻豆约拍 Cymru

Mae meddygon teulu yn dweud bod y gystadleuaeth i sicrhau apwyntiad ben bore ar y ff么n yn achosi straen i gleifion.

Mae'r corff sy'n cynrychioli meddygon teulu Cymru yn dweud bod angen i'r llywodraeth ariannu gwasanaeth bwcio apwyntiadau ar-lein a thechnoleg apwyntiadau fideo.

Yn 么l Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu, buddsoddi yw'r unig ffordd i sicrhau mynediad amserol a chynaliadwy i gleifion.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod nhw wedi buddsoddi'n sylweddol mewn hyfforddi meddygon teulu a gwella technoleg apwyntiadau.

'Dim stop ar y ff么n'

Yn 么l Mair Hopkin o Goleg Brenhinol Meddygon Teulu Cymru mae'r "creisis" o fynediad i feddygfeydd yn dyddio'n 么l cyn Covid-19.

"Roedd nifer o gleifion yn ei chael hi'n anodd cael apwyntiad cyn dechrau'r pandemig ac yn gorfod aros sawl wythnos i weld meddyg teulu," meddai.

Yn 么l Dr Sioned Enlli o feddygfa Hafan Iechyd yng Nghaernarfon, mae'r pwysau ar feddygon teulu bellach yn "aruthrol".

"Mae'r ff么n yn canu o pan 'da ni'n agor i pan 'da ni'n cau. Does dim stop ar y ff么n yn canu yn gofyn am apwyntiadau ac yn y blaen.

"Er enghraifft ar fy rhestr i ddydd Llun roedd 60 'contact' gyda chleifion, felly ro'n i'n gorfod mynd i ddelio gyda'r achosion argyfwng ar adeg fel yna.

"Rydan ni'n trio gwella y ffordd ma' nhw'n cysylltu efo ni, trwy gynnig pethau fel neges destun ac e-bost, fel bod nhw'n cael cyswllt efo ni mewn ffordd gwahanol rhag bod nhw'n gorfod aros ochr arall y ff么n."

Yn 么l Llywodraeth Cymru mae meddygon teulu'n cynnal "mwy o apwyntiadau nag erioed o'r blaen" ar hyn o bryd.

Ond mae Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu yn dweud bod y galw am apwyntiadau dan y system bresennol yn "gorfodi cleifion s芒l i wynebu'r straen o gystadlu gyda chleifion eraill am apwyntiad pan fod y llinellau yn agor ar ddechrau bob dydd".

Mae pryderon hefyd bod rhwystredigaeth cleifion yn gallu troi'n ymosodol tuag at staff.

Yn 么l Dwysan Edwards, rheolwr meddygfa yn Wrecsam, mae'r staff yno'n wynebu bygythiadau a gweiddi yn ddyddiol.

"Mae 'na lot o bobl allan yno yn frustrated, lot o bobl yn gweiddi arnon ni ac yn bygwth ni. Mae'n anodd," meddai.

"Bob dydd ma' rhywun yn dweud 'if I die, it's your fault'. Ddoe wnaeth rhywun bygwth ddod mewn i'r practice a cymryd beth o'n nhw eisio. Rydan ni'n cael pethau fel'na o hyd."

Disgrifiad o'r llun, Dywed Dwysan Edwards fod y galw wedi "mynd fyny gymaint"

Yn 么l Dwysan Edwards, mae'r cyswllt uniongyrchol 芒 chleifion yn ei meddygfa hi wedi cynyddu 20% o'i gymharu 芒'r cyfnod cyn y pandemig.

Mae hynny er gwaethaf heriau ymarferol fel salwch staff a'r amser ychwanegol mae'n ei gymryd i ddilyn canllawiau Covid tra'n darparu apwyntiadau wyneb yn wyneb.

"Yn Wrecsam mae gynnon ni fwy o apwyntiadau o'n blaenau ni nag ydan ni fod i gael, ond dydy o dal ddim yn ddigon," meddai.

"Mae'r cynnydd o 20% yna wedi gwneud pethau'n anoddach i ni ddarparu'r gwasanaeth ydan ni isio, mae'r galw wedi mynd fyny gymaint."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae Coleg Brenhinol Meddygon Teulu Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud buddsoddiad hirdymor i ddenu rhagor o staff i'r maes, law yn llaw 芒 chyfres o newidiadau tymor byr i wella'r sefyllfa bresennol, gan gynnwys:

  • Cefnogi meddygfeydd gyda chost ac isadeiledd darparu system bwcio apwyntiadau ar-lein;
  • Arfogi cleifion i wneud y penderfyniadau gorau yngl欧n 芒 pha weithiwr neu wasanaeth iechyd sydd fwyaf addas iddyn nhw;
  • Sicrhau bod opsiwn o apwyntiad ff么n a fideo ar gael i bawb;
  • Datblygu r么l 'Cyfarwyddwr Gofal' fel model newydd o ddelio 芒 galwadau cleifion.

Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod "nifer o feddygfeydd nawr yn cynnig ymgynghoriad ar y ff么n ac ar fideo.

"Fe wnaethon ni gyflymu'r ddarpariaeth 'Attend Anywhere' ymgynghori fideo yn ystod y pandemig ac ers hynny mae dros 14,000 o ymgynghoriadau fideo a meddygon teulu wedi eu cynnal," meddai'r llefarydd.

"Rydyn ni hefyd yn edrych ar ffyrdd o ddefnyddio technoleg er mwyn gwella systemau bwcio cleifion.

"Ers 2017 rydyn ni hefyd wedi cynnig cymhelliant ariannol i ddenu meddygon teulu dan hyfforddiant i gynlluniau arbennig yng ngogledd a gorllewin Cymru, ardaloedd sy'n hanesyddol anoddach recriwtio iddynt.

"Rydyn ni hefyd wedi ymestyn y nifer o lefydd hyfforddi ar gyfer nyrsys a gweithwyr iechyd sy'n cyfrannu at dimau iechyd aml-ddisgyblaeth."